Rhowch eich cod post

Dewch o hyd i'ch gwybodaeth am eich swyddfa gofrestru etholiadol a'ch gorsaf bleidleisio leol

Cofrestru i bleidleisio

Cofrestrwch i bleidleisio yn etholiadau’r DU os nad ydych wedi cofrestru o’r blaen, neu os ydych wedi symud tŷ neu newid eich enw

ID Pleidleisiwr

O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Mae hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, is-etholiadau a deisebau adalw
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.

Dim ID gyda chi? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr.

Atebwch ambell gwestiwn i ddarganfod a allwch gofrestru i bleidleisio