Hygyrchedd gwefan
Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan y Comisiwn Etholiadol
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/hygyrchedd
Cynhelir y wefan hon gan y Comisiwn Etholiadol. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl gallu defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- Cynhelir y wefan hon gan y Comisiwn Etholiadol. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl gallu defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd o’r golwg ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet (Yn agor mewn ffenestr newydd) gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- mae achosion lle mae geiriau Cymraeg yn ymddangos o fewn cynnwys Saesneg wrth gyfeirio at etholiadau y Senedd
- y cwis ymgyrchu yn yr adran adnoddau ar gyfer pobl ifanc
- nid yw'r drefn ffocws wrth lywio o fewn tudalennau yn yr adran 'Canllawiau' yn rhesymegol
- nid oes unrhyw ffordd i ddefnyddwyr hepgor bloc o gynnwys sy'n cael ei ailadrodd ar dudalen lanio Pleidleisio ac Etholiadau
- nid oes gan yr holl fideos yn yr adrannau adnoddau ar gyfer pobl ifanc ac adnoddau ar gyfer addysgwyr gapsiynau agored
- nid yw rhai ffeiliau PDF yn cydymffurfio felly efallai na fydd pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin yn gallu cael mynediad at y wybodaeth
- tablau tableau
Yr hyn rydym yn ei wneud:
- rydym yn ychwanegu trawsgrifiadau at bob fideo yn adran adnoddau ein gwefan
- rydym yn trosi ffeiliau PDF nad ydynt yn cydymffurfio ar ôl 2018 i ffurf HTML, sy’n cydymffurfio â chanllawiau WCAG
- rydym yn ymchwilio dulliau i newid tablau tableau i ffurf sy’n cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd
- rydym yn ymgymryd â phrosiect gwella’r gwefan i wella defnyddioldeb y wefan
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, rhowch wybod am y problemau hyn drwy:
- gwblhau y ffurflen adborth ar y dudalen lle daethoch o hyd i'r broblem
- llenwi ein ffurflen cysylltu â ni
- ffonio 0333 103 1928
Gallwch hefyd anfon e-bost at y Tîm Cyfathrebu Digidol yn uniongyrchol gan ddefnyddio [email protected].
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- llenwch ein ffurflen cysylltu â ni
- ffoniwch 0333 103 1928
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod.
Rydym yn darparu gwasanaeth trosi testun i bobl F/fyddar, pobl â nam ar eu clyw neu bobl sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae dolenni sain ar gael yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni ymlaen llaw gallwn drefnu cyfieithydd BSL (Iaith Arwyddion Prydain) ar eich cyfer.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (yn agor mewn ffenestr newydd).
Os ydych wedi’ch lleoli yng Ngogledd Iwerddon a’ch bod yn anfodlon gyda sut gwnaethom ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Comisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon (ECNI) (Yn agor mewn ffenestr newydd).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan wedi'i phrofi yn unol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2 AA (Yn agor mewn ffenestr newydd).
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd yr enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio a'r eithriadau sydd wedi’u rhestru isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Mae angor ar goll ar y dudalen lanio, felly ni all defnyddwyr hepgor blociau mawr o gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant 2.4.1 Bypass Blocks Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
Mae hyn yn methu maen prawf 2.4.1 WCAG 2.2 (Blociau osgoi)
Nid yw'r cyferbyniad rhwng cydrannau rhyngwyneb defnyddiwr, graffeg a lliwiau cyfagos yn 3:1 mewn rhai mannau. Mae hyn yn methu maen prawf 1.4.11 WCAG 2.2 (Cyferbyniad di-destun)
Ar un dudalen, mae cynnwys a gwybodaeth yn dibynnu ar liw. Mae hyn yn methu maen prawf 1.4.1 (Defnyddio lliw) WCAG 2.2
Ar un dudalen, mae elfennau'n newid pan fyddant yn derbyn mewnbwn. Mae hyn yn methu maen prawf 3.2.2 WCAG 2.2 (Ar fewnbwn)
Ar rai tudalennau, nid yw cydrannau'n derbyn ffocws mewn dilyniant rhesymegol. Mae hyn yn methu maen prawf 2.4.3 (Trefn ffocws) WCAG 2.2
Mae yna symiau bach o'r iaith Gymraeg ar dudalennau Saesneg. Mae hyn yn methu maen prawf 3.2.1 (Iaith rhannau) WCAG 2.2.
Nid oes gan gynnwys fideo gyda sain drawsgrifiad testun na disgrifiad sain yn gyson. Mae hyn yn methu maen prawf 1.2.3 WCAG 2.2 (Disgrifiad sain neu ddewis arall yn y cyfryngau)
Cynnwys nad yw’n dod o dan gwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol arnom i drwsio ffurflenni PDF neu ddogfennau Word a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ffeiliau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 12/08/2025. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 10/10/25.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 31/07/2024 gan SilkTide. Dewiswyd grŵp sampl o dudalennau ar gyfer archwilio â llaw ac awtomataidd gan ddilyn model WCAG-EM gydag asesiad yn erbyn safonau AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2.
Mae pob tudalen yn cael ei monitro'n gyson gan ddefnyddio platfform Silktide.