Crynodeb

Rydym yn defnyddio'r term 'twyll etholiadol' i gyfeirio at achosion lle mae rhywun wedi cyflawni, neu yr honnir ei fod wedi cyflawni, troseddau cyfraith etholiadol penodol. Mae'r rhain yn droseddau sy'n ymwneud â chofrestru i bleidleisio, enwebu ymgeiswyr, ymgyrchu a phleidleisio.