Pwynt Cyswllt Unigol
Introduction
Mae gan bob heddlu yn y DU swyddog Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer cyfraith etholiadol.
Rydym yn rhoi hyfforddiant a chyngor ar atal a chanfod troseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau i swyddogion yr heddlu sy'n ymgymryd â rôl y Pwynt Cyswllt Unigol.
Dogfennau canllaw a deunyddiau hyfforddiant
Mae'r Coleg Plismona yn darparu canllawiau ar blismona etholiadau yng Nghymru a Lloegr.
Mae hefyd yn darparu rhestr o droseddau a chosbau sy'n gysylltiedig ag etholiadau a refferenda, sydd ar gael i'w lawrlwytho.
I gael canllaw ar blismona etholiadau yn yr Alban, gallwch lawrlwytho ein Canllaw ar atal ac adnabod twyll etholiadol yn yr Alban.
Gallwch hefyd lawrlwytho dogfen gryno ar gyfer pob ardal sy'n cynnwys trosolwg o droseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau a'r camau y dylid eu cymryd.
- Lawrlwythwch canllaw cryno ar gyfer Cymru a Lloegr
- Lawrlwythwch canllaw cryno ar gyfer yr Alban
- Lawrlwythwch canllaw cryno ar gyfer Gogledd Iwerddon
Mae Heddlu Dinas Llundain yn darparu cwrs ar gyfer pwyntiau cyswllt unigol sy'n ymwneud â phlismona etholiadau ac ymchwilio i dwyll etholiadol. Dysgu mwy am y cwrs
Ein canllawiau i weinyddwyr etholiadau
Rydym yn darparu canllawiau ac adnoddau i helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau a'u staff i gynnal etholiadau a refferenda ynghyd â'r broses cofrestru etholiadol.
Gweld y canllawiau i weinyddwyr etholiadau
Ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid ddilyn rheolau penodol a nodir mewn deddfwriaeth. Rydym yn darparu canllawiau i helpu ymgeiswyr ac asiantiaid i gydymffurfio â'r rheolau.
Data ar dwyll etholiadol
Bob mis, rydym yn gofyn i heddluoedd ledled y DU anfon data atom am honiadau o dwyll etholiadol y maent yn eu cael ac yn ymchwilio iddynt.
Rydym yn adrodd ar nifer yr honiadau, y math o honiadau a'u canlyniadau.
Os ydych yn chwilio am ddata hŷn, cysylltwch â ni.
Rhoi gwybod am dwyll etholiadol
Rydym yn rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr am yr hyn y mae twyll etholiadol yn ei olygu, sut i roi gwybod amdano, a beth fydd yn digwydd pan fyddant yn gwneud hynny.