Asedau a ddefnyddir i ariannu gweithrediadau o ddydd i ddydd a threuliau parhaus eich plaid yw asedau cyfredol.
Mae asedau cyfredol yn cynnwys ‘arian parod mewn llaw’ ac ‘yn y banc’, yn ogystal ag asedau eraill nad ydynt ynghlwm wrth fuddsoddiadau hirdymor. Hynny yw, mae asedau cyfredol yn cyfeirio at unrhyw beth o werth y gellir ei droi'n arian parod yn hawdd.
Mae'r categorïau a gofnodir o dan asedau cyfredol fel a ganlyn:
Arian mewn llaw ac yn y banc
Stoc/stocrestr
Dyledwyr a rhagdaliadau
Arian mewn llaw ac yn y banc
Mae arian parod mewn llaw ac yn y banc yn cynnwys arian mân, cyfrifon cyfredol a chyfrifon cadw.
Cyfrifon buddsoddi tymor hwy yw cyfrifon cadw, nad yw mor hawdd tynnu arian ohonynt. Cedwir yr arian cadw am gyfnod penodol, neu dim ond drwy roi rhybudd neu drwy golli llog ar y cyfrif y gellir codi arian.
Dylid cynnwys cyfanswm yr arian mân a'r cyfrifon cyfredol a chadw sydd gan y blaid.
Dylai'r nodyn cyfrifyddu ddangos arian mân, y mathau o gyfrifon cyfredol a chyfrifon cadw, a'r symiau a ddelir yn y rhain.
Stoc/stocrestr
Mae stoc, neu stocrestr, yn cyfeirio at eitemau o werth sylweddol a brynwyd ond nad yw'r blaid wedi'u defnyddio eto.
Mae enghreifftiau yn cynnwys llenyddiaeth, papur, amlenni a stampiau, nwyddau ac eitemau ymgyrchu, megis crysau-t, mygiau, bagiau, ac eitemau ar gyfer rafflau/gwobrau.
Caiff y rhain eu prisio fel cost yr eitem, neu ffracsiwn perthnasol o'r gost os yw'r eitem wedi'i defnyddio'n rhannol. Mae'n bosibl y byddant yn destun gwerth gwahanol (sero fel arfer) os nad yw'r stoc o ddefnydd mwyach.
Dyledwyr a rhagdaliadau
Mae dyledwyr yn ymwneud â symiau pendant a phenodol sy'n ddyledus i'ch plaid gan sefydliadau neu unigolion hysbys a rhaid eu hategu ag ymrwymiad neu rwymedigaeth i dalu.
Gallai hyn gynnwys gwarant i wneud taliad nawdd yn y dyfodol am ddigwyddiadau sydd eisoes wedi bod, neu daliad ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau swyddfa a ddarparwyd gan y blaid.
Mae rhagdaliadau yn fwy cyffredin. Bydd y rhain yn codi pan fydd y blaid wedi talu am rywbeth ymlaen llaw ond nad yw wedi elwa arno eto.
Gallai hyn gynnwys taliad ymlaen llaw i logi lleoliad ar gyfer digwyddiad sydd i ddod neu daliad am bosteri a deunydd hyrwyddo nad ydych wedi'u cael eto.
Dylech gynnwys nodyn yn dadansoddi'r cyfansymiau hyn ac at beth y maent yn cyfeirio.