Canllawiau: Rhoddion a benthyciadau i unigolion a sefydliadau eraill

Gweld y canllawiau

Gallwch weld y canllawiau drwy glicio ar y botwm isod. Defnyddiwch yr hidlydd i gyfyngu eich chwiliad i'r math o ganllawiau sydd eu hangen arnoch. Gallwch hefyd ddefnyddio'r opsiwn i chwilio am allweddair er mwyn eich helpu i ddod o hyd i ddeunydd penodol.

Rhoddion a benthyciadau i unigolion a sefyliadau eraill

Rhaid i fathau penodol o sefydliadau ac unigolion ddilyn rheolau ar y rhoddion a gânt a'r benthyciadau y byddant yn cytuno iddynt. Nodir y rheolau hyn mewn deddfwriaeth.

Rydym yn llunio canllawiau i'ch helpu i gydymffurfio â'r rheolau. Nid oes rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn, ond os gwnewch hynny, byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio â'r gyfraith. 

Chwilio rhoddion a benthyciadau i unigolion a sefydliadau a reoleiddir gennym

Golwg gyffredinol

Derbynwyr a reoleiddir

Gelwir rhai pobl a sefydliadau sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth yn dderbynwyr a reoleiddir. Dyma nhw:

  • Deiliaid rhai swyddi etholedig
  • Aelodau o bleidiau gwleidyddol
  • Grwpiau o aelodau o bleidiau (a elwir hefyd yn gymdeithasau aelodau) 
     
Golwg gyffredinol

Cymdeithasau anghorfforedig

Rydym yn rheoleiddio cyllid cymdeithasau anghorfforedig sy'n gwneud cyfraniadau gwleidyddol gwerth mwy na £37,270 yn ystod unrhyw flwyddyn galendr. 

Canllawiau i gymdeithasau anghorfforedig