Pleidiau sy'n cofrestru ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon

Mae plaid sy'n gwneud cais i gofrestru ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon yn endid unigol nes y bydd cais wedi'i gymeradwyo ar gyfer pob cofrestr briodol. Wrth gofrestru, bydd yr endid unigol yn dod yn ddwy blaid gofrestredig ar wahân yn unol â chyfraith etholiadol. Bydd y blaid ym Mhrydain Fawr a'r blaid yng Ngogledd Iwerddon yn ddarostyngedig i reolaethau ariannol gwahanol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Gan y byddwch yn gwneud cais fel un sefydliad, dim ond un cofnod o asedau a rhwymedigaethau y bydd angen i chi ei gyflwyno pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru plaid ar y ddwy gofrestr.

Rhaid i'ch cynllun ariannol ddangos sut y caiff materion ariannol y blaid ym Mhrydain Fawr eu cynnal ar wahân i faterion ariannol y blaid yng Ngogledd Iwerddon er mwyn cydymffurfio â'r gofynion rheolaethau priodol sy'n gymwys i bob cofrestr. Mae'n bosibl y gofynnir i chi ddarparu rhagor o dystiolaeth i ddangos bod y materion ariannol yn cael eu cynnal ar wahân cyn y gellir cymeradwyo eich cais. Gweler Eich cynllun ariannol i gael rhagor o wybodaeth am lunio eich cynllun ariannol.

Byddwn yn asesu pob cais fesul achos. Fel rhan o'r asesiad, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth neu dystiolaeth gennych i sicrhau ein bod yn fodlon bod eich cais yn bodloni gofynion PPERA.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022