Rhaid i chi gyflwyno cyfansoddiad eich plaid fel rhan o'ch cais i gofrestru plaid wleidyddol.
Rhaid bod gan bleidiau gwleidyddol gyfansoddiad ysgrifenedig sy'n nodi strwythur a threfniadaeth eich plaid. Dylai hyn nodi trefniadau llywodraethu eich plaid a'r rheolau ar gyfer cyflawni ei busnes. Rhaid i'r cyfansoddiad ddangos y gall y blaid gydymffurfio â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) – h.y. ni all dim ynddo fynd yn groes i'r gofynion cyfreithiol.
Mae'n bosibl y bydd cyfansoddiad eich plaid yn cynnwys mwy nag un ddogfen. Er enghraifft, efallai y bydd gan eich plaid gyfres o Reolau a Rheolau Sefydlog ar gyfer cyfarfodydd. Bydd unrhyw ddogfen sy'n pennu strwythur a threfniadaeth y blaid yn rhan o gyfansoddiad y blaid o dan PPERA ac felly, rhaid iddi hefyd gael ei rhoi i ni fel rhan o'r cais.
Mae'n bwysig bod eich cynllun ariannol a'ch cyfansoddiad yn cyd-fynd â'i gilydd ac nad ydynt yn gwrth-ddweud ei gilydd. Er enghraifft, dylai'r ddwy ddogfen gytuno ar y modd y caiff eich cyfrifon eu cadarnhau, pwy sy'n gyfrifol am y cyfrifon a phwy all awdurdodi gwariant ar ymgyrch mewn etholiadau.
Er mwyn i'ch cais gael ei gymeradwyo, rhaid i'ch cyfansoddiad gynnwys digon o wybodaeth am strwythur a threfniadaeth eich plaid.
Nid oes angen i blaid gael ei chofrestru fel cwmni er mwyn cael ei chofrestru â ni. Os yw eich plaid wedi'i strwythuro fel hyn, yna dylai'r cyfansoddiad gynnwys manylion sut y mae cofrestriad y cwmni yn effeithio ar strwythur a threfniadaeth y blaid neu'n rhyngweithio â nhw. Dylid adlewyrchu unrhyw wybodaeth berthnasol hefyd yn y prosesau a amlinellir yng nghynllun ariannol y blaid.
Nid yw'n ofynnol i bleidiau llai gael cyfansoddiad na chyflwyno un fel rhan o'u cais.
Cyfraith cydraddoldeb
Dylech sicrhau bod eich cyfansoddiad a’r ffordd y mae eich plaid yn gweithredu yn cydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb. Yn benodol, dylech sicrhau nad yw eich cyfansoddiad yn gwahaniaethu'n afresymol yn erbyn unigolion â nodweddion gwarchodedig rhag dod yn aelodau o'r blaid. Dylech ddarllen y canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd ar gael ar eu gwefan.
Byddwn yn gwirio a yw'n ymddangos bod eich cyfansoddiad yn groes i gyfraith cydraddoldeb y DU. Byddwn yn cysylltu â chi os oes gennym unrhyw bryderon yn ei gylch.