Cofrestru i bleidleisio
We're showing you content for:
All nations
Sylwer – mae’r dudalen hon ond yn gymwys i bleidleiswyr sy’n byw yng Nghymru.
Sut mae cofrestru i bleidleisio
Y cwbl sydd ei angen arnoch i gofrestru i bleidleisio ar-lein yw 5 munud a’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch lawrlwytho ffurflen bapur.
Nid oes angen i chi gofrestru cyn pob etholiad.
Mae’n rhaid i chi gofrestru yn y cyfeiriad rydych chi’n byw ynddo. Os ydych chi’n byw mewn dau gyfeiriad oherwydd eich bod yn fyfyriwr neu fod gennych ail gartref, mae’n bosib y gallwch gofrestru i bleidleisio yn y ddau gyfeiriad.
Diweddarwch eich manylion
Os ydych yn symud tŷ, dylech gofrestru i bleidleisio eto.
Os ydych yn newid eich enw am unrhyw reswm, gallwch naill ai:
- cysylltu â’r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol a gwneud cais am ffurflen newid enw
- cofrestru i bleidleisio eto
Atebwch ambell gwestiwn i ddarganfod a allwch gofrestru i bleidleisio
Pwy sy’n gallu cofrestru i bleidleisio yng Nghymru
Er mwyn cofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn (ond ni allwch bleidleisio nes eich bod yn 16 neu’n 18 yn dibynnu ar yr etholiad) ac yn un o’r canlynol:
- dinesydd y DU neu ddinesydd Gwyddelig
- yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad sy’n byw yn y DU
- yn ddinesydd cymwys yr UE sy’n byw yn y DU
- yn ddinesydd tramor cymwys
Rhestr o ddinasyddion cymwys y Gymanwlad a dinasyddion yr UE
Mae diffiniad 'dinesydd y Gymanwlad' yn cynnwys dinasyddion Tiriogaethau Dibynnol y Goron a Thiriogaethau Prydeinig Tramor. Dinesydd ‘cymwys’ y Gymanwlad yw rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu rywun nad oes angen y fath ganiatâd arnynt.
| Gwledydd y Gymanwlad | ||
|---|---|---|
| Antigwa a Barbwda | Awstralia | Bangladesh |
| Barbados | Belîs | Botswana |
| Brwnei Darussalam | Camerwn | Canada |
| Cenia | Ciribati | Cyprus |
| De Affrica | Dominica | Fanwatw |
| Gaiana | Ghana | Grenada |
| Gweriniaeth Unedig Tansanïa | India | Jamaica |
| Lesotho | Malasia | Malawi |
| Malta | Mawrisiws | Mosambic |
| Namibia | Nawrw | Nigeria |
| Pacistan | Papua Gini Newydd | Rwanda |
| Sambia | Samoa | Sant Kitts-Nevis |
| Sant Lwsia | Seland Newydd | Seychelles |
| Sierra Leone | Simbabwe | Singapore |
| Sri Lanca | St Vincent a'r Grenadies | Teyrnas Eswatini |
| Tonga | Trinidad a Thobago | Twfalw |
| Wganda | Y Bahamas | Y Gambia |
| Ynysoedd Ffiji | Ynysoedd Solomon | Ynysoedd y Maldives |
- Er eu bod hefyd yn aelodau o wladwriaethau'r UE, mae dinasyddion Cyprus a Malta yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
- Mae dinasyddion Ffiji a Simbabwe yn cadw eu hawliau er bod y gwledydd wedi eu gwahardd o’r Gymanwlad.
| Tiriogaethau Dibynnol y Goron |
|---|
| Ynys Manaw |
| Ynysoedd y Sianel (gan gynnwys Jersey, Guernsey, Sarc, Alderney, Herm ac Ynysoedd cyfannedd eraill y Sianel) |
| Tiriogaethau Prydeinig Tramor | ||
|---|---|---|
| Anguilla | Ardaloedd gorsafoedd sofran ar Cyprus | Bermwda |
| De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De | Gibraltar | Monserrat |
| St Helena a thiriogaethau dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha) | Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India | Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig |
| Ynysoedd Falkland | Ynysoedd y Caiman | Ynys Pitcairn |
| Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf | Ynysoedd Turks a Caicos | |
| Hong Kong |
|---|
Mae cyn-drigolion Hong Kong sydd â phasport Tiriogaeth Ddibynnol Brydeinig, pasbort Prydeinig Tramor, neu Wladolion Prydeinig (Tramor) yn gymwys i gofrestru. Os nad oes gennych un o’r pasbortau hyn, efallai y byddwch yn dal i allu cofrestru i bleidleisio fel dinesydd tramor cymwys yng Nghymru. |
Gall holl ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru.
I gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae angen i chi fod yn ddinesydd un o’r gwledydd canlynol:
- Denmarc, Gwlad Pwyl, Lwcsembwrg, Portiwgal a Sbaen sy’n byw yn y DU, sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath
- unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu nad oedd angen caniatâd, ac mae hyn wedi parhau heb doriad
Gwledydd eraill yr UE yw:
- Yr Almaen
- Awstria
- Bwlgaria
- Croatia
- Cyprus
- Yr Eidal
- Estonia
- Y Ffindir
- Ffrainc
- Groeg
- Gweriniaeth Tsiec
- Gwlad Belg
- Hwngri
- Yr Iseldiroedd
- Latfia
- Lithwania
- Malta
- Romania
- Slofacia
- Slofenia
- Sweden
Er eu bod hefyd yn aelod-wladwriaethau o’r UE mae dinasyddion Cyprus, Malta ac Iwerddon yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
Dinesydd tramor cymwys yw dinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath.
Other options
Mae yna ddewisiadau cofrestru eraill, gan gynnwys cofrestru fel pleidleisiwr sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu fel un o weision y Goron, cofrestru’n ddi-enw, a chofrestru os nad oes gennych gyfeiriad sefydlog.
Gwirio a ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn barod
Bydd angen i chi gysylltu â’r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol i ddarganfod a ydych wedi cofrestru i bleidleisio.
Dod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor lleol
Rhowch eich cod post i ganfod manylion cyswllt y tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol