| Argraffu'r canllawiau llawn

Penderfyniadau cais

Cymeradwywyd

Os ydym yn fodlon bod eich cais yn bodloni'r profion statudol, yna rhaid i ni gofrestru eich plaid. Byddwn yn cadarnhau ein penderfyniad yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl, yn ogystal â chadarnhau dyddiad gweithredol y cofrestriad.

Nid oes angen disgrifiadau ac arwyddluniau i gofrestru plaid, felly gellir cofrestru eich plaid hyd yn oed os yw un neu fwy o ddisgrifiadau/arwyddluniau wedi cael eu gwrthod. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau ein penderfyniad.

Gwrthodwyd

Os nad ydym yn fodlon bod eich cais yn bodloni'r profion ar gyfer cofrestru, rhaid i ni ei wrthod. Byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio'n fanwl pam y gwrthodwyd unrhyw ran o'ch cais.

Ni ellir cofrestru plaid os:

  • nad yw ei henw yn bodloni'r profion statudol
  • nad yw ei chynllun ariannol na'i chyfansoddiad yn bodloni'r profion statudol
  • nad yw'n darparu datganiad o asedau a rhwymedigaethau na chofnod sy'n bodloni gofynion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda
  • nad yw ei chais yn cynnwys y wybodaeth ofynnol
  • nad yw'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn ei chais yn gyson â chyfraith etholiadol.

Os gwrthodir eich cais, gallwn eich cefnogi i wneud newidiadau cyn i chi ailgyflwyno eich cais. Yna byddem yn ei ystyried fel cais newydd.

Os gwnewch ail gais o fewn un mis calendr i'n penderfyniad ysgrifenedig, caiff y ffi gofrestru ei hepgor. Bydd angen talu'r ffi ymgeisio na ellir ei had-dalu ar gyfer unrhyw geisiadau ar ôl hynny.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2025