O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru plaid wleidyddol, mae'n rhaid i'r trysorydd arfaethedig wneud datganiad ynghylch yr asedau a'r rhwymedigaethau a ddelir gan y blaid hefyd. Mae'n rhaid i'r datganiad hwn nodi a yw eich plaid yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau ai peidio.
Bydd eich plaid yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau os yw cyfanswm gwerth asedau a chyfanswm rhwymedigaethau'r blaid yn £500 neu lai. Os byddwch yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau, nid oes angen i chi roi rhagor o fanylion i ni.
Fodd bynnag, os bydd cyfanswm gwerth asedau'r blaid, neu gyfanswm rhwymedigaethau'r blaid, yn fwy na £500, ni fydd eich plaid yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau. Mae'n rhaid i bleidiau nad ydynt yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau i'r Comisiwn Etholiadol gyda'u cais i gofrestru plaid.
Er enghraifft,
Mae gan Blaid A werth £50 mewn asedau ac nid oes ganddi unrhyw rwymedigaethau. Mae Plaid A yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gan nad oes ganddi asedau na rhwymedigaethau sy'n cyrraedd y trothwy adrodd, sef mwy na £500. Nid oes angen i'r blaid gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau.
Nid oes gan Blaid B unrhyw asedau na rhwymedigaethau. Mae Plaid B hefyd yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gan nad oes ganddi asedau na rhwymedigaethau sy'n cyrraedd y trothwy adrodd, sef mwy na £500. Nid oes angen i'r blaid gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau.
Mae gan Blaid C werth £700 mewn asedau a £600 mewn rhwymedigaethau. Nid yw Plaid C yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gan fod yr asedau a'r rhwymedigaethau yn fwy na £500. Felly, mae angen i Blaid C gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau.
Mae gan Blaid D werth £100 mewn asedau a £600 mewn rhwymedigaethau. Nid yw Plaid D yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gan fod ganddi werth mwy na £500 mewn rhwymedigaethau. Mae angen i Blaid D gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau hefyd.
Bydd y Comisiwn yn cynnwys p'un a yw eich plaid yn bodloni'r amod asedau a rhwymedigaethau ai peidio fel rhan o'r manylion a gyhoeddir ar y gofrestr gyhoeddus o bleidiau gwleidyddol. Byddwn yn cyhoeddi copi o'r cofnod ar y gofrestr hefyd.