Pwy all bleidleisio yn etholiadau'r DU
Atebwch ambell gwestiwn i ddarganfod a allwch gofrestru i bleidleisio
Pwy sy’n gallu cofrestru i bleidleisio yng Nghymru
Er mwyn cofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn (ond ni allwch bleidleisio nes eich bod yn 16 neu’n 18 yn dibynnu ar yr etholiad) ac yn un o’r canlynol:
- dinesydd y DU neu ddinesydd Gwyddelig
- yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad sy’n byw yn y DU
- yn ddinesydd cymwys yr UE sy’n byw yn y DU
- yn ddinesydd tramor cymwys
Mae diffiniad 'dinesydd y Gymanwlad' yn cynnwys dinasyddion Tiriogaethau Dibynnol y Goron a Thiriogaethau Prydeinig Tramor. Dinesydd ‘cymwys’ y Gymanwlad yw rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu rywun nad oes angen y fath ganiatâd arnynt.
Gwledydd y Gymanwlad | ||
---|---|---|
Antigwa a Barbwda | Awstralia | Bangladesh |
Barbados | Belîs | Botswana |
Brwnei Darussalam | Camerwn | Canada |
Cenia | Ciribati | Cyprus |
De Affrica | Dominica | Fanwatw |
Gaiana | Ghana | Grenada |
Gweriniaeth Unedig Tansanïa | India | Jamaica |
Lesotho | Malasia | Malawi |
Malta | Mawrisiws | Mosambic |
Namibia | Nawrw | Nigeria |
Pacistan | Papua Gini Newydd | Rwanda |
Sambia | Samoa | Sant Kitts-Nevis |
Sant Lwsia | Seland Newydd | Seychelles |
Sierra Leone | Simbabwe | Singapore |
Sri Lanca | St Vincent a'r Grenadies | Teyrnas Eswatini |
Tonga | Trinidad a Thobago | Twfalw |
Wganda | Y Bahamas | Y Gambia |
Ynysoedd Ffiji | Ynysoedd Solomon | Ynysoedd y Maldives |
Sylwch: Er eu bod hefyd yn aelodau o wladwriaethau'r UE, mae dinasyddion Cyprus a Malta yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
Tiriogaethau Dibynnol y Goron |
---|
Ynys Manaw |
Ynysoedd y Sianel (gan gynnwys Jersey, Guernsey, Sarc, Alderney, Herm ac Ynysoedd cyfannedd eraill y Sianel) |
Tiriogaethau Prydeinig Tramor | ||
---|---|---|
Anguilla | Ardaloedd gorsafoedd sofran ar Cyprus | Bermwda |
De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De | Gibraltar | Monserrat |
St Helena a thiriogaethau dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha) | Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India | Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig |
Ynysoedd Falkland | Ynysoedd y Caiman | Ynys Pitcairn |
Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf | Ynysoedd Turks a Caicos |
Hong Kong |
---|
Mae cyn-drigolion Hong Kong sydd â phasport Tiriogaeth Ddibynnol Brydeinig, pasbort Prydeinig Tramor, neu Wladolion Prydeinig (Tramor) yn gymwys i gofrestru. |
Gall holl ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru.
I gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae angen i chi fod yn ddinesydd un o’r gwledydd canlynol:
- Denmarc, Gwlad Pwyl, Lwcsembwrg, Portiwgal a Sbaen sy’n byw yn y DU, sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath
- unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu nad oedd angen caniatâd, ac mae hyn wedi parhau heb doriad
Gwledydd eraill yr UE yw:
- Yr Almaen
- Awstria
- Bwlgaria
- Croatia
- Cyprus
- Yr Eidal
- Estonia
- Y Ffindir
- Ffrainc
- Groeg
- Gweriniaeth Tsiec
- Gwlad Belg
- Hwngri
- Yr Iseldiroedd
- Latfia
- Lithwania
- Malta
- Romania
- Slofacia
- Slofenia
- Sweden
Er eu bod hefyd yn aelod-wladwriaethau o’r UE mae dinasyddion Cyprus, Malta ac Iwerddon yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
Dinesydd tramor cymwys yw dinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath.
Ym mha etholiadau y gallwch chi bleidleisio
Mae’r etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt yn dibynnu ar y canlynol:
- eich dinasyddiaeth
- eich oedran
- lle rydych yn byw
Dysgwch fwy am ba etholiadau y gallwch chi bleidleisio ynddynt