Adnoddau i bobl ifanc
Crynodeb
Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.
Crynodeb o adnoddau i bobl ifanc
Dysgwch am yr hyn y gallwch chi bleidleisio drosto, beth i'w ddisgwyl mewn etholiadau, a sut i fwrw eich pleidlais.
Rhannwch yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu â'ch ffrindiau a'ch teulu fel y gallwch chi annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan, dod yn wybodus a defnyddio eu pleidlais.
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais - podlediad y Blwch Democratiaeth
Cynnwys adnoddau i bobl ifanc
Gall pleidleisio, democratiaeth a gwleidyddiaeth fod yn ddryslyd. Weithiau gall iaith fod yn aneglur ac yn hen ffasiwn. Mae'n hawdd teimlo wedi eich llethu.
Bydd yr adran hon yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau, a sut y gallwch chi gymryd rhan mewn democratiaeth.
Gall gwleidyddiaeth deimlo'n anodd siarad amdani. Mae yna lawer o wahanol safbwyntiau ar faterion mawr a bach. Gallai deimlo mai chi yw’r unig un sy’n meddwl mewn ffordd arbennig ac efallai y byddwch yn poeni am rannu eich barn.
Mae'n hawdd osgoi siarad am bynciau difrifol. Fodd bynnag, po fwyaf y siaradwn amdanynt, y mwyaf y gallwn ei ddysgu a'r effaith fwyaf y gallwn ei chael.
Wrth siarad am wleidyddiaeth a democratiaeth, mae bob amser yn bwysig parchu safbwyntiau pobl eraill. Efallai y byddwch chi'n meddwl yn wahanol i'r rhai o'ch cwmpas, boed yn rhieni neu ofalwyr, brodyr a chwiorydd neu ffrindiau.
Cofiwch barchu’r person rydych chi’n siarad ag ef a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud hefyd. Mae’n dda teimlo’n angerddol am rywbeth ac mae’n bwysig trin pobl yn deg.
Cynhyrchwyd y podlediad hwn gan bobl ifanc yng Nghymru wrth iddynt ddysgu mwy am ddemocratiaeth a’u pleidlais.