Ymchwil, adroddiadau a data
Overview
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil ar amrywiaeth eang o bynciau, sy'n helpu i lywio ein gwaith a'n polisïau. Rydym yn mesur ansawdd y cofrestrau etholwyr ac yn cynnal arolygon ar agweddau'r cyhoedd at ddemocratiaeth a'r broses o bleidleisio. Yn dilyn etholiadau a refferenda, rydym yn casglu data megis nifer yr etholwyr, y nifer a bleidleisiodd a phapurau pleidleisio a wrthodwyd.