Mae'r canllawiau hyn yn dweud wrthych beth y bydd angen i chi ei wybod a'i wneud i gofrestru plaid wleidyddol neu blaid lai am y tro cyntaf. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cyflwyno eich cais drwy ein system Cyllid Gwleidyddol Ar-lein. Mae gennym ffurflenni papur hefyd y gallwch eu lawrlwytho o'n gwefan.
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cynnal cofrestri pleidiau gwleidyddol ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae'r rhain yn gofrestri ar wahân.
Rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a'u swyddogion gydymffurfio â'r gyfraith, yn benodol fel y'i nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
Mae'r rheolau hyn yn cynnwys rheolaethau parhaus ar roddion, benthyciadau, gwariant ar ymgyrchu, cyfrifon blynyddol, diweddaru eich manylion cofrestru yn rheolaidd ac adnewyddu eich cofrestriad yn flynyddol. Cyn penderfynu gwneud cais, mae'n bwysig eich bod yn darllen yr holl ganllawiau a gyhoeddwyd gennym ar gofrestru plaid wleidyddol a'n canllawiau ar gyfer trysoryddion pleidiau er mwyn deall y broses gofrestru a'r rhwymedigaethau o ran adroddiadau ariannol.
Os byddwch yn methu â chydymffurfio â'r gyfraith, gallwch wynebu cosbau sifil neu droseddol. Felly, un rhan bwysig o'r broses gofrestru yw bod eich plaid yn dangos bod ganddi drefniadau a phrosesau addas ar waith i alluogi'r blaid i gydymffurfio â'r fframwaith cyfreithiol.
Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio ‘rhaid’ pan fyddwn yn cyfeirio at ofyniad cyfreithiol neu reoliadol penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sydd yn arfer dda ofynnol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol. Nid oes rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn, ond os gwnewch hynny, byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio â'r gyfraith.
Pleidiau llai
Gallwch ddewis cofrestru naill ai plaid wleidyddol neu blaid lai.
Gall plaid wleidyddol gyflwyno ymgeiswyr ym mhob etholiad yn yr ardal lle maent wedi'u cofrestru - rhai rhannau o Brydain Fawr neu bob rhan ohoni, neu bob rhan o Ogledd Iwerddon.
Dim ond mewn etholiadau cynghorau cymuned yng Nghymru a/neu etholiadau cynghorau plwyf yn Lloegr y gall pleidiau llai sefyll. Ni all pleidiau llai ymladd etholiadau yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon.
Mewn etholiadau ar gyfer cynghorau plwyf a chymuned, gall ymgeiswyr annibynnol, yn ôl disgresiwn y Swyddog Canlyniadau, ddefnyddio disgrifiad nad yw wedi'i gofrestru â ni ar yr amod nad yw'r disgrifiad yn hirach na chwe gair ac na ellir ei gymysgu â phlaid wleidyddol gofrestredig.
Nid yw pleidiau llai yn gorfod dilyn yr un rhwymedigaethau o ran adroddiadau ariannol â phleidiau gwleidyddol.