Summary

Rhaid i bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, cymdeithasau aelodau, ac aelodau etholedig ddilyn y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Refferenda ac Etholiadau (PPERA) wrth wario arian neu dderbyn rhoddion a benthyciadau.

Mae un o'r rheolau yn gyfryw fe bod rhaid i bleidiau roi gwybod i ni am wariant, rhoddion a benthyciadau sydd dros swm penodol. Os byddant yn torri'r rheolau, byddwn yn ymchwilio, a gallwn gymryd camau yn ôl ein polisi gorfodi.

Lle mae a wnelo tor-rheol â throsedd, ac ni allwn gosbi, neu os yw'r tor-rheol mor ddifrifol fel na fyddai ein cosbau'n ddigon llym, gallwn roi gwybod i'r heddlu neu'r awdurdod erlyn fel y gallant benderfynu a ddylid cymryd camau pellach.