Ein gwaith gyda Senedd y DU

Rydym yn darparu cyngor a mewnwelediadau i helpu seneddwyr i gydymffurfio â chyfraith etholiadol, ymateb i ymholiadau a deall materion sy'n cael eu codi yn y Senedd.

Bil Cynrychiolaeth y Bobl

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r Bil Cynrychiolaeth y Bobl. Mae’r bil yn cynnwys:


•    cyflwyno ffurfiau mwy awtomataidd o gofrestru pleidleiswyr 
•    gostwng yr oedran pleidleisio fel y gall pobl ifanc 16 oed bleidleisio ym mhob etholiad yn y DU 
•    ehangu'r rhestr o ID pleidleisiwr a dderbynnir 
•    cryfhau rheolaethau cyllid gwleidyddol 
•    rhoi mwy o amddiffyniad i ymgeiswyr rhag camdriniaeth 
•    cryfhau gorfodi cyfreithiau cyllid gwleidyddol
 

Dysgwch ragor am y Bil Cynrychiolaeth y Bobl.

Rydym bob amser yn hapus i gyfarfod i drafod y Bil yn fanylach, gan gynnwys rhannu gwybodaeth ynghylch gwelliannau posibl y gallech fod yn eu hystyried. Gallwch gysylltu â ni drwy [email protected] 

Sut i gydymffurfio â chyfraith cyllid gwleidyddol

Rydym yn darparu canllawiau i Aelodau Seneddol a’u staff i’w helpu i ddeall yr hyn y mae’n rhaid iddynt ei wneud i gydymffurfio â chyfreithiau cyllid gwleidyddol.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau.

Adnoddau ar gyfer eich etholaeth

Rydym yn darparu ystod o adnoddau ar gyfer unrhyw un sy’n rhannu gwybodaeth am ddemocratiaeth gyda phleidleiswyr. Gallwch ddefnyddio’r adnoddau hyn ar gyfryngau cymdeithasol neu gyda grwpiau ac ysgolion yn eich etholaeth.
 

Cysylltu â ni

E-bostiwch ni yn [email protected]

•    os oes gennych gwestiynau am ein gwaith
•    angen cefnogaeth a chyngor, gan gynnwys cyngor pwrpasol ynghylch cydymffurfio â chyfraith etholiadol
•    os oes gennych etholwr sydd wedi cysylltu â chi ynglŷn ag etholiadau. 
•    os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwaith addysg, gan gynnwys sut y gallwn eich cefnogi gydag ymweliadau i ysgolion