Ffyrdd i bleidleisio
Introduction
Gallwch ddewis pleidleisio yn bersonol, drwy'r post, neu drwy ddirprwy.
Fel rhan o'r Ddeddf Etholiadau, mae newidiadau i bleidleisio drwy'r post a drwy ddirprwy.
Ar gyfer pleidleisio drwy'r post, gallwch nawr wneud cais ar-lein ac mae angen i chi ailymgeisio am bleidlais bost bob tair blynedd. Ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy, mae cyfyngiadau ar faint o bobl y gallwch weithredu fel dirprwy ar eu rhan a gallwch wneud cais ar-lein am rai mathau o bleidlais drwy ddirprwy.
Mae'r newidiadau yn berthnasol i:
- Etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Mae'r cyfyngiad ar faint o bobl y gall pleidleisiwr weithredu fel dirprwy ar eu rhan hefyd yn berthnasol mewn etholiadau lleol ac etholiadau’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon.
Bu newidiadau hefyd i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU ar gyfer dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy glicio ar 'Newid' yn y blwch 'Eich lleoliad' ac yna dewis 'Tramor'.
Pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
Pleidleisio drwy'r post
Pleidleisio drwy ddirprwy
Gwneud pleidleiswyr yn ymwybodol o newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
Gwneud pleidleiswyr yn ymwybodol o newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
Gall sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phleidleiswyr, gan gynnwys awdurdodau lleol ac elusennau, helpu sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o newidiadau diweddar i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy.
Rydym wedi cynhyrchu ystod o adnoddau i helpu awdurdodau lleol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a phartneriaid eraill i gyfleu'r newidiadau hyn i bleidleiswyr.
Mae’r rhain yn cynnwys adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Archwiliwch ein hadnoddau am bartneriaid, elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil