Ymchwil cwestiwn y refferendwm
Overview of our role in referendum questions
Ar gyfer refferenda yn y DU, rydym yn edrych ar y ffordd y mae cwestiwn arfaethedig y refferendwm wedi'i eirio i wneud yn siŵr ei fod yn hawdd i bleidleiswyr ei ddeall. Fel rhan o'n hasesiad, rydym yn gwneud gwaith ymchwil gyda'r cyhoedd.
Ein rôl mewn cwestiynau refferenda
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ni ystyried pa mor ddealladwy yw cwestiynau refferenda'r DU, cenedlaethol, rhanbarthol a rhai cwestiynau refferenda llywodraeth leol. Mae hyn yn ofyniad o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Yn y cyd-destun yma, ry'n ni'n golygu refferenda lle gofynnit i bleidleiswyr bleidleisio ar gynnig y mae'r llywodraeth wedi'i ei roi gerbron y bobl.
Yn y math yma o refferendwm, caiff pleidleiswyr bapur pleidleisio sy'n cynnwys y cwestiwn neu'r cwestiynau ac o leiaf ddau ymateb posib i ddewis rhyngddynt. Mae faint o ymatebion y gall pleidleiswyr ddewis rhyngddynt yn dibynnu ar y system bleidleisio ar gyfer y refferendwm.
Ry'n ni wedi datblygu'r canllawiau hyn i:
- ein help i asesu pa mor ddealladwy yw'r cwestiwn a gynigir
- helpu pobl i ddrafftio cwestiynau refferendwm dealladwy
Yn y cyd-destun yma, mae 'cwestiwn' yn cynnwys y cwestiwn, yr ymatebion, ac unrhyw ddatganiad sy'n dod yn syth cyn y cwestiwn.
Canllawiau ar gyfer asesu cwestiynau refferendwm
Dylai cwestiwn refferendwm gyflwyno’r dewisiadau yn glir, yn syml ac mewn modd niwtral.
Dylai fod:
- yn hawdd ei ddeall
- yn berthnasol
- yn ddiamwys
Dylai osgoi:
- annog pleidleiswyr i ystyried un ymateb yn fwy na'r llall
- camarwain pleidleiswyr
Rhestr wirio
Byddwn yn dilyn y rhestr hon i'n helpu i asesu pa mor ddealladwy yw cwestiwn.
- Yw'r cwestiwn mewn iaith glir? Hynny yw, iaith sy'n bodloni'r canlynol:
- defnyddio brawddegau byr (tua 15 i 20 gair)
- yn syml, uniongyrchol a chryno
- yn defnyddio geiriau cyfarwydd, ac yn osgoi jargon neu dermau technegol na fyddai'r mwyafrif o bobl yn ei ddeall
- Yw'r cwestiwn wedi ei ysgrifennu mewn iaith niwtral, gan osgoi geiriau sy'n awgrymu barn yn amlwg neu'n ddealledig?
- Yw'r wybodaeth sydd yn y cwestiwn yn ffeithiol, yn disgrifio'r cwestiwn a'r opsiynau’n glir ac yn gywir?
- Yw'r cwestiwn yn osgoi cymryd unrhyw beth am farn y pleidleiswyr yn ganiataol?
Ein hymdriniaeth o ran cwestiynau refferendwm
Cwestiynau neu adborth
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am y canllawiau hyn, gallwch gysylltu â ni.