Ein blaenoriaethau ar gyfer diwygio etholiadau
Changing electoral law introduction
Yn hanesyddol, mae gan y DU reolau etholiadol cadarn ac effeithiol. Ond ni ddiweddarwyd llawer o'r cyfreithiau sy'n nodi sut y caiff ein hetholiadau eu cynnal ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llawer ohonynt yn hirfaith ac yn gymhleth ac nid ydynt yn addas at eu diben bellach.
Mae angen i hyn newid. Rydym wedi nodi pedwar maes y gellir eu gwella. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, Seneddau a grwpiau pwysig eraill yn y DU er mwyn rhoi hyn ar waith.
Improvements
Rydym am sicrhau'r canlynol:
- system cofrestru etholiadol sy'n addas ar gyfer yr oes sydd ohoni
- y gall pawb bleidleisio'n hyderus, ni waeth beth fo'u hanghenion mynediad
- cyfraith etholiadol sy'n haws i bawb ei dilyn
- y gall pawb weld pwy sy'n gwario arian ar ymgyrchu a dylanwadu ar bleidleiswyr yn ystod etholiadau a refferenda, ni waeth pa sianel a ddefnyddir
In this section
Gwella iechyd proses ddemocrataidd y DU
Gwella iechyd proses ddemocrataidd y DU
Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion a allai, os cânt eu rhoi ar waith, ddarparu buddion sylweddol i bleidleiswyr, ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadol, cyrff gorfodi a llunwyr polisi.