Moderneiddio pleidleisio: astudiaethau dichonoldeb pleidleisio hyblyg

Introduction

Mae ein hymchwil yn dangos bod pobl yn y DU yn gyffredinol hapus â'r ffyrdd presennol o bleidleisio'n bersonol mewn etholiadau. Ond mae'n bwysig edrych ar sut i barhau i wella etholiadau, i ddiwallu anghenion cyfnewidiol pleidleiswyr ac i wneud pleidleisio yn gyflymach, yn fwy cyfleus ac yn fwy hygyrch.

Mae llawer o ddemocratiaethau eraill ledled y byd eisoes yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyblyg ar gyfer pleidleisio. Rydym wedi edrych ar sut y gallai opsiynau tebyg, fel pleidleisio ymlaen llaw neu bleidleisio symudol mewn lleoedd fel cartrefi gofal, weithio ar gyfer etholiadau yn y DU. 

Edrychodd ein hymchwil ar sut y gellid cynnig yr opsiynau hyn o fewn systemau gweinyddu etholiadol presennol, gan gadw pleidlais bapur gyfredol y DU gyda’r prif ddiwrnod ar gyfer pleidleisio, sef dydd Iau, a chadw prosesau cyfrif cyfredol. Fe wnaethom ganolbwyntio ar fanteision, heriau ac ymarferoldeb llwybrau amrywiol ar gyfer pleidleisio hyblyg.

Mae'r wybodaeth a nodir yma wedi'i chynllunio i helpu i lywio dadl am ddyfodol pleidleisio yn y DU. Pe bai unrhyw opsiynau pleidleisio hyblyg yn cael eu datblygu gan lywodraeth yn y DU, rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy'n ddiogel, sy'n cadw etholiadau'n rhydd ac yn deg, ac sy'n ymarferol ac yn gyflawnadwy

Darparu pleidleisio hyblyg

Gwnaethom edrych ar ba dechnoleg y gallai fod ei hangen i ddarparu pleidleisio hyblyg. Roedd hyn yn cynnwys unrhyw galedwedd neu offer, meddalwedd a gofynion technegol eraill. 

Fe wnaethom hefyd archwilio’r hyn oedd ei angen o ran diogelwch, cysylltedd rhwydwaith, gwybodaeth arbenigol a chymorth. Gwnaethom edrych i weld a allai gofynion technegol fod yn wahanol ar gyfer y pum model pleidleisio.

Cofrestrau gorsafoedd pleidleisio: papur neu electronig?

Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o orsafoedd pleidleisio yn y DU yn defnyddio copïau papur o gofrestrau etholiadol. Mae'r rhain yn dangos yr holl bleidleiswyr cymwys yn yr ardal bleidleisio berthnasol, a chaiff pobl sydd wedi pleidleisio eu marcio gan staff gorsaf bleidleisio gan dynnu llinell yn erbyn eu cofnod yn y gofrestr.

Gallai'r modelau sylfaenol ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw, pleidleisio symudol a phleidleisio yn rhywle arall barhau i ddefnyddio'r cofrestrau gorsafoedd pleidleisio papur hyn. Fodd bynnag, byddai’n gwneud rhannau o’r broses yn fwy anodd. Byddai angen i opsiynau pleidleisio hyblyg eraill – hybiau pleidleisio a phleidleisio yn unrhyw le – ddefnyddio cofrestrau gorsafoedd pleidleisio electronig.

Gallai defnyddio cofrestrau papur yn unig ei gwneud yn anos diweddaru cofrestrau ynghylch pwy oedd wedi pleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio. Er mwyn atal pobl rhag pleidleisio fwy nag unwaith, gallai olygu y byddai angen i staff etholiadau ddiweddaru cofrestrau â llaw. Byddai llai o amser i wneud hyn pe bai'r cyfnod pleidleisio ymlaen llaw neu'r sesiwn bleidleisio symudol yn digwydd yn agos at y diwrnod pleidleisio. 

Byddai'n rhaid i leoliadau pleidleisio gadw copïau papur o'r gofrestr ar gyfer yr holl bleidleiswyr yn yr ardal berthnasol. Gallai gymryd mwy o amser i ddod o hyd i bleidleiswyr ar y gofrestr, yn enwedig mewn etholiadau lle mae mwy o bobl yn pleidleisio.

Mae rhai gwledydd bellach yn defnyddio cofrestrau gorsafoedd pleidleisio electronig (a elwir weithiau yn ‘lyfrau pleidleisio electronig’ neu’n ‘lyfrau e-bleidleisio’). Mae’r rhain yn galluogi staff gorsafoedd pleidleisio i ddefnyddio gliniaduron neu lechi i chwilio am enw pleidleisiwr ar y gofrestr a’i farcio fel un sydd wedi pleidleisio. Mae pobl sy'n cefnogi defnyddio'r systemau hyn yn dweud eu bod yn caniatáu i bleidleiswyr gofrestru'n gyflymach, yn lleihau'r risg o gamgymeriadau dynol, ac yn darparu gwybodaeth amser real am faint o bobl sydd wedi pleidleisio.

Yn y cynlluniau peilot pleidleisio ymlaen llaw ym mis Mai 2022 yng Nghymru, defnyddiodd yr awdurdodau peilot system sy'n darparu cofrestrau electronig yn yr orsaf bleidleisio ar ddyfeisiadau tabled.

Cysylltedd rhwydwaith

Byddai rhai opsiynau pleidleisio hyblyg angen cofrestrau gorsafoedd pleidleisio electronig sydd wedi'u cysylltu â chofrestr etholiadol ganolog, er enghraifft gan rwydwaith Wi-Fi. Byddai cofrestrau cysylltiedig yn galluogi staff gorsafoedd pleidleisio i ganfod mewn amser real a oedd rhywun eisoes wedi bwrw pleidlais ar ddiwrnod gwahanol neu mewn lleoliad arall. 

Byddai hyn yn bwysig ar gyfer sawl opsiwn pleidleisio hyblyg, er enghraifft:

  • Pleidleisio ymlaen llaw lle gall pobl bleidleisio mewn unrhyw ganolfan bleidleisio ymlaen llaw o fewn ardal
  • Hybiau pleidleisio sydd ar agor ar yr un pryd â gorsafoedd pleidleisio arferol ar y diwrnod pleidleisio
  • Opsiynau pleidleisio yn unrhyw le, lle gall pobl ddewis pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio o fewn ardal awdurdod lleol neu etholaeth, neu o ardal ddaearyddol ehangach

Pe bai'r opsiynau hyn dim ond yn defnyddio cofrestrau papur, ni fyddai'n bosibl darparu gwybodaeth amser real am bobl a oedd eisoes wedi pleidleisio. Byddai hyn yn ei gwneud yn anoddach atal pobl rhag pleidleisio fwy nag unwaith.

Gallai fod yn anodd dod o hyd i gysylltiadau rhwydwaith dibynadwy mewn rhai ardaloedd a lleoliadau gorsafoedd pleidleisio. Byddai arolygon cysylltedd signal symudol a gwirio lleoliadau ar gyfer mynediad Wi-Fi yn hanfodol i nodi a lliniaru unrhyw broblemau cysylltedd posibl.

Mae'n bosibl y gallai cofrestrau electronig barhau i weithio pan nad ydynt wedi'u cysylltu ac yna eu diweddaru unwaith y bydd eu cysylltiadau wedi'u hadfer. Dylai fod gan bob lleoliad pleidleisio hyblyg hefyd gofrestr etholiadol bapur fel copi wrth gefn rhag ofn y bydd problemau gyda phŵer neu gysylltedd. Ond byddai hyn yn dal i'w gwneud yn anodd darparu'r lefel gywir o ddiogelwch ar gyfer rhai modelau pleidleisio hyblyg.

Diogelwch

Gallai defnyddio cofrestrau electronig wedi’u rhwydweithio mewn gorsafoedd pleidleisio ychwanegu risgiau diogelwch at sut y caiff etholiadau eu cynnal. Byddai angen adolygiad diogelwch llawn cyn gweithredu unrhyw un o'r opsiynau pleidleisio hyblyg gan ddefnyddio cofrestrau gorsafoedd pleidleisio electronig i nodi unrhyw wendidau a gweithredu mesurau diogelu angenrheidiol.

Systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol

I gefnogi mathau newydd o bleidleisio hyblyg, byddai angen datblygu systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol ymhellach - er enghraifft, er mwyn caniatáu i ddogfennau perthnasol a marcwyr cofrestr gael eu cynhyrchu.

Argraffu papurau pleidleisio ar gais

Edrychwyd hefyd ar yr opsiwn o argraffu papurau pleidleisio ar alw mewn rhai lleoliadau pleidleisio hyblyg, gan gynnwys canolfannau pleidleisio ymlaen llaw, hybiau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio ar gyfer pleidleisio yn unrhyw le. Mae hyn yn digwydd mewn canolfannau pleidleisio cynnar yn Awstralia. 

Gallai argraffu papurau pleidleisio ar gais fod yn ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd pleidleisio hyblyg – er enghraifft, byddai’n dileu’r angen i drefnu a storio meintiau torfol o wahanol bapurau pleidleisio mewn canolfannau pleidleisio ymlaen llaw, hybiau pleidleisio a lleoliadau pleidleisio yn unrhyw le – a byddai’n dileu’r risg o prinder pleidleisiau. 

Fodd bynnag, byddai angen argraffwyr pwrpasol, ynghyd â chaledwedd a meddalwedd arall a allai weithio ochr yn ochr â'r gofrestr electronig a systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol, yn ogystal ag offer wrth gefn a nodweddion diogelwch cadarn. Byddai hefyd angen digon o le mewn lleoliadau i ddal yr offer yma a chyfleusterau TG addas yn yr adeiladau

Cefnogaeth dechnegol

Byddai angen darparu cymorth technegol i Swyddogion Canlyniadau a'u staff, i'w helpu i nodi a datrys unrhyw broblemau yn ymwneud â chofrestrau electronig neu dechnoleg arall.

Edrychwyd hefyd ar ofynion adnoddau posibl pleidleisio hyblyg.

Mae angen asesiad o effaith llawn ar unrhyw broses o gyflwyno pleidleisio hyblyg, gan gynnwys asesiad o'r costau a'r manteision o'i roi ar waith Byddai angen i'r llywodraeth hefyd roi mecanwaith ariannu newydd ar waith i gefnogi cyflwyno pleidleisio hyblyg.

Llogi adeiladau, trafnidiaeth a mannau storio

Byddai angen i Swyddogion Canlyniadau ganfod a llogi adeiladau addas i gynnal canolfannau pleidleisio ymlaen llaw a hybiau pleidleisio. Byddai angen i’r adeiladau fod ar gael ar gyfer y cyfnod pleidleisio, yn hygyrch, mewn lleoliad cyfleus, yn ddigon mawr i gynnwys bythau pleidleisio, blychau pleidleisio ac offer pleidleisio arall, yn ogystal â bod yn gyfforddus ac yn ddiogel.

Byddai angen i ganolfannau pleidleisio ymlaen llaw a hybiau pleidleisio wasanaethu ardaloedd trefol poblog iawn a lleoliadau gwledig. Wrth benderfynu faint o leoliadau sydd eu hangen mewn ardal, byddai'n bwysig meddwl am y pellteroedd y byddai angen i bleidleiswyr deithio i'r lleoliad, a oes cysylltiadau trafnidiaeth da a pharcio hawdd.

Byddai pleidleisio symudol yn gofyn am gerbydau addas i gludo timau pleidleisio symudol ac offer i leoliadau pleidleisio. Byddai dod o hyd i'r cerbydau a'u cynnal a'u cadw yn golygu goblygiadau cost sylweddol, er ei bod yn bosibl y gellid arbed arian pe bai staff yn defnyddio eu cerbydau eu hunain ac yn cael arian am filltiroedd a’u defnydd o danwydd.

Byddai angen i bleidleisiau a fwriwyd cyn y diwrnod pleidleisio gael eu cludo a'u storio'n ddiogel nes eu bod yn cael eu cyfrif. Byddai'r gost o wneud hyn yn dibynnu ar sawl diwrnod y parhaodd y cyfnod pleidleisio. 

Byddai rhai opsiynau pleidleisio hyblyg – er enghraifft, y rhai lle roedd pleidleiswyr yn cael pleidleisio o'r tu allan i'r ardal lle cawsant eu cofrestru i bleidleisio a lle roedd papurau pleidleisio wedi'u ‘gwasgaru'n ddaearyddol' – yn ei gwneud yn ofynnol i flychau pleidleisio gael eu cludo yn ôl i'r etholaeth gartref, awdurdod lleol neu'r ganolfan gyfrif. Gallai hyn ychwanegu at gost ac amseriad datgan canlyniadau'r etholiad.

Staffio

Byddai angen i'r Swyddog Canlyniadau recriwtio a hyfforddi staff ychwanegol i gefnogi'r broses o gyflwyno pleidleisio hyblyg. Yn dibynnu ar yr opsiwn pleidleisio hyblyg, efallai y bydd angen sgiliau, profiad a hyfforddiant gwahanol ar staff. Er enghraifft, byddai angen i dimau pleidleisio symudol penodol weithredu gwasanaeth pleidleisio symudol.

Cyfarpar etholiad

Byddai angen offer newydd ar rai mathau o bleidleisio hyblyg. Er enghraifft, byddai angen bythau pleidleisio neu sgriniau pleidleisio cludadwy ar safleoedd pleidleisio symudol i ddiogelu cyfrinachedd y bleidlais. Byddai rhai opsiynau hefyd yn gofyn am offer ychwanegol, megis blychau pleidleisio ychwanegol, deunydd ysgrifennu ar gyfer pleidleisio ac offer hygyrchedd.

Technoleg Gwybodaeth (TG)

Byddai angen dyfeisiau caledwedd ar Swyddogion Canlyniadau (er enghraifft, tabledi neu liniaduron) ac offer TG arall i gyflwyno cofrestrau electronig. Gallai fod yn heriol cael digon o offer i gyflwyno cofrestrau electronig ledled y wlad. 

Gallai’r opsiynau gynnwys awdurdodau lleol yn cyflenwi eu dyfeisiau eu hunain neu’n rhentu’r offer gan gyflenwyr. Gallai cyflenwyr eraill fynd i mewn i'r farchnad cofrestrau electronig, cynyddu cystadleuaeth, gostwng prisiau a gwella gallu'r diwydiant i ateb y galw.

Efallai y bydd costau TG eraill. Er enghraifft, i argraffu papurau pleidleisio ar alw byddai angen caledwedd a meddalwedd ychwanegol ar leoliadau (er enghraifft, argraffwyr).

Ar gyfer rhai opsiynau pleidleisio yn unrhyw le, byddai angen i'r systemau allu gweithredu ar draws cofrestrau etholiadol lluosog. Byddai hyn yn golygu y gallai fod angen datblygiad technegol pellach ar atebion y gofrestr etholiadol.

Systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol

Byddai angen diweddaru systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol i gefnogi'r broses o gyflwyno pleidleisio hyblyg.

Cyfathrebu

Byddai angen i awdurdodau lleol a’r gymuned etholiadol – gan gynnwys y Comisiwn, pe bai arferion yn cael eu mabwysiadu ar raddfa fawr – ystyried cost datblygu a chynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o ddulliau pleidleisio newydd.

Costau ymgyrchu

Gallai pleidleisio hyblyg gael effaith ar gost ymgyrchoedd a sut mae pleidiau ac ymgeiswyr yn mynd ati i ymgyrchu.

Mae'r ffactor hwn yn ystyried a oes modd darparu pleidleisio hyblyg o dan gyfraith etholiadol bresennol.

Cynlluniau peilot etholiadol

O dan Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, gall awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr wneud cais i’r Ysgrifennydd Gwladol/Gweinidogion Cymru i redeg cynlluniau peilot etholiadol. Gall awdurdodau lleol yn yr Alban wneud cais i Weinidogion yr Alban o dan Adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Etholiadau) yr Alban 2002 i gynnal cynlluniau peilot. 

Gall cynlluniau peilot etholiadol gynnwys newidiadau i bryd, ble a sut y bydd pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn digwydd, sut mae pleidleisiau a fwriwyd yn cael eu cyfrif, neu ymgeiswyr sy’n anfon cyfathrebiadau etholiadol sy’n rhydd o gostau postio.

Darparodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 y fframwaith cyfreithiol ar gyfer chwe chylch ar wahân o gynlluniau peilot etholiadol (gyda rhai ohonynt yn cynnwys pleidleisio ymlaen llaw) a gynhaliwyd rhwng 2000 a 2007. Roedd hefyd yn sail i’r pedwar cynllun peilot pleidleisio ymlaen llaw a gynhaliwyd yng Nghymru ym mis Mai 2022.

Mae’n bosibl y gellid defnyddio’r ddeddfwriaeth hon i gynnal rhagor o gynlluniau peilot pleidleisio hyblyg.

Mae Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn cynnwys pwerau treialu newydd a fyddai'n caniatáu i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnig cynlluniau peilot etholiadol ar draws gwahanol ardaloedd. Byddai hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi awdurdodau lleol i gymryd rhan mewn cynlluniau peilot etholiadol pe bai angen. Mae’n debyg y byddai unrhyw gynlluniau peilot yn y dyfodol yn ymwneud ag etholiadau datganoledig yng Nghymru yn cael eu datblygu drwy’r ddeddfwriaeth hon yn hytrach na Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

Deddfwriaeth newydd

Mae cyfraith etholiadol yn nodi'r rheolau manwl ar gyfer sut mae etholiadau a phleidleisio'n cael eu rhedeg. Byddai angen i lywodraethau gyflwyno deddfwriaeth newydd er mwyn gallu cyflwyno pleidleisio hyblyg yn barhaol. Mae hyn yn debygol o gynnwys newid deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau Seneddol) ac is-ddeddfwriaeth (rheolau a rheoliadau).

Gall Senedd y DU newid y rheolau ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU, holl etholiadau llywodraeth leol Lloegr, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau llywodraeth leol Gogledd Iwerddon.

Senedd Cymru a Senedd yr Alban sy’n gyfrifol am wneud y rheolau ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, etholiadau Senedd yr Alban, etholiadau llywodraeth leol Cymru ac etholiadau cynghorau lleol yr Alban. 

Byddai gan bleidleisio hyblyg oblygiadau gweithredol penodol. Byddai angen gweithdrefnau clir ar gyfer pleidleisio ar bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol, wedi'u hategu gan ddeddfwriaeth effeithiol a chanllawiau ymarferol.

Gweithdrefnau newydd

Byddai pleidleisio hyblyg yn gofyn am weithdrefnau a allai fod yn wahanol i bleidleisio confensiynol (er enghraifft, pleidleisio symudol).

Byddai angen hyfforddiant ymarferol ar staff etholiadau ar yr hyn sydd ei angen, gan gynnwys:

  • Sut i gynnal pleidleisio symudol mewn gwahanol leoliadau
  • Sut i brosesu pleidleisio ymlaen llaw, hyb pleidleisio, pleidleiswyr pleidleisio yn unrhyw le neu bleidleisio yn rhywle arall
  • Sut i ddefnyddio cofrestrau electronig mewn mannau pleidleisio
  • Sut i reoli unrhyw newidiadau i weithdrefnau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio a'r cyfrif

Byddai'r hyfforddiant hwn yn cael ei gefnogi gan ganllawiau newydd.

Effaith ar weinyddiaeth etholiadol

Mae timau gwasanaethau etholiadol eisoes yn cyflawni tasgau pwysig eraill i gynnal etholiadau. Mae'r rhain yn aml yn cael eu gyrru gan derfynau amser allweddol o fewn yr amserlen etholiadol. Gallai pleidleisio hyblyg effeithio ar allu timau gwasanaethau etholiadol i gyflawni eu dyletswyddau etholiadol arferol.

Byddai angen opsiynau wrth gefn ar gyfer pleidleisio hyblyg wedi'i gefnogi gan gofrestrau electronig pe bai methiant technegol, er enghraifft, defnyddio system bapur.

Byddai angen cynlluniau ar awdurdodau lleol ar gyfer unrhyw broblemau technegol posibl y gallent eu hwynebu oherwydd pleidleisio hyblyg.

Cynllunio

Byddai angen i Swyddogion Canlyniadau gynllunio'n effeithiol ar gyfer gweithredu pleidleisio hyblyg. Byddai hyn yn cynnwys gofynion staffio a hyfforddi, rheoli'r lleoliadau lle cynhelir pleidleisio hyblyg a gweithio gyda chyflenwyr a chontractwyr i helpu gyda'r gweithredu.

Byddai angen i Swyddogion Canlyniadau feddwl am unrhyw risgiau newydd sy'n gysylltiedig â phleidleisio hyblyg. Byddai angen iddynt ddatblygu cynlluniau gyda'r heddlu i gynnal uniondeb yr etholiad. 

Byddai angen iddynt hefyd gynllunio gweithgareddau cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau.

Byddai angen i bleidleisio hyblyg ystyried effaith newidiadau ar gapasiti a gwytnwch y system gweinyddu etholiadol.

Amseru a chyfnodau gweithredu

Mae newidiadau sylweddol eisoes yn cael eu gwneud i'r ffordd y caiff etholiadau eu rhedeg. Byddai gweithredu pleidleisio hyblyg yn golygu gwneud newidiadau pellach. 

Felly byddai angen cynllunio a rheoli’n ofalus unrhyw benderfyniad i gyflwyno pleidleisio hyblyg er mwyn sicrhau bod newid yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus. 

Byddai angen i newidiadau i gyfraith etholiadol sy'n ymwneud â phleidleisio hyblyg fod yn glir o leiaf chwe mis cyn etholiad a drefnwyd.