Deall hysbysebion gwleidyddol, taflenni a negeseuon ymgyrchu

We're showing you content for:

Mae cyfleu negeseuon i bleidleiswyr yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd. Mae angen i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr gyfathrebu â chi i esbonio eu barn a'u polisïau, fel eich bod yn wybodus pan fyddwch yn pleidleisio.

Gall ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr ofyn am fynediad at y gofrestr etholiadol lawn. Mae'r data hwn yn caniatáu iddyn nhw:

  • weld pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn eu hardal
  • anfon deunydd ymgyrchu fel taflenni neu hysbysebion at bleidleiswyr

Mae gan rai platfformau a gwefannau cyfryngau cymdeithasol offer y gall ymgyrchwyr gwleidyddol eu defnyddio i deilwra hysbysebion ar-lein i'ch diddordebau.

Bydd yr adnoddau hyn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y rheolau ar ymgyrchu.