Canllawiau: Ymgyrchydd refferendwm
Ymgyrchydd refferendwm
Mae rheolau y mae'n rhaid i ymgyrchwyr eu dilyn ar wariant ar ymgyrchu, rhoddion a chyflwyno adroddiadau yn y cyfnod cyn refferendwm. Rydym yn rheoleiddio'r rheolau hynny.
Rydym yn cofrestru ymgyrchwyr mewn refferendwm ac yn rhoi cyngor ac arweiniad ar y rheolau ar wariant a rhoddion y mae'n rhaid i ymgyrchwyr eu dilyn.
Mae ein canllawiau yma i helpu ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r rheolau. Nid oes rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn, ond os gwnewch hynny, byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio â'r gyfraith.
Canllawiau
Cyflwyniad i refferendwm
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Beth yw refferendwm?
- Y rheolau
- Pwy sy’n gwneud beth mewn refferendwm?