Rhaid i bleidiau gwleidyddol gynnwys pobl sydd wedi'u cofrestru ar gyfer rolau swyddogol penodol. Mae'r rolau hyn yn cynnwys:
arweinydd plaid
trysorydd y blaid (nid yw'n gymwys ar gyfer pleidiau llai)
swyddog enwebu
Rhaid i chi ddarparu enwau a chyfeiriadau cartref eich swyddogion.
Nid oes angen i chi gael tri unigolyn ar wahân ym mhob rôl, ond mae'n rhaid i chi gael o leiaf ddau berson fel swyddogion ar gyfer y blaid. Os mai un person fydd yn cyflawni pob un o'r rolau swyddogol, rhaid i chi gofrestru rhywun fel swyddog ychwanegol. Rhaid i'r swyddog ychwanegol gyflawni rôl benodedig yn y blaid. Os bydd gan eich plaid swyddog ymgyrchu, yna gellir ei gofrestru fel y swyddog ychwanegol.
Ni all yr un person gyflawni rolau'r trysorydd a'r swyddog enwebu oni bai mai ef yw'r arweinydd hefyd.
Byddwch yn ymwybodol mai rolau statudol yw'r rhain, sy'n cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol.
Rolau swyddogion dewisol
Swyddog ymgyrchu – a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod eich plaid yn cydymffurfio â'r cyfreithiau ariannol ar gyfer gwariant yr ymgyrch yn lle'r trysorydd. Ni all ymgymryd â rôl y trysorydd hefyd.
Swyddog ychwanegol – rhaid i chi wneud cais i gael swyddog ychwanegol os mai arweinydd y blaid yw'r trysorydd a'r swyddog enwebu hefyd ac nad oes gan eich plaid swyddog ymgyrchu.
Pleidiau llai
Os ydych yn blaid lai, rhaid i chi gofrestru arweinydd y blaid a swyddog enwebu. Rhaid i o leiaf ddau unigolyn gyflawni'r rolau swyddogion. Os mai un person fydd yn cyflawni'r ddwy rôl, rhaid i chi gofrestru rhywun fel swyddog ychwanegol. Ni ellir cofrestru pleidiau llai gyda thrysorydd neu swyddog ymgyrchu.