Ffyrdd o gymryd rhan mewn democratiaeth
Overview
Y ddwy ffordd symlaf o gymryd rhan mewn democratiaeth yw gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio a’ch bod yn bwrw eich pleidlais mewn etholiadau yn eich ardal.
Ond oeddech chi'n gwybod bod yna lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi gymryd rhan mewn democratiaeth?
Cysylltwch â'ch cynghorydd lleol neu Aelod Seneddol
Os oes yna fater sy’n wirioneddol bwysig i chi a’ch bod am i’ch llais gael ei glywed, gallech chi gysylltu â’ch cynghorydd lleol neu’ch Aelod Seneddol (AS).
Gallech anfon e-bost neu lythyr, neu fynd i sesiwn o’r enw cymhorthfa lle gallwch gwrdd â’ch cynrychiolydd a thrafod y mater gyda nhw.
Gallwch gael gwybodaeth am bwy yw eich cynrychiolwyr a sut i gysylltu â nhw drwy ddefnyddio Write to Them.
Mae gan Senedd y DU hefyd wybodaeth am gysylltu â’ch AS neu aelod o Dŷ’r Arglwyddi.
Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a'r broblem sydd gennych, efallai y byddwch hefyd am gysylltu â'ch:
- Aelod o Senedd yr Alban, os ydych yn byw yn yr Alban
- Aelod o’r Senedd, os ydych yn byw yng Nghymru
- Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol, os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Llofnodwch neu dechreuwch ddeiseb
Mae llofnodi neu dechrau deiseb yn un ffordd o ddangos i Lywodraeth a Senedd y DU yr hyn sy’n bwysig i chi. Mae’n ffordd dda o ddangos i bobl eraill hefyd.
Llofnodwch neu dechreuwch ddeiseb ar wefan Llywodraeth y DU a Senedd y DU
Gallwch chwilio am ddeisebau sydd ar agor neu ddefnyddio'ch cod post i gael gwybod am ddeisebau sy'n lleol i chi.
Bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i ddeisebau sydd â mwy na 10,000 o lofnodion, a bydd deisebau â 100,000 o lofnodion yn cael eu hystyried ar gyfer trafodaeth yn Senedd y DU.
Gweithiwch fel clerc pleidleisio neu byddwch yn rhan o'r broses gyfrif ar y diwrnod pleidleisio
Mae cynghorau lleol yn cyflogi pobl i weithio fel staff gorsafoedd pleidleisio (a elwir yn glercod pleidleisio), ac i gyfrif y pleidleisiau ar ôl i orsafoedd pleidleisio gau.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel clerc pleidleisio neu fod yn rhan o’r broses gyfrif, mae angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor trwy roi eich cod post yn ein chwilotydd.
Dewch yn sylwedydd etholiadol
Rydym yn awdurdodi pobl a sefydliadau i arsylwi etholiadau’r DU a refferenda perthnasol.
Os byddwch yn gwneud cais i ddod yn arsylwr etholiadol achrededig, gallwch ymweld â gorsafoedd pleidleisio a bod yn bresennol pan fydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif.
Rhannwch ein hadnoddau
Ydych chi'n adnabod athro neu rywun sy'n gweithio ym myd addysg? Neu a oes gennych chi unrhyw bobl ifanc yn eich bywyd? Os felly, gallai ein hadnoddau addysg fod yn union yr hyn sydd ei angen arnoch i ddechrau’r sgwrs am ddemocratiaeth gyda phobl ifanc.
Edrychwch ar ein hadnoddau addysg
Mae gennym hefyd adnoddau eraill ar gyfer cymryd rhan mewn democratiaeth, o daflenni am ddangos ID ffotograffig a phleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mewn rhai etholiadau, i bosteri am gofrestru i bleidleisio.
Os ydych yn adnabod rhywun sy’n ymwneud ag elusen leol, neu efallai rhywun sy’n gweithio yn eich cyngor lleol, gallech eu hannog i ddefnyddio ein hadnoddau i rannu gwybodaeth am bleidleisio ac etholiadau.
Gwnewch sylw ar gais cofrestru plaid
Rydym yn cynnal cofrestrau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Os yw plaid am sefyll ymgeiswyr mewn etholiad gan ddefnyddio enw plaid, disgrifiad neu arwyddlun, mae angen iddynt gofrestru gyda ni.
Gallwch wneud sylwadau ar gais cofrestru plaid cyfredol, a dweud wrthym pam eich bod yn meddwl bod enw'r blaid, y disgrifiadau, neu'r arwyddluniau yn bodloni'r meini prawf cofrestru neu ddim. Byddwn yn ystyried eich sylw fel rhan o’n proses asesu.
Ewch i senedd
Ydych chi'n chwilio am ddiwrnod allan yn ymwneud â democratiaeth?
Mae pob un o’r pedwar adeilad seneddol yn y DU (yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) ar agor i ymwelwyr drwy gydol yr wythnos. Mae ymweliad yn ffordd wych o ddysgu am yr hanes a gweld democratiaeth ddydd i ddydd ar waith.
Dysgwch ragor am ymweld â:
- Senedd y DU yn San Steffan yn Llundain
- Senedd yr Alban yn Holyrood yng Nghaeredin
- Y Senedd yng Nghaerdydd
- Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont, Belfast
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am ddemocratiaeth ym Mhrydain, gallech hefyd ymweld ag Amgueddfa Hanes y Bobl ym Manceinion, yr amgueddfa ddemocratiaeth genedlaethol.
Gwyliwch drafodaeth
Gallwch wylio trafodaethau, trafodion a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn:
Sefwch fel ymgeisydd
Ydych chi erioed wedi ystyried sefyll fel ymgeisydd?
Gallech ddod yn aelod o'ch cyngor plwyf neu dref, cynghorydd lleol, neu hyd yn oed Aelod Seneddol. Gallech hefyd ddod yn aelod o Senedd yr Alban, y Senedd, neu Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Rydym yn darparu canllawiau i ymgeiswyr sy'n sefyll yn y gwahanol fathau o etholiadau, gan gynnwys gwybodaeth am y broses enwebu, terfynau gwario, rhoddion, ac ymgyrchu.
Gwirfoddolwch i sefydliad cymdeithas sifil
Mae sefydliadau fel Democracy Club, yr ydym yn gweithio gyda nhw i ddarparu ein chwilotydd cod post, yn aml yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi eu gwaith.