Unwaith y bydd eich cais wedi'i gwblhau a'ch bod yn ei gyflwyno i ni, byddwn yn gwneud y canlynol:
Cam 1
Byddwn yn derbyn eich cais, yn cynnal gwiriad cychwynnol am gyflawnrwydd eich cais, ac yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cais.
Cam 2
Unwaith y bydd eich cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, byddwn yn cyhoeddi eich nodau adnabod arfaethedig ar ein gwefan i'r cyhoedd wneud sylwadau arnynt. Fel arfer, rydym yn cyhoeddi manylion y ceisiadau a dderbynnir yn wythnosol.
Cam 3
Byddwn yn asesu eich cais yn erbyn y profion statudol yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
Cam 4
Byddwn yn penderfynu a ddylid cymeradwyo neu wrthod eich cais ac yn eich hysbysu o'r canlyniad. Os gwrthodir eich cais, byddwn yn egluro ein rhesymeg yn ysgrifenedig.
Os cewch eich cymeradwyo, byddwn yn diweddaru'r gofrestr gyhoeddus o bleidiau gwleidyddol gyda'ch manylion. Byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth atoch am eich adrodd ariannol a rhwymedigaethau eraill fel plaid wleidyddol gofrestredig.