Sut i gofrestru eich plaid wleidyddol
Asedau sefydlog
Eitemau a brynir at ddefnydd hirdymor eich plaid yw asedau sefydlog. Er enghraifft, eiddo, offer swyddfa, dodrefn, yn ogystal â buddsoddiadau megis stociau, cyfranddaliadau ac eiddo buddsoddi. O dan Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU (GAAP y DU), gelwir asedau sefydlog yn asedau anghyfredol hefyd.
Mae'r categorïau a gofnodir o dan asedau sefydlog fel a ganlyn:
- Eiddo
- Gosodiadau a ffitiadau
- Offer swyddfa
- Eiddo buddsoddi
- Buddsoddiadau eraill
Eiddo
Mae eiddo yn cyfeirio at unrhyw safle y mae eich plaid yn berchen arno ac a ddefnyddir ar gyfer busnes y blaid.
Dylech gofnodi cyfanswm gwerth yr eiddo.
Dylid cofnodi gwerth yr eiddo fel y pris gwreiddiol.
Os caiff yr eiddo ei ailbrisio'n broffesiynol, gallwch benderfynu cofnodi'r gwerth newydd. Os mai dyma yw'r achos, dylech gynnwys brawddeg yn y blwch nodiadau yn egluro hyn.
Gosodiadau a ffitiadau
Mae gosodiadau a ffitiadau yn cyfeirio at eitemau mewn eiddo nad ydynt yn strwythurol. Er enghraifft, dodrefn, carpedi, nwyddau gwyn a goleuadau.
Dylid cofnodi'r gwerth fel y pris prynu gwreiddiol. Ni ddylech ailbrisio'r eitemau hyn.
Os nad ydych yn gwybod beth oedd pris prynu gwreiddiol ased, dylech roi amcangyfrif rhesymol o'i werth gwreiddiol.
Offer swyddfa
Mae offer swyddfa yn cynnwys nwyddau electronig a TG, megis cyfrifiaduron, argraffyddion, llun-gopiwyr a ffonau.
Dylid cofnodi'r gwerth fel y pris prynu gwreiddiol. Ni ddylech ailbrisio'r eitemau hyn.
Os nad ydych yn gwybod beth oedd pris prynu gwreiddiol ased, dylech roi amcangyfrif rhesymol o'i werth gwreiddiol.
Eiddo buddsoddi
Mae eiddo buddsoddi yn cyfeirio at unrhyw eiddo y mae eich plaid yn berchen arno, ond na chaiff ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau'r blaid.
Dylech gofnodi cyfanswm gwerth yr eiddo buddsoddi.
Dylid cofnodi gwerth yr eiddo fel ei bris gwreiddiol, neu'r pris a bennir yn dilyn prisiad proffesiynol. Os caiff yr eiddo ei ailbrisio yn ystod y flwyddyn, dylech gynnwys brawddeg yn y blwch nodiadau yn egluro hyn.
Os delir yr eiddo buddsoddi gan ymddiriedolaeth neu gwmni daliannol, dylech gofnodi'r gwerth a briodolir i'ch plaid yn unig.
Er enghraifft, os yw eich plaid yn rheoli 50% o eiddo buddsoddi, dim ond 50% o'r gwerth y dylid ei gofnodi.
Buddsoddiadau eraill
Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys stociau a chyfranddaliadau, neu asedau eraill y mae eu gwerth yn debygol o godi neu leihau. Mae hyn yn cynnwys cryptoarian ac arian cyfred digidol arall.
Dylid cynnwys cyfanswm gwerth yr holl fuddsoddiadau eraill y mae eich plaid yn berchen arnynt ar y fantolen.
Dylid cofnodi gwerth y buddsoddiad fel ei gost wreiddiol, neu'r pris a geir yn dilyn prisiad proffesiynol.
Dylid cofnodi stociau a chyfranddaliadau fel eu gwerth marchnadol ar 31 Rhagfyr. Er enghraifft, os byddwch yn cyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau ym mis Medi, dylai unrhyw stociau a chyfranddaliadau y mae eich plaid yn berchen arnynt gael eu cofnodi fel eu gwerth ar 31 Rhagfyr y flwyddyn flaenorol.