Cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholwyr mis Rhagfyr 2015

Overview

Yn yr adroddiad hwn, edrychwn ar effaith y system Cofrestru Etholiadol Unigol (IER) ar gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholwyr.

I wneud hyn, rydym yn cymharu'r cofrestrau etholwyr o fis Rhagfyr 2015 (ar ôl i system IER gael ei chyflwyno) â'r rhai o fis Chwefror a mis Mawrth 2014 (pan roedd y system cartrefi ar waith o hyd).
 

Accuracy and completeness

Roedd cofrestrau llywodraeth leol 91% yn gywir ac 84% yn gyflawn.

Roedd y cofrestrau seneddol 91% yn gywir ac 85% yn gyflawn.

Explanation

TMae hyn yn golygu bod cywirdeb cyffredinol y cofrestrau wedi cynyddu tua phedwar pwynt canran yn ystod y broses o newid i system IER (10 Mehefin 2014 i 1 Rhagfyr 2015). 

Mae'n ymddangos bod cyflawnrwydd wedi aros yn sefydlog i raddau helaeth, gyda gostyngiad o lai nag 1 pwynt canran nad yw'n ystadegol bwysig.
 

Mae'r amcangyfrifon hyn yn berthnasol i Brydain Fawr yn ei chyfanrwydd. Mae'n debygol y bydd cywirdeb a chyflawnrwydd yn amrywio rhwng ardaloedd cynghorau lleol gwahanol, o ganlyniad i ddemograffeg y boblogaeth leol yn ogystal ag arferion cofrestru.

Gallwch hefyd weld ein hadroddiadau a'n trosolygon ar gyfer pob rhan o'r DU 
 

Decreases in completeness

Yn ein gwaith ymchwil blaenorol, rydym wedi canfod cysylltiad clir rhwng symud tŷ a chyflawnrwydd. Mae'r cysylltiad hwn yn parhau ar ôl newid i system IER.

Cronfa ddata sy'n seiliedig ar eiddo yw'r gofrestr, felly;

  • mae cysylltiad rhwng lefelau uwch o symud tŷ a lefelau is o gyflawnrwydd.
  • po fwyaf y mae rhywun wedi byw yn eu heiddo, y mwyaf tebygol ydynt o ymddangos ar y gofrestr etholwyr

Noder: * Nid yw'r gwahaniaeth o gymharu â 2014 yn ystadegol bwysig.

Ar ôl newid i system IER, gwelir y gostyngiad mwyaf mewn lefelau cyflawnrwydd ymhlith y rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar.

Mae'r lefel uchaf o gyflawnrwydd ymhlith y rhai 65 oed a throsodd (96%).

Cofnodwyd y lefel isaf ymhlith cyrhaeddwyr (rhai 16 a 17 oed, 45%).

Bu dirywiad mewn cyflawnrwydd hefyd ymhlith y rhai o dan 45 oed.

Mae'r gwymp ymhlith pobl 18-19 oed, 25-34 oed a 35-44 oed yn ystadegol bwysig.

Gallai'r system IER newydd egluro'r lefelau is o gyflawnrwydd ymhlith pobl 18 a 19 oed. O dan y system cartrefi flaenorol, gallai rhieni a gwarcheidwaid gofrestru plant cymwys a oedd yn byw yn yr un cyfeiriad â nhw.

Noder: * Nid yw'r gwahaniaeth o gymharu â 2014 yn ystadegol bwysig.

Mae cydberthynas gref rhwng y cyfnod y mae rhywun wedi byw yn ei gyfeiriad a'r tebygolrwydd ei fod wedi'i gofrestru i bleidleisio.

Mae cysylltiad pendant rhwng lefelau is o gyflawnrwydd ymhlith pobl o dan 35 oed a symudedd. Mae grwpiau oedran iau yn llawer mwy tebygol o fod wedi symud tŷ yn ddiweddar na grwpiau oedran hŷn.

Ni ellir priodoli'r lefelau cofrestru is ymhlith pobl ifanc i symudedd yn unig. Mae lefelau is o ymgysylltiad â gwleidyddiaeth a phleidleisio hefyd yn ffactor perthnasol.

Ers ein hasesiad diwethaf, mae cyflawnrwydd wedi cynyddu o 94% i 95% ymhlith y rhai sy'n berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl. Mae hyn yn ystadegol bwysig.

Mewn cyferbyniad, y rhai sy'n rhentu'n breifat sydd â'r lefelau isaf o gyflawnrwydd. Bu dirywiad ystadegol bwysig mewn lefelau cofrestru ymhlith y grŵp hwn ar ôl newid i system IER.

Mae deiliadaeth yn croestorri ag oedran a symudedd: mae'r ddau yn cael effaith fawr ar gofrestru. Y sector rhentu preifat sydd â'r proffil ieuengaf o blith y deiliadaethau. Yn ôl arolwg tai Lloegr ar gyfer 2014-15, mae 48% o rentwyr preifat rhwng 16 a 34 oed. Mewn cyferbyniad, mae 84% o'r rhai sy’n berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl dros 55 oed. Mae rhentwyr preifat hefyd yn tueddu i fyw yn eu cyfeiriad am gyfnodau byrrach na'r mathau eraill o ddeiliadaethau: