Rhoi gwybod am dwyll etholiadol
Overview
Chi sydd biau eich pleidlais. Nid yw'n eiddo i unrhyw un sy'n eich bygwth, neu sy'n ceisio eich llwgrwobrwyo, nac unrhyw un sy'n esgus mai chi ydyw.
Pan fydd rhywun yn ceisio twyllo'n fwriadol mewn etholiad yn y ffordd hon, gallai fod yn achos o dwyll etholiadol.
Gall twyll etholiadol gynnwys:
- gwneud datganiadau ffug ynghylch cymeriad personol ymgeisydd
- cynnig cymhelliad i rywun i'w annog i bleidleisio, i bleidleisio mewn ffordd benodol, neu i'w atal rhag pleidleisio
- ymyrryd â phleidleisiau post
- cynnwys datganiadau ffug neu lofnodion ffug ar ffurflenni enwebu ymgeisydd
- cofrestru i bleidleisio gan ddefnyddio enw ffug neu heb ganiatâd rhywun
- dylanwadu ar rywun i bleidleisio yn groes i'w ewyllys
- esgus bod yn rhywun arall a defnyddio ei bleidlais
Mae twyll etholiadol yn tanseilio'r broses ddemocrataidd. Mae'n fater difrifol, a gall troseddwyr fynd i'r carchar am ei wneud.
Rhoi gwybod am dwyll etholiadol
Os ydych yn credu eich bod wedi bod yn dyst i dwyll etholiadol, neu os ydych yn pryderu y gall fod yn digwydd, dylech roi gwybod amdano.
Gallwch roi gwybod am dwyll etholiadol drwy:
- ffonio'r heddlu ar 101
- cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar-lein, neu drwy ffonio 0800 555 111
Os nad ydych yn siŵr a gaiff ymddygiad penodol ei ganiatáu, dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol neu'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer eich ardal leol. Nhw sy'n gyfrifol am gynnal yr etholiad neu'r refferendwm a bydd ganddynt gynlluniau ar waith er mwyn nodi ymddygiad amheus.
Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn rhoi gwybod am dwyll etholiadol
Rhoi gwybod am dwyll etholiadol i'r heddlu
Os byddwch yn rhoi gwybod am dwyll etholiadol i'r heddlu, dylech ofyn am gael siarad â'r Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer Etholiadau yn eich ardal.
Mae Pwyntiau Cyswllt Unigol ar gyfer Etholiadau wedi cael hyfforddiant ar gyfraith etholiadol, ac rydym yn rhoi cyngor iddynt ar atal a chanfod troseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau.
Bydd y Pwynt Cyswllt Unigol yn gofyn am fanylion ynglŷn â'r twyll etholiadol roeddech yn dyst iddo neu'r pryderon sydd gennych, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych fod twyll etholiadol wedi digwydd. Dylech fod yn barod i wneud datganiad a rhoi tystiolaeth i ategu eich honiad. Bydd y swyddog hefyd yn gofyn am eich manylion cyswllt, rhag ofn y bydd angen iddo gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth, ac er mwyn iddo allu rhoi gwybod i chi am ganlyniad ei ymchwiliad.
Bydd y Pwynt Cyswllt Unigol yn cynnal ymchwiliad, ac yn penderfynu a oes trosedd sy'n gysylltiedig ag etholiadau wedi digwydd. Mae'n bosibl y bydd yn gweithio gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol neu'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer yr etholiad, neu'n gofyn i ni am ragor o wybodaeth am y rheolau.
Rhoi gwybod am dwyll etholiadol i Crimestoppers
Os byddwch yn rhoi gwybod am dwyll etholiadol i Crimestoppers, gofynnir i chi am fanylion ynglŷn â'r twyll etholiadol roeddech yn dyst iddo neu'r pryderon sydd gennych.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw, felly ni fydd angen i chi roi eich manylion os na fyddwch am wneud hynny.
Yr hyn rydym yn ei wneud
Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill er mwyn atal, canfod a chymryd camau gweithredu yn erbyn twyll etholiadol:
- awdurdodau lleol
- yr heddlu
- awdurdodau erlyn
- Y Post Brenhinol
- pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr
Rydym yn llunio canllawiau i bobl sy'n ymwneud ag etholiad neu refferendwm. Mae'r canllawiau hyn yn helpu pawb i ddilyn yr arferion gorau a chydymffurfio â'r gyfraith.
Drwy gydol y flwyddyn, mae heddluoedd ledled y DU yn anfon data atom am honiadau o dwyll etholiadol y maent yn eu cael ac yn ymchwilio iddynt. Gweld y data