Beth y bydd yn rhaid i'ch cynllun ariannol ei gynnwys?
Rhaid i'ch cynllun gynnwys gweithdrefnau ar gyfer y canlynol:
cofnodi eich cyfrifon a rhoi gwybod amdanynt
ymdrin â rhoddion a benthyciadau
cynnal eich manylion cofrestru â ni
awdurdodi gwariant ar ymgyrchu a chyflwyno adroddiadau arno
Fel rhan o'r broses asesu, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi roi tystiolaeth am y ffordd y mae'r blaid wedi mabwysiadu ei chynllun ariannol. Er enghraifft, mae'n bosibl y gofynnir i chi pa weithdrefnau sydd gan y blaid er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau a nodir yn y cynllun ariannol hwn.
Mae plaid sydd wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ddwy blaid gofrestredig ar wahân at ddibenion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
Os byddwch yn cofrestru ar gofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, rhaid i'ch cynllun ariannol ddangos y caiff materion ariannol y blaid ym Mhrydain Fawr eu cynnal yn gwbl ar wahân i rai'r blaid yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn bwysig gan fod y rheolau ynghylch ble y gall plaid gael ei chyllid yn amrywio yn dibynnu ar ba gofrestr y mae'r blaid wedi'i chofrestru.
Os ydych chi wedi cofrestru fel plaid sydd ag unedau cyfrifyddu, neu'n bwriadu gwneud hynny, rhaid i bob uned gael ei henwi yng nghynllun ariannol y blaid. Nid yw ein templed ar gyfer y cynllun yn addas os mai dyma yw eich bwriad. Gallwn roi rhagor o gyngor ar yr hyn sy'n ofynnol, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf os ydych yn bwriadu cael unedau cyfrifyddu.