O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), rhaid i chi gynnwys manylion penodol fel rhan o'ch cais i gofrestru plaid wleidyddol. Mae hyn yn cynnwys:
Cyfeiriad pencadlys y blaid (neu gyfeiriad cyfatebol)
P'un a ydych am gyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ai peidio – bydd hyn yn effeithio ar ba ffurflenni ariannol y gall fod angen i chi eu cyflwyno i'r Comisiwn cyn yr etholiadau hynny.
Rhaid i chi ddarparu cyfeiriad pencadlys eich plaid. Os nad oes gan eich plaid bencadlys, rhaid i chi ddarparu cyfeiriad lle y gall y blaid dderbyn gohebiaeth. Rhaid i hwn fod yn gyfeiriad ffisegol, ac nid yn gyfeiriad e-bost.
Mae'n bwysig nodi y bydd y cyfeiriad hwn ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus. Dylech osgoi defnyddio unrhyw gyfeiriadau cartref os nad ydych am iddynt gael eu cyhoeddi. Felly, efallai y byddwch am ystyried defnyddio cyfeiriad Blwch Post yn lle cyfeiriad cartref.
Dylech hefyd roi eich cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt i'r Comisiwn i'n galluogi i gysylltu â chi ynghylch gwybodaeth bwysig am eich cais ac yn y dyfodol ynghylch terfynau amser statudol pwysig.
Gwneud newidiadau
Os bydd eich plaid wedi'i chofrestru a'i bod yn ddiweddarach am newid unrhyw fanylion cofrestru, gallwch wneud cais i ddiwygio eich cofnod cofrestru unrhyw bryd.