Gwerthusiad cynlluniau peilot pleidleisio ymlaen llaw
Crynodeb
Cafodd y cynlluniau peilot eu rhedeg yn dda gan Swyddogion Canlyniadau. Ni chododd unrhyw broblemau penodol ar y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw nac ar ddydd Iau, 5 Mai ac roedd pleidleiswyr yn fodlon ar eu profiad o bleidleisio. Fodd bynnag, mae'r canlyniadau yn awgrymu nad yw'r cyfle i bleidleisio'n bersonol cyn y diwrnod pleidleisio, ynddo'i hun, yn cynyddu nifer y pleidleiswyr yn sylweddol. Nid yw hyn yn annisgwyl; gwyddom fod cymhelliant pobl i bleidleisio neu beidio â phleidleisio yn cael ei ysgogi gan sawl ffactor ac nid yw'n gysylltiedig â chyfleustra na'r dewis o ddulliau yn unig.
Er bod nifer y pleidleiswyr a bleidleisiodd yn gynnar yn isel, cafodd yr opsiwn ei groesawu gan y rhai a'i defnyddiodd ac mae'n cynnig dewis ychwanegol i bleidleiswyr. Ni allwn farnu, o dystiolaeth y cynlluniau peilot, pa effaith y byddai pleidleisio ymlaen llaw, pe bai'n cael ei gyflwyno, yn ei chael ar y niferoedd sy'n pleidleisio dros amser.
Mae profiad y cynlluniau peilot yn cynnig ychydig o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â sut y gallai pleidleisio ymlaen llaw weithio'n ymarferol. Er enghraifft, roedd y defnydd o gofrestrau electronig yn llwyddiannus, gan ei gwneud yn bosibl i gael mynediad at y gofrestr ar gyfer unrhyw ardal o fewn yr awdurdod lleol drwy un ddyfais. Fodd bynnag, mae'r nifer bach o gynlluniau peilot a'r detholiad o leoliadau lle y cawsant eu profi yn golygu bod gwaith i'w wneud o hyd i ddatblygu unrhyw bolisi yn y dyfodol a deall sut y gallai gael ei roi ar waith.
Dylai newidiadau a gynigir i brosesau pleidleisio gael eu cynllunio i sicrhau mantais debygol i bleidleiswyr, i gynnal diogelwch ac uniondeb y system ac i fod yn newidiadau y gall gweinyddwyr etholiadol eu cyflawni'n realistig. Mae ein gwerthusiad wedi nodi nifer o feysydd penodol y bydd angen mynd i'r afael â nhw os ystyrir cyflwyno pleidleisio ymlaen llaw ymhellach.
- Nifer y mannau pleidleisio a'u lleoliad – Byddai'r dewis o fannau pleidleisio yn hollbwysig i unrhyw broses o gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw ac mae'n bosibl y gall hyn achosi pryder i bleidleiswyr ac ymgeiswyr. Dylai unrhyw gynlluniau ar gyfer defnydd pellach o bleidleisio ymlaen llaw ystyried yn ofalus sut i ddewis y nifer cywir o fannau pleidleisio er mwyn cynnig opsiwn cyson a defnyddiol i bleidleiswyr a sicrhau bod y broses yn un y gall Swyddogion Canlyniadau ei chyflawni'n realistig. Dylai fod gan Swyddogion Canlyniadau rywfaint o hyblygrwydd hefyd er mwyn adlewyrchu amgylchiadau eu hardaloedd. Er enghraifft, bydd angen mwy o safleoedd mewn awdurdodau mwy o faint yn ddaearyddol neu ardaloedd lle mae cysylltiadau trafnidiaeth llai hygyrch. Pe bai nifer y mannau pleidleisio yn cael ei gynyddu, byddai angen asesu sut y byddent yn cael eu staffio. Er enghraifft, mae'n amlwg o gynllun peilot Pen-y-bont ar Ogwr bod y gofyniad i staffio tua 20 o leoliadau pleidleisio ymlaen llaw dros sawl diwrnod yn heriol dros ben.
- Nifer y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw a'r dewis a roddir – nid yw'r cynlluniau peilot yn cynnig unrhyw dystiolaeth amlwg bod gwahanol ddiwrnodau yn fwy poblogaidd ymhlith pleidleiswyr (mae'n anodd dod i gasgliad clir oherwydd y nifer bach o bleidleisiau a fwriwyd). Fodd bynnag, ceir rhywfaint o dystiolaeth y gall y dewis o ddiwrnodau gael effaith ar y broses o weinyddu'r bleidlais, yn dibynnu ar y ffordd y maent yn rhyngweithio â'r paratoadau presennol ar gyfer diwrnod pleidleisio ar ddydd Iau. Nid yw'r heriau sy'n codi yn rhai amhosibl eu goresgyn o bell ffordd ond bydd angen adnoddau staffio ychwanegol ar weinyddwyr etholiadol er mwyn mynd i'r afael â nhw, yn dibynnu ar y diwrnodau a ddewisir.
- Costau – O ystyried y niferoedd bach a bleidleisiodd yn gynnar, mae'n bwysig bod unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn cael eu llywio gan asesiad o'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â chyflwyno pleidleisio ymlaen llaw ar raddfa ehangach, gan gynnwys y defnydd o gofrestrau electronig i gefnogi'r broses pleidleisio ymlaen llaw, sef y maes mwyaf a oedd wedi arwain at gostau ychwanegol yn y cynlluniau peilot. Dylai hyn gynnwys asesiad o unrhyw gostau datblygu na fyddai angen mynd iddynt eto ac asesu a fyddai modd gwireddu arbedion maint. Ni all costau'r cynlluniau peilot ynddynt hwy eu hunain gael eu hystyried yn arwydd clir o gostau tebygol unrhyw broses o gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw yn y dyfodol.
- Gwasanaethau etholiadol cadarn – gwyddom fod llawer o dimau etholiad eisoes yn wynebu heriau cynyddol o ran cynnal etholiadau sy'n wedi'u rhedeg yn dda o fewn lefelau staffio craidd a chyllidebau presennol. Felly, mae'n bwysig bod yr adnoddau presennol yn cael eu hystyried os bwriedir cyflwyno pleidleisio ymlaen. Mae potensial i benderfyniadau polisi penodol (mwy o ddiwrnodau, mwy o fannau pleidleisio) ac amgylchiadau etholiadau (etholiadau cyfun, mwy o etholwyr yn pleidleisio) i roi mwy o bwysau neu lai o bwysau ar dimau etholiadau.
- Codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd – dylai unrhyw broses o gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw ar raddfa ehangach gael ei chefnogi gan weithgarwch ychwanegol a mwy cydgysylltiedig i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a ddylai gael ei ariannu'n ganolog. Byddai hyn yn ategu gweithgareddau lleol i godi ymwybyddiaeth sydd eisoes yn mynd rhagddynt (megis y rhai a gynhaliwyd fel rhan o'r cynlluniau peilot hyn).
- Amser i gynllunio ar gyfer newidiadau – dylid cytuno ar newidiadau ynglŷn â chynnal etholiadau a'u rhoi ar waith chwe mis cyn yr etholiad er mwyn rhoi cyfle i weinyddwyr etholiadol eu rhoi ar waith yn ddigonol ac fel y gall pleidleiswyr gael eu hysbysu am yr hyn y bydd angen iddynt ei wneud. Dylai unrhyw waith cynllunio ar gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw yn y dyfodol sicrhau bod o leiaf gyfnod paratoi byrraf ar gael.
Effaith ar bleidleiswyr
Ychydig o bleidleiswyr a ddewisodd bleidleisio'n gynnar
Dewisodd nifer bach o bleidleiswyr fwrw eu pleidlais yn y gorsafoedd pleidleisio ymlaen llaw. Cafodd y tri chynllun peilot ag un ganolfan pleidleisio ymlaen llaw ganlyniadau tebyg, gyda 0.2 i 0.3% o bleidleiswyr a oedd wedi cofrestru i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn bwrw pleidlais ar y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle roedd nifer o'r gorsafoedd pleidleisio arferol ar agor, roedd y gyfran ychydig yn uwch, sef 1.5%.
Mae'r niferoedd a bleidleisiodd yn debyg i'r profion blaenorol ar bleidleisio ymlaen llaw a gynhaliwyd ar ddechrau'r 2000au. Yn y set olaf o gynlluniau peilot yn 2007, roedd y cyfrannau'n amrywio o 0.5% i 7.0%. Nid oes modd cymharu'r canlyniadau cynharach hyn yn uniongyrchol am fod y dulliau gweithredu penodol a oedd yn cael eu treialu yn amrywio. Er enghraifft, o blith y pum cynllun peilot yn 2007, dim ond un oedd yn cynnig dau ddiwrnod pleidleisio ymlaen llaw; roedd y pedwar arall yn cynnig rhwng pedwar a naw diwrnod. Roedd gan y rhan fwyaf ohonynt fwy nag un ganolfan bleidleisio ac roedd sawl un wedi treialu pleidleisio ymlaen llaw o'r blaen.
Mae'n anodd dod i gasgliadau o'r nifer bach o gynlluniau peilot ym mis Mai 2022. Gallai'r data awgrymu bod mwy o orsafoedd pleidleisio yn fwy tebygol o ddenu pleidleiswyr nag un man pleidleisio canolog. Fodd bynnag, mae'n bosibl bod ffactorau eraill yn cyfrif am y gwahaniaeth, gan gynnwys yr etholiadau lleol eu hunain a pha mor gystadleuol oeddent yn ôl canfyddiad pleidleiswyr.
Ni allwn ddod i unrhyw gasgliadau ychwaith o ran unrhyw effaith o ganlyniad i'r diwrnodau a ddewiswyd i bleidleisio. Ar ddydd Sadwrn a dydd Sul y cynhaliwyd y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw yng Nghaerffili a Thorfaen a gwelwyd yno ganlyniadau tebyg i rai Blaenau Gwent lle y cynhaliwyd diwrnodau pleidleisio ar ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Ardal | Nifer y pleidleisiau ymlaen llaw | Faint o bobl a bleidleisiodd ymlaen llaw | Faint o bobl a bleidleisiodd ar ddiwrnod yr etholiad |
---|---|---|---|
Blaenau Gwent | 68 | 0.2% | 24.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 1,374 | 1.5% | 27.5% |
Caerffili | 187 | 0.2% | 28.9% |
Torfaen | 162 | 0.3% | 23.8% |
Ar y cyfan, mae'r canlyniadau'n awgrymu nad yw'r cyfle i bleidleisio'n bersonol cyn y diwrnod pleidleisio, ynddo'i hun, yn cynyddu nifer y pleidleiswyr yn sylweddol. Nid yw hyn yn annisgwyl oherwydd gwyddom fod cymhelliant pobl i bleidleisio yn cael ei ysgogi gan nifer o ffactorau gwahanol, nad ydynt yn gysylltiedig â chyfleustra na'r dewis o ddulliau.
Gwnaethom gynnal arolwg o sampl o'r rhai a ddewisodd bleidleisio'n gynnar yn y pedair ardal beilot yn union ar ôl iddynt bleidleisio: dywedodd 75% y byddent wedi pleidleisio yn yr etholiadau hyd yn oed heb unrhyw opsiwn i bleidleisio ymlaen llaw; dywedodd 97% o'r pleidleiswyr cynnar hyn eu bod yn pleidleisio mewn etholiadau lleol bob tro neu'n pleidleisio weithiau, gan awgrymu bod pleidleiswyr cynnar eisoes yn bleidleiswyr rheolaidd a oedd yn cymryd diddordeb mewn etholiadau lleol.
Pan ofynnwyd i sampl gynrychioliadol o etholwyr cymwys yn yr ardaloedd peilot a fyddai'r gallu i bleidleisio dros sawl diwrnod yn effeithio ar y tebygolrwydd y byddent yn pleidleisio: dywedodd rhwng 27% a 37% yn y pedair ardal y byddent yn fwy tebygol o bleidleisio ond dywedodd tua dau o bob tri na fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl neu nad oeddent yn siŵr.
Er mwyn profi a oedd unrhyw newidiadau yn y nifer a bleidleisiodd yn yr ardaloedd peilot yn gysylltiedig â'r opsiwn i bleidleisio ymlaen llaw, nodwyd pedair ardal reoli gennym – awdurdodau lleol ag etholiadau lleol safonol a demograffeg debyg a'r niferoedd a bleidleisiodd yn y gorffennol yn yr ardaloedd peilot (gweler yr adran Cefndir am fanylion llawn).
Ymhob un o'r ardaloedd peilot a rheoli cofnodwyd bod y niferoedd a bleidleisiodd wedi lleihau rhwng 2017 a 2022 sy'n awgrymu'n gryf nad yw'r gwahaniaethau hyn yn gysylltiedig â gweithgarwch y cynlluniau peilot ac sy'n atgyfnerthu'r pwynt nad yw'r dull o fwrw pleidleisiau yw'r unig ffactor o bell ffordd sy'n ysgogi pobl i bleidleisio. Roedd y nifer a bleidleisiodd yng Nghymru wedi lleihau o gymharu â'r etholiadau lleol diwethaf yn 2017 – o 42% i 39%.
Ardal | 2022 | Newid ers 2017 |
---|---|---|
Blaenau Gwent | 32.5% | -7.5% |
Castell-nedd Port Talbot | 38.3% | -4.0% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 36.2% | -3.7% |
Rhondda Cynon Taf | 35.5% | -4.4% |
Caerffili | 32.9% | -3.4% |
Sir y Fflint | 35.7% | -2.8% |
Torfaen | 31.3% | -6.2% |
Wrecsam | 36.7% | -3.3% |
Cymru | 39% | -3% |
Dylid hefyd ystyried y lefelau isel o bleidleisio ymlaen llaw yn yr ardaloedd peilot yng nghyd-destun newidiadau etholiadol yn y gorffennol. Yn 2001, ar adeg etholiad cyffredinol cyntaf y DU ar ôl cyflwyno pleidleisio drwy'r post ar gais, rhoddwyd pleidlais bost i 3.9% o'r etholwyr, sef cynnydd bach o gymharu â 2.1% yn 1997 pan oedd y rheolau'n wahanol. Fodd bynnag, erbyn 2019, rhoddwyd pleidlais bost i 17.2% o etholwyr ac mae bellach yn llwybr pwysig a ddewisir gan gyfran fawr o etholwyr. Ni allwn farnu, o dystiolaeth y cynlluniau peilot, pa effaith y byddai pleidleisio ymlaen llaw, pe bai'n cael ei gyflwyno, yn ei chael ar y niferoedd sy'n pleidleisio dros amser.
Roedd rhai disgyblion yn gallu pleidleisio yn yr ysgol
Yn y cynllun peilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr agorwyd gorsaf bleidleisio mewn ysgol leol am ddiwrnod (Dydd Mawrth 3 Mai) hefyd, a hynny er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion yr ysgol a oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio, fwrw pleidlais gynnar.
Roedd y niferoedd a bleidleisiodd ymlaen llaw yn yr ysgol yn uwch na'r cynllun peilot ar gyfartaledd. Dewisodd 14 o'r 76 o ddisgyblion a oedd wedi'u cofrestru ac a oedd yn gymwys fwrw pleidlais yng ngorsaf bleidleisio'r ysgol, sef 18% o gymharu â'r 1.5% o'r pleidleiswyr cymwys a bleidleisiodd yn gynnar mewn gorsaf bleidleisio.
Fel gyda’r boblogaeth ehangach, roedd y rheiny a ddewisodd pleidleisio’n gynnar yn fodlon gyda’r profiad. Gwnaethom ofyn i ddisgyblion na bleidleisiodd o gwbl yn yr etholiadau, pam oeddent wedi dewis peidio â gwneud hynny. Dywedodd traean nad oeddent yn gwybod digon am sut i bleidleisio, a dywedodd un o bob pump nad oeddent wedi’u cofrestru. Gwnaeth eraill hefyd nodi diffyg gwybodaeth am yr etholiad ac am yr ymgeiswyr penodol fel rhesymau.
Mae'n bosibl na fyddai mwy o ymwybyddiaeth o'r cynlluniau peilot wedi arwain at fwy o etholwyr yn pleidleisio ymlaen llaw
Roedd Swyddogion Canlyniadau yn wynebu dwy her sylweddol o ran codi ymwybyddiaeth o'r cyfle i bleidleisio'n bersonol cyn y diwrnod pleidleisio: lefel isel o ddiddordeb yn yr etholiadau lleol; a'r angen i dargedu ymgyrchoedd a pheidio â chamarwain pobl mewn awdurdodau cyfagos (neu, yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, yn y wardiau nad oeddent yn rhan o'r cynllun peilot).
Nodir isod fanylion yr heriau ymarferol a gododd gyda'r olaf ac a fyddai'n achosi llawer llai o broblem pe bai pleidleisio ymlaen llaw yn cael ei gyflwyno ar raddfa ehangach.
Fodd bynnag, mewn etholiadau sy'n llai diddorol i'r cyhoedd bydd codi ymwybyddiaeth o newidiadau i'r dull pleidleisio yn effeithiol yn her annatod.
Cynhaliwyd arolygon cynrychioliadol o'r etholwyr cymwys yn yr ardaloedd peilot a rheoli. Cynhaliwyd un arolwg ym mis Chwefror/Mawrth 2022, er mwyn cael data llinell sylfaen, a chwblhawyd ail arolwg ar ôl y diwrnod pleidleisio ar 5 Mai. Yn ystod y gwaith ymchwil hwn, holwyd a oedd pobl yn credu y byddent yn gallu pleidleisio'n bersonol dros sawl diwrnod (Oedd/Nac oedd/Ddim yn gwybod). Gwelwyd newidiadau yn eu hymwybyddiaeth honedig rhwng ein harolwg cychwynnol a'n harolwg ar ôl y diwrnod pleidleisio ond nid yw'r patrwm yn un eglur.
Gwnaeth cyfran y bobl a ddywedodd na allech bleidleisio'n bersonol dros sawl diwrnod gynyddu yn yr awdurdodau peilot a rheoli fel ei gilydd. Roedd llai o gynnydd yn yr ardaloedd peilot sy'n awgrymu bod yr ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd wedi cael rhywfaint o effaith. Torfaen oedd yr unig ardal beilot lle roedd y gyfran a oedd yn credu'n gywir bod modd pleidleisio dros sawl diwrnod wedi cynyddu rhwng mis Chwefror/Mawrth a mis Mai.
Roedd lefel yr ymwybyddiaeth o'r opsiwn i bleidleisio'n gynnar ym mhob ardal beilot yn uwch na'r cyfartaledd i Gymru (a ddangosir ar y siart fel llinell las – 14%). Roedd lefelau o ymwybyddiaeth ym mhob un o'r ardaloedd rheoli yn is na'r cyfartaledd.
Ffigur 1 Ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cynllun peilot pleidleisio ymlaen llaw

Mewn cwestiwn ar wahân, gwnaethom ofyn i'r rhai yn yr ardaloedd peilot a oeddent yn ymwybodol y gallent bleidleisio'n bersonol cyn y diwrnod pleidleisio arferol ar 5 Mai. Roedd ymwybyddiaeth honedig yn amrywio o 22% i 30% gyda'r gweddill yn dweud naill ai nad oeddent yn ymwybodol neu nad oeddent yn siŵr.
Hefyd, holwyd y bobl a ddywedodd eu bod wedi pleidleisio ddydd Iau 5 Mai pam roeddent wedi dewis peidio â phleidleisio'n gynnar. Dywedodd bron hanner (46%) nad oeddent yn gwybod eu bod yn gallu gwneud hynny (dywedodd 30% fod yn well ganddynt bleidleisio ar y ‘diwrnod arferol’).
Mae'r 46% o bleidleiswyr ar y diwrnod pleidleisio a ddywedodd nad oeddent wedi pleidleisio'n gynnar am nad oeddent yn gwybod eu bod yn gallu gwneud hynny yn arwydd da o'r lefelau isel o ymwybyddiaeth o'r cynllun peilot. Fodd bynnag, mae'n rhagfynegydd llai cadarn o ymddygiad gwahanol – ni ddylem dybio y byddai pob un o'r 46%, neu lawer ohonynt, wedi pleidleisio'n gynnar pe baent wedi bod yn ymwybodol o'r cynllun peilot.
Ategir hyn gan dystiolaeth o'r cynlluniau peilot yn 2007. Yn yr achos hwnnw roedd ymwybyddiaeth yn uwch: dywedodd hanner yr ymatebwyr i'r arolwg yn yr ardaloedd peilot eu bod yn ymwybodol o'r opsiwn i bleidleisio ymlaen llaw. Ond roedd y niferoedd a bleidleisiodd yn debyg iawn (heblaw am un ardal) i'r cynlluniau peilot yn 2022.
Mae'n bwysig sicrhau bod y cyhoedd mor ymwybodol â phosibl o newidiadau megis y rhain, ond mae hefyd yn annhebygol y byddai lefelau uwch o ymwybyddiaeth yn yr achos hwn wedi arwain at newidiadau sylweddol naill ai yn y nifer a bleidleisiodd ymlaen llaw neu yng nghyfanswm y nifer a bleidleisiodd.
Roedd pobl wedi dewis pleidleisio'n gynnar am nifer o resymau gwahanol
Mewn cyfweliadau y tu allan i'r canolfannau pleidleisio ymlaen llaw, gofynnwyd i'r pleidleiswyr cynnar ddewis, o restr o opsiynau, y prif reswm iddynt ddewis pleidleisio'n gynnar: dywedodd 45% mai'r prif reswm dros bleidleisio'n gynnar oedd eu bod yn brysur ddydd Iau 5 Mai, dywedodd 14% ei bod yn 'fwy cyfleus' a dywedodd 10% eu bod yn byw'n agos i orsaf bleidleisio a oedd wedi agor ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw.
Yn ein harolwg ar-lein ar wahân, gofynnwyd i'r rhai a ddywedodd eu bod wedi pleidleisio'n gynnar ddewis y rheswm a oedd yn esbonio eu penderfyniad orau. Mae'r siart isod yn dangos y canlyniadau ar gyfer yr ardaloedd peilot gyda'i gilydd.
Rhesymau dros ddewis pleidleisio ymlaen llaw
Roedd diddordeb gen i weld sut roedd yn gweithio | 18% |
---|---|
Roeddwn i'n brysur ar Ddydd lau 5ed Mai / roedd hi'n fwy cyfleus i mi bleidleisio ar ddiwrnod gwahanol | 19% |
Rwy'n byw yn agos i'r ganolfan pleidleisio cynnar | 18% |
Roeddwn i'n mynd heibio a gwelais i'r arwyddion | 27% |
Arall | 17% |
Roedd lefelau pleidleisio yn gyson drwy gydol cyfnod y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw
Byddai patrymau penodol o ran pryd y dewisodd pobl bleidleisio yn rhoi gwybodaeth i ni ynglŷn â sut y gallai unrhyw ymgais i gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw ar raddfa ehangach weithio'n fwyaf effeithiol.
Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad fesul awr yn dangos dosbarthiad eithaf cyfartal o bleidleisiau yn ystod oriau agor gwahanol y cynlluniau peilot. Nid oes unrhyw batrymau arwyddocaol heblaw am lefelau cyson is o bleidleisio yn ystod yr awr olaf o'r oriau agor ym mhob un o'r pedwar cynllun peilot.
Nid oes unrhyw wahaniaethau gwirioneddol rhwng y cynlluniau peilot a gynhaliwyd ar y penwythnos a'r rhai a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos.
Ffigur 2 Dosbarthiad cronnol pleidleisiau ymlaen llaw

Roedd pleidleiswyr cynnar yn gadarnhaol ynghylch eu profiadau.
Cafodd y mwyafrif o'r pleidleiswyr hyn brofiad cadarnhaol wrth bleidleisio ac roeddent yn croesawu'r cyfle a gyflwynwyd gan y cynlluniau peilot. Dywedodd bron bob un (99%) o'r rhai a gyfwelwyd y tu allan i'r gorsafoedd pleidleisio eu bod yn fodlon ar y profiad o bleidleisio'n gynnar.
Pan ofynnwyd iddynt ddweud pam roeddent yn fodlon, y prif resymau a ddewiswyd oedd ei bod yn gyflym pleidleisio (76%), ei bod yn hawdd pleidleisio (64%) a'i bod yn gyfleus pleidleisio (45%). Dywedodd tua thri chwarter (77%) y byddent yn debygol iawn o bleidleisio'n gynnar eto pe bai cyfle i wneud hynny a dywedodd 15% arall y byddent yn eithaf tebygol o wneud hynny.
Cyfyngedig fu'r effaith ehangach ar agweddau'r cyhoedd ond roedd y canfyddiadau yn gadarnhaol
Edrychwyd hefyd ar yr effaith ehangach bosibl ar agweddau'r cyhoedd drwy ein harolygon yn yr ardaloedd peilot a rheoli.
Ar y cyfan, o ystyried y niferoedd bach o bobl a ddewisodd bleidleisio'n bersonol ac yn gynnar, go brin fod cyfle i gael effeithiau amlwg ar farn y cyhoedd. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu nad oes absenoldeb newid mewn agweddau yn golygu na fyddai'r opsiwn i bleidleisio'n gynnar wedi cael effaith pe bai mwy o bobl wedi bod yn ymwybodol ohono a/neu wedi'i ddefnyddio.
- Ar nodyn cadarnhaol, ym mhob ardal, cynyddodd lefelau boddhad gyda'r broses bleidleisio rhwng yr arolwg cychwynnol a'r arolwg dilynol, ond heb fawr ddim gwahaniaeth o bwys rhwng ardaloedd peilot a rheoli. Roedd lefelau boddhad hefyd yn uchel gyda 92% i 93% o'r pleidleiswyr yn dweud eu bod yn fodlon ar y broses.
- Holwyd a oedd pobl yn credu y byddai'r opsiwn i bleidleisio'n bersonol ar sawl diwrnod yn gwneud pleidleisio'n fwy cyfleus neu'n llai cyfleus. Mae'r canlyniadau yn dangos gwahaniaeth bach rhwng yr ardaloedd peilot a rheoli, gyda chyfran uwch o ymatebwyr yn yr ardal beilot yn dweud y byddai'n ei wneud yn fwy cyfleus. Mae'r ardaloedd peilot i gyd hefyd yn dangos cynnydd mewn cyfleustra canfyddedig rhwng y ddau arolwg (dim ond mewn un o'r ardaloedd rheoli y gwelir cynnydd). Gwahaniaethau yw'r rhain i gyd a dylem fod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau.
- Er mwyn asesu unrhyw effaith ar ganfyddiadau cyhoeddus am ddiogelwch y bleidlais holwyd a oedd pobl yn credu y byddai'r gallu i bleidleisio dros sawl diwrnod yn gwneud pleidleisio'n fwy diogel neu'n llai diogel. Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng yr ardaloedd peilot a'r ardaloedd rheoli yn ein harolygon. Roedd pobl yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn credu na fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth mewn gwirionedd (dywedodd 54% ledled Cymru hyn yn ein harolwg ar ôl yr etholiad a dywedodd 10% arall nad oeddent yn gwybod). Ar y cyfan, pan holwyd pobl a oedd pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn ddiogel rhag twyll a chamddefnydd, dywedodd y mwyafrif llethol yn yr ardaloedd peilot a'r ardaloedd rheoli ei fod yn ddiogel. Roedd y canlyniadau yn gyson â'r canfyddiad cyffredinol i Gymru lle y dywedodd 85% o bobl ei bod yn ddiogel (dywedodd 10% nad oeddent yn gwybod a dywedodd 5% nad oedd yn ddiogel).
Effaith ar weinyddu
Summary
Cafodd y cynlluniau peilot eu rhedeg yn dda ac ni chodwyd unrhyw broblemau gweinyddol o bwys ar y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw. Roedd y llwyddiant hwnnw o ganlyniad i waith paratoi a chynllunio effeithiol gan y Swyddogion Canlyniadau a'u timau. Fodd bynnag, mae gwersi i'w dysgu o'u profiadau.
Mae'n bwysig cadarnhau cwmpas unrhyw newid ar gam cynnar
Roedd y ddeddfwriaeth a oedd yn caniatáu'r cynlluniau peilot ar waith erbyn mis Mawrth 2022. Dywedodd Swyddogion Canlyniadau, er nad oedd unrhyw effaith ar y ffordd y roedd y cynlluniau peilot yn rhedeg yn y pen draw, y byddai wedi bod yn well ganddynt pe bai manylion wedi cael eu cadarnhau'n gynharach. Byddai hyn wedi osgoi'r angen i wneud rhywfaint o waith paratoi rhag ofn. Yn yr achos hwn, cafodd yr effaith ymarferol ei gwrthbwyso gan gyfathrebu da rhwng yr awdurdodau peilot a swyddogion Llywodraeth Cymru. Golygai hyn nad oedd unrhyw bethau annisgwyl yn y ddeddfwriaeth ac y gallai'r gwaith cynllunio barhau cyn iddi gael ei rhoi ar waith. Fodd bynnag, byddai hyn yn fwy anodd pe bai'r newid yn gymwys i bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Dylid cytuno ar newidiadau ynglŷn â chynnal etholiadau a'u rhoi ar waith chwe mis cyn yr etholiad er mwyn rhoi cyfle i weinyddwyr etholiadol eu rhoi ar waith yn ddigonol. Dylai unrhyw waith cynllunio ar gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw yn y dyfodol sicrhau bod o leiaf gyfnod paratoi byrraf ar gael.
Roedd yr ymgyrchoedd lleol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn defnyddio amrywiaeth eang o sianeli i gyrraedd darpar bleidleiswyr.
Nodir uchod rai o'r heriau sy'n gysylltiedig ag ennyn diddordeb y cyhoedd yn y math hwn o newid, a dylai ymgyrchoedd a gynhaliwyd gan yr awdurdodau peilot gael eu hystyried yng nghyd-destun y cyfyngiadau hynny.
Dywedodd Swyddogion Canlyniadau a'u timau wrthym eu bod wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau i hysbysu pobl am y cynlluniau peilot, yn benodol:
- Cyfryngau cymdeithasol – Twitter, Facebook ac Instagram yn bennaf
- Hysbysebion ar orsafoedd radio lleol
- Llythyrau hysbysu cartrefi – dyma'r llythyrau a anfonir ym mis Chwefror i gadarnhau manylion cofrestru pob eiddo mewn ardal
- Erthyglau newyddion lleol a datganiadau i'r wasg
Defnyddiwyd dulliau eraill hefyd, gan gynnwys gwefannau cynghorau, byrddau poster, ymgyrchoedd drwy'r post a faniau hyrwyddo neu hysbysebu y gellid eu lleoli mewn mannau proffil uwch yn yr ardal. Dechreuodd pob un o'r cynlluniau peilot eu hymgyrch ym mis Chwefror er mwyn rhoi digon o amser i ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau cyn y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw. Roedd gwybodaeth am y cynllun peilot hefyd yn ymddangos ar y cardiau pleidleisio ym mhob ardal, yn unol â'r ddeddfwriaeth ar gyfer y cynlluniau peilot.
Yn ein harolwg o farn y cyhoedd ar ôl yr etholiad holwyd pawb a ddywedodd eu bod yn ymwybodol o'r cynllun peilot ble roeddent wedi gweld gwybodaeth amdano. Y ffynonellau mwyaf cyffredin oedd ‘gwefan y cyngor’ (29%), ‘cyfryngau cymdeithasol’ (21%), ‘taflen gan y cyngor’ (16%) a ‘gwefan newyddion’ (15%).
Pan holwyd pobl a oedd wedi dewis pleidleisio'n gynnar ble roeddent wedi cael gwybod am y cynllun peilot, y prif ateb oedd y cerdyn pleidleisio (38%). Cafodd un o bob pum pleidleisiwr (19%) wybod drwy daflen neu gylchlythyr gan yr awdurdod lleol a dywedodd 15% iddynt gael gwybod gan eu ffrindiau neu eu teulu.
Holwyd hefyd pa mor hawdd ydoedd i bobl ddod o hyd i wybodaeth am wahanol agweddau ar yr etholiad. Roedd y canfyddiad ynglŷn â rhwyddineb dod o hyd i wybodaeth am yr opsiwn i bleidleisio ymlaen llaw (41%) yn is nag agweddau eraill megis gwybodaeth am bleidiau/ymgeiswyr (59%) a gwybodaeth am ddiben yr etholiad (64%).
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod rhai sianelu yn fwy effeithiol nag eraill o ran cyrraedd pobl. Fodd bynnag, ni allwn ddod i gasgliadau am fod y lefel gyffredinol o ymwybyddiaeth yn isel ac mai pleidleiswyr mwy rheolaidd a gymerodd ddiddordeb yn y cynlluniau peilot yn bennaf.
Os cyflwynir y newid hwn yn genedlaethol, y tebygolrwydd yw y byddai'r holl sianeli a ddefnyddiwyd yn y cynlluniau peilot yn bwysig i ledaenu ymwybyddiaeth ymhlith gwahanol elfennau o'r cyhoedd. Fodd bynnag, dylent gael eu hategu gan weithgarwch cenedlaethol ar raddfa fwy. Gall ymgyrch genedlaethol ddefnyddio mesurau mawr eu heffaith (fel y teledu), gyda negeseuon cyson ym mhob awdurdod lleol a mwy o gyrraedd ymhlith y boblogaeth gyfan. Byddai hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddai negeseuon yr ymgyrch yn cyrraedd y tu hwnt i'r pleidleiswyr rheolaidd presennol.
Roedd y defnydd o gofrestrau electronig yn bwysig o ran gweithredu'r cynlluniau peilot yn ddidrafferth.
Roedd y cynlluniau peilot yn gweithio gyda'r cyflenwr Modern Democracy, gan ddefnyddio ei system sy'n darparu cofrestrau electronig yn yr orsaf bleidleisio ar ddyfeisiau llechen. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i nodi bod pobl wedi pleidleisio ac i gyrchu cofrestrau ar gyfer unrhyw un o ardaloedd yr awdurdod lleol drwy un ddyfais.
Yn y tri chynllun peilot ag un ganolfan pleidleisio ymlaen llaw, roedd hyn yn osgoi'r angen am ddal copïau papur mwy o faint o gofrestr lawn yr awdurdod lleol ym mhob canolfan ac am ddod o hyd i bleidleiswyr unigol yn gyflym ar y gofrestr pan ddaethant i gasglu papur pleidleisio. Bu modd hefyd i Swyddogion Canlyniadau reoli'n effeithlon un o'r heriau o ran uniondeb sy'n codi pan fo sawl diwrnod pleidleisio – y risg o bleidleisio ddwywaith (etholwr yn ceisio pleidleisio mwy nag unwaith). Nid ydym yn ymwybodol bod unrhyw broblemau wedi codi o ran pleidleisio ddwywaith yn y cynlluniau peilot.
Teimlai'r Swyddogion Canlyniadau a'u timau y gallai'r cynllun peilot fod wedi cael ei gyflwyno heb yr elfennau TG o bosibl. Roedd hyn yn arbennig o wir ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle roedd pleidleisio ymlaen llaw yn digwydd mewn gorsafoedd pleidleisio unigol arferol.
Fodd bynnag, pe bai pleidleisio ymlaen llaw yn cael ei gyflwyno mewn un neu fwy o leoliadau canolog mewn ardal heb ddefnyddio cofrestrau etholiadol gallai hynny roi mwy o bwysau ar Swyddogion Canlyniadau a chynyddu'r risg o broblemau'n codi. Nododd y cynlluniau peilot ag un ganolfan bleidleisio, yn absenoldeb y cofrestrau cofrestru, na fyddai'r broses i bleidleiswyr wedi bod cystal – ac y byddai wedi bod yn anodd iawn o bosibl iddynt ymdopi â mwy o bleidleiswyr. Byddai wedi achosi heriau i weinyddwyr o ran y prosesau papur beichus. Byddai hyn wedi bod yn broblem benodol lle mae pleidleisio ymlaen llaw yn digwydd yn union cyn y diwrnod pleidleisio gan na fyddai wedi bod digon o amser i reoli agweddau ar broses a oedd yn gwbl ddibynnol ar brosesau papur. Er enghraifft, byddai angen trosglwyddo data o gofrestr wedi'i marcio o ganolfannau pleidleisio ymlaen llaw i'r cofrestrau papur a ddelir ym mhob gorsaf bleidleisio ‘arferol’. Mae yna hefyd botensial i fuddiannau eraill gael eu gwireddu gan ddefnydd y cofrestrau electronig ochr yn ochr â chefnogi pleidleisio ymlaen llaw, gan gynnwys cywirdeb cofnodion.
Bu'r datrysiad caledwedd a meddalwedd a ddefnyddiwyd yn y cynlluniau peilot yn llwyddiant – ni fu unrhyw broblemau sylweddol ar unrhyw un o'r diwrnodau pleidleisio a chafodd mân broblemau eu datrys yn gyflym. Fodd bynnag, mae rhai gwersi i'w dysgu o'r cynlluniau peilot:
- Amser datblygu a sefydlu: cafodd y cynlluniau peilot eu trefnu'n unol â therfynau amser tynn ac roedd hyn yn cynnwys y gwaith roedd angen ei wneud i ddatblygu'r system cofrestrau electronig ar gyfer amgylchiadau'r cynllun peilot. Yn yr achos hwn, byddai amser ychwanegol wedi gwneud y broses yn fwy cyfforddus ond byddai hefyd o bosibl wedi golygu ‘ôl-broses’ lai trafferthus i weinyddwyr drwy well integreiddio â'u systemau meddalwedd rheoli etholiadol presennol. Arweiniodd y terfynau amser tynn at ddatrysiad i gysylltu'r ddwy system a oedd yn gweithio, ond nid yn y ffordd orau bosibl. Cododd rhai problemau hefyd o ran gweithredu dau ofyniad peilot gwahanol rhwng cynlluniau peilot ag un ganolfan bleidleisio a'r hyn a wnaed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid oedd y gofynion yr un fath a byddai mwy o amser i ddeall y gwahaniaethau wedi helpu i osgoi rhai o'r problemau yr oedd angen ymdrin â nhw yn ystod y cyfnod sefydlu.
- Hyfforddiant a chymorth: ar gyfer cynllun peilot, yn aml caiff hyfforddiant pwrpasol ei roi ond mae'n bosibl na fydd hynny'n gynaliadwy nac yn angenrheidiol ar gyfer proses gyflwyno ehangach. Yn yr achos hwn, roedd llawer o weinyddwyr yn teimlo bod staff gorsafoedd pleidleisio wedi cael mwy o hyfforddiant nag oedd yn angenrheidiol. Mae gan lawer o staff gorsafoedd pleidleisio swyddi llawn amser neu ran-amser yn barod. Felly, gallai fod yn anymarferol gofyn i roi ohonynt gael hyfforddiant yn ystod oriau gwaith. Roedd rhai cynlluniau peilot hefyd yn teimlo bod gwaith sefydlu arall, megis profion gweithredol, yn cael ei drin gyda gormod o ofal. Er eu bod yn cydnabod bod gormod o ofal yn well na dim digon o ofal, roeddent yn amlwg yn teimlo y gellid cwtogi ar y gwaith sefydlu pe bai angen ei gyflwyno ar raddfa ehangach.
Ystyriwyd sawl ffactor wrth ddewis y mannau pleidleisio
Ar gyfer y tri chynllun peilot a oedd yn defnyddio un lleoliad, nad oedd yn orsaf bleidleisio fel arfer, ystyriwyd nifer o ffactorau wrth ddewis y man pleidleisio:
- Lleoliad: Roedd Swyddogion Canlyniadau am gael mannau pleidleisio a oedd yn ganolog o fewn yr ardal, nid dim ond yn ddaearyddol ond hefyd o ran cysylltiadau trafnidiaeth. Cydnabuwyd hefyd fod lefel resymol o brysurdeb arferol hefyd yn fantais, ynghyd â man pleidleisio roedd pobl eisoes yn ei adnabod neu y byddai angen i bobl o bosibl fynd iddo am reswm heblaw am bleidleisio. Roedd angen parcio hawdd hefyd i'r rhai a oedd yn teithio mwy o bellter.
- Hygyrchedd: roedd angen i'r mannau pleidleisio fod yn gwbl hygyrch
- Diogelwch: roedd angen i'r Swyddog Canlyniadau fod yn hyderus y gallai storio blychau pleidleisio'n ddiogel yn y man pleidleisio ei hun (swyddfeydd y cyngor yn Nhorfaen a Chaerffili) neu eu cludo'n ddiogel i safle arall rhwng pob diwrnod pleidleisio (symudodd Blaenau Gwent y blychau o'r Parth Dysgu i swyddfeydd y cyngor gerllaw).
- Lle: roedd angen digon o le ym mhob canolfan i osod nifer o ddesgiau gorsaf bleidleisio a rheoli'r llif o bleidleiswyr yn effeithiol. Roedd faint o le roedd ei angen yn amrywio yn ôl maint yr awdurdod lleol (ac felly'r nifer tebygol o bleidleiswyr) ond hefyd ddull gweithredu Swyddogion Canlyniadau. Er enghraifft, penderfynodd Torfaen a Blaenau Gwent ddefnyddio dwy ddesg yn eu canolfan ond defnyddiodd Caerffili chwe desg.
Dylai nifer y mannau pleidleisio a'u lleoliad a ddefnyddir ym mhob ardal gael eu hystyried yn ofalus
Mae'r ffactorau uchod yn golygu ei bod yn fwy heriol dewis mannau pleidleisio addas na dewis lleoliadau ar gyfer gorsafoedd pleidleisio safonol am eu bod yn cyfyngu ar ddewisiadau Swyddogion Canlyniadau. Yn y cynlluniau peilot, roedd yn gymharol hawdd dod o hyd i un man pleidleisio mewn ardal, ond gallai fod yn fwy heriol dod o hyd i fwy ohonynt.
Nid yw'r cynlluniau peilot hyn yn cynnig unrhyw dystiolaeth bod y defnydd o un lleoliad yn ardal yr awdurdod lleol yn rhwystr sylweddol i bleidleiswyr a oedd yn byw ymhellach i ffwrdd neu yr oedd yn fwy anodd iddynt gyrraedd y ganolfan pleidleisio ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gellir priodoli hyn i'r niferoedd isel a bleidleisiodd yn gynnar. Ym Mlaenau Gwent, er enghraifft, roedd nifer y pleidleisiau cynnar yn yr wyth ward wahanol yn amrywio o un i wyth. Nid oes digon o amrywiad i ddangos patrwm. Hefyd, roedd yr opsiwn i bleidleisio ymlaen llaw ar y cyfan yn denu pleidleiswyr rheolaidd ac ymrwymedig a fydd yn fwy parod i deithio pellteroedd hwy neu wneud teithiau mwy cymhleth na'r cyffredin.
Yn ogystal â hynny, mae awdurdodau lleol y cynlluniau peilot yn gymharol fach, yn ddaearyddol, o'u cymharu â llawer o ardaloedd yng Nghymru. Pe bai pleidleisio ymlaen llaw yn cael ei gyflwyno'n eang byddai angen ystyried faint o fannau pleidleisio fyddai eu hangen ym mhob ardal a'u lleoliadau, gan ystyried maint cyffredinol a chysylltiadau trafnidiaeth. Dylai hyn hefyd ystyried nifer y pleidleiswyr a ragwelir oherwydd gall un man pleidleisio ymdopi â lefelau isel o bleidleiswyr â dosbarthiad da ond efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â llawer mwy o bleidleiswyr, gan gynnwys niferoedd mawr ar adegau penodol yn ystod y dydd.
Ni chafodd Swyddogion Canlyniadau unrhyw gwynion nac adborth negyddol ynglŷn â lleoliadau'r canolfannau yn y cynlluniau peilot. Ni chawsom unrhyw sylwadau ychwaith ynglŷn â'r agwedd hon yn ein harolwg o ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae potensial i unrhyw fan pleidleisio a ddewisir yn y dyfodol achosi pryderon ymhlith pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr. Mewn unrhyw broses o gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw, byddai angen i Swyddogion Canlyniadau sicrhau eu bod yn ymgysylltu â phleidiau ac ymgeiswyr lleol ynglŷn â'r lleoliad(au). Gallai'r broses hon gael ei modelu ar y dull presennol o adolygu dosbarthiadau pleidleisio a mannau pleidleisio lle mae'n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ddilyn proses tryloyw sy'n golygu mynd ati'n rhagweithiol i geisio barn, cyhoeddi sylwadau sy'n dod i law a bod yn glir ynglŷn â sut y gwnaed penderfyniadau.
Roedd mynediad at orsafoedd pleidleisio arferol hefyd yn her ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu defnyddio eu gorsafoedd pleidleisio rheolaidd yn y wardiau lle mae niferoedd bach yn pleidleisio a ddewiswyd ar gyfer y cynllun peilot. Fodd bynnag, mewn sawl achos, nid oedd hyn yn hawdd am fod angen mynediad ar dri diwrnod yn hytrach na'r diwrnod unigol arferol. Roedd ysgolion yn enwedig, sy'n aml yn gorfod cau yn ystod etholiad, yn amharod i gau am dri diwrnod. Ni ellid defnyddio'r ddau leoliad mewn ysgolion a ddefnyddir fel arfer fel gorsafoedd pleidleisio yn yr etholiadau hyn ac, yn lle hynny, trefnwyd adeiladau cludadwy dros dro. Roedd hyn wedi achosi gwaith ychwanegol i'r tîm etholiadau gan fod angen wedyn i'r mannau pleidleisio gael eu gosod i sicrhau eu bod yn hygyrch ac ati.
Pe bai'r dull gweithredu a fabwysiadwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ddefnyddio'n fwy cyffredinol yn enwedig pe bai'n cael ei ddefnyddio dros ardal gyfan awdurdod lleol, yna gallai fod yn heriol dod o hyd i orsafoedd pleidleisio.
Gallai diwrnodau'r wythnos a ddewisir ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw gael effaith ar hwylustod y trefniadau gweinyddol.
Cafodd y ddau ddull gweithredu, sef pleidleisio ar y penwythnos cyn yr etholiad ac ar ddiwrnodau'r wythnos yn union cyn y diwrnod pleidleisio, eu cyflwyno heb unrhyw broblemau sylweddol. Fodd bynnag, dywedodd rhai o'r gweinyddwyr a fu'n rhan o gynlluniau peilot fod pleidleisio ymlaen llaw ar ddydd Mawrth a dydd Mercher cyn etholiad ar ddydd Iau yn achosi pwysau ychwanegol.
Yn gyntaf, mae'n golygu nad oes fawr ddim amser wrth gefn i ymdrin â phroblemau sy'n codi ar y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw cyn diwrnod pleidleisio ar ddydd Iau. Fel uchod, pe bai problemau wedi codi gyda marcio cofrestrau'n electronig, byddai wedi bod yn anodd mynd yn ôl at ddefnyddio'r proses bapur lawn ar ddydd Iau.
Yn ail, mae pleidleisio ar ddydd Mawrth a dydd Mercher yn golygu mwy o orgyffwrdd â rhai o'r gweithgareddau arferol y mae angen i weinyddwyr eu cwblhau cyn etholiad ar ddydd Iau. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar dimau etholiad craidd sydd eisoes o dan bwysau ac sydd, yn aml, yn gymharol fach, sydd â gallu cyfyngedig i ymateb i ofynion newydd sy'n mynd â'u hamser. Llwyddodd y timau yn y cynlluniau peilot i ymdopi â'r broblem hon yn dda ond hynny'n rhannol am fod y staff craidd wedi gwneud cryn dipyn o oramser. Roedd hyn yn arbennig o wir am y cynllun peilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle roedd rheoli'r broses o agor dros 20 o orsafoedd pleidleisio dros dri diwrnod yn gofyn am gryn dipyn o waith ychwanegol.
Wrth ystyried y defnydd o bleidleisio ymlaen llaw yn y dyfodol, byddai'n hollbwysig sicrhau bod gan dimau etholiadau craidd ddigon o adnoddau a'u bod yn ddigon cadarn i ymdopi â'r gofynion ychwanegol. Pan fo timau eisoes o dan bwysau, mae unrhyw ofynion newydd sy'n mynd â'u hamser yn achosi risg i'r broses o redeg yr etholiad. Dylai hyn hefyd ystyried ffactorau ehangach a allai gael effaith, megis etholiadau mwy cymhleth.
Roedd angen staff gorsafoedd pleidleisio ychwanegol ac ychydig o hyfforddiant pellach.
Roedd angen llawer mwy o staff ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle roedd mwy o safleoedd i bleidleisio ymlaen llaw ar gael. Yn y canolfannau pleidleisio ymlaen llaw unigol, roedd y niferoedd yn dibynnu i raddau helaeth ar y dull cyffredinol a ddefnyddiwyd i reoli'r llif o bleidleiswyr, e.e. defnyddiodd Blaenau Gwent a Thorfaen ddwy ddesg gorsaf bleidleisio a defnyddiodd Caerffili chwe desg.
Golygai hyn fod y niferoedd cyffredinol yn amrywio o chwe aelod ychwanegol o staff ym Mlaenau Gwent a Thorfaen i 14 yng Nghaerffili a thros 100 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd y cynlluniau peilot ag un ganolfan bleidleisio nad oeddent wedi cael unrhyw broblemau dod o hyd i staff priodol. Roeddent hefyd yn teimlo bod nifer y staff yn ddigon i ymdopi â'r gwaith ar y diwrnodau pleidleisio ymlaen.
Nid yw'n syndod ei bod yn fwy heriol i Ben-y-bont ar Ogwr. Er i'r awdurdod lleol lwyddo i recriwtio digon o staff ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio ymlaen llaw, nid oedd yn hawdd gwneud hynny, ac roedd yn amau a fyddai modd dod o hyd i ddigon o staff pe bai ei holl orsafoedd pleidleisio wedi bod ar agor dros y tri diwrnod. Mae gan lawer o staff gorsafoedd pleidleisio swyddi, gan gynnwys swyddi mewn llywodraeth leol. Mae angen iddynt gael eu rhyddhau o'r rolau parhaol hynny a pho fwyaf o ddiwrnodau y bydd eu hangen, y mwyaf anodd y gall hynny fod.
Defnyddiodd Pen-y-bont ar Ogwr ddwy sifft i reoli llwyth gwaith y staff gyda phob un yn gweithio bore neu brynhawn ar y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw (ac yna gweithiodd un sifft ddiwrnod pleidleisio llawn ar y dydd Iau). Roedd hefyd wedi ystyried rhai o'r heriau logistaidd manwl, er enghraifft, byddai'r un gweithwyr yn cau gorsaf nos Fawrth ac yn ei hagor fore dydd Mercher (a'r un peth rhwng dydd Mercher a dydd Iau). Y nod oedd lleihau unrhyw broblemau o ran mynediad i safleoedd a/neu gyfarpar.
Ym mhob cynllun peilot, gan fod y gwaith yn debyg iawn i etholiad safonol, roedd hyfforddiant hefyd yn cael ei roi i staff gorsafoedd pleidleisio yn debyg i'r ffordd arferol. Roedd ychydig o hyfforddiant pellach (ar wahân i'r hyfforddiant TG a grybwyllir uchod) ar gael i'r staff yn y canolfannau pleidleisio ymlaen llaw er mwyn mynd i'r afael â heriau penodol y cynlluniau peilot (megis ymdrin â chofrestrau wedi'u marcio dros y diwrnodau, a selio blychau pleidleisio). Ym mhob achos, dywedodd y cynlluniau peilot wrthym fod hwn yn ofyniad ychwanegol roeddent yn gallu ymdopi ag ef.
Ni chodwyd unrhyw broblemau o ran uniondeb y bleidlais yn yr ardaloedd peilot
Mae sawl her bosibl o ran uniondeb yn codi wrth gynnal pleidlais dros sawl diwrnod. Mae'r rhain yn cynnwys, fel y'u nodi uchod, sicrhau diogelwch blychau pleidleisio dros nos a rheoli'r risg o bleidleisio ddwywaith.
Llwyddodd y Swyddogion Canlyniadau a'u timau i reoli'r risgiau hyn yn dda, gan weithio ochr yn ochr â phwyntiau cyswllt unigol lleol a phwyntiau cyswllt unigol yr heddlu. Nid oes unrhyw bryderon ynglŷn ag uniondeb y bleidlais yn yr ardaloedd peilot wedi cael eu codi gyda'r Swyddogion Canlyniadau, yr heddlu, pleidiau gwleidyddol nag ymgeiswyr.
Cost
Mae'r tabl isod yn nodi costau'r cynllun peilot, wedi'u rhannu'n brif gategorïau o wariant, fel y'u cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan yr awdurdodau peilot. Mae'r data yn nodi'r costau yr aethant iddynt yn uniongyrchol (megis costau rhai o'r ddarpariaeth TG) neu symiau a roddwyd i awdurdodau lleol i ariannu agweddau ar y cynllun peilot.
Fel gydag unrhyw gynllun peilot, mae'n anodd dod i gasgliadau clir ar sail y ffigurau hyn ynglŷn â chost derfynol unrhyw broses o gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw ar raddfa ehangach, a hynny am sawl rheswm:
- Mae awdurdodau lleol wedi defnyddio dulliau gwahanol o gofnodi costau (e.e. a yw costau staff y tîm craidd wedi'u cynnwys, pa gyfarpar y codir tâl amdano);
- Bydd cynlluniau peilot yn mynd i gostau datblygu na fyddant o bosibl yn berthnasol, naill ai yn yr un ffordd neu ddim o gwbl, i broses gyflwyno lawn;
- Nid yw'r ardaloedd awdurdod lleol dan sylw yn gynrychioliadol o'r holl ardaloedd;
- Efallai na fydd rhai costau yn y dyfodol wedi'u cynnwys yn y cynllun peilot (e.e. ymgyrchoedd cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd);
- Efallai y bydd arbedion maint y gellir eu gwireddu'n genedlaethol, er gwaethaf y costau cynyddol a fyddai'n gysylltiedig â chyflwyno'r polisi mewn mwy o ardaloedd.
Math o wariant | Cost |
---|---|
Staffio | £54,046 |
Cyfarpar | £25,297 |
Llogi adeiladau, trafnidiaeth a mannau storio | £13,600 |
Cyfathrebu | £56,970 |
System Rheoli Etholiad | £268,000 |
Cofrestrau electronig* | £1,093,890 |
CYFANSWM | £1,511,803 |
* Mae hyn yn cynnwys y costau yr aed iddynt yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol am y defnydd parhaus o drwyddedau meddalwedd ynghyd â'r gost ychwanegol yr aed iddi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru am weithgareddau penodol a oedd yn ymwneud â'r cynlluniau peilot.
Am y rhesymau a nodir uchod, ni all costau'r cynlluniau peilot gael eu hystyried yn arwydd clir o gostau tebygol unrhyw broses o gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw yn y dyfodol. Fodd bynnag, o ystyried y niferoedd bach a bleidleisiodd yn gynnar, mae'n bwysig bod unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn cael eu llywio gan asesiad o'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â chyflwyno pleidleisio ymlaen llaw ar raddfa ehangach, gan gynnwys y defnydd o gofrestrau electronig i gefnogi'r broses pleidleisio ymlaen llaw, sef y maes mwyaf a oedd wedi arwain at gostau ychwanegol yn y cynlluniau peilot.
Cefndir
Cynllun peilot
Sefydlodd Llywodraeth Cymru fframwaith ar gyfer moderneiddio etholiadol yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2021. Roedd y cynlluniau peilot hyn yn un o'r mentrau cyntaf o dan y fframwaith hwnnw. Aeth Llywodraeth Cymru ati i lunio'r cynlluniau peilot ar y cyd â'r awdurdodau lleol a oedd wedi gwirfoddoli a chytuno ar y dull gweithredu penodol y byddai pob ardal yn ei fabwysiadu. Cyhoeddwyd y ddeddfwriaeth a fyddai'n angenrheidiol ar gyfer y cynlluniau peilot ym mis Mawrth 2022.
Ardal Beilot | Manylion |
---|---|
Blaenau Gwent |
Canolfan pleidleisio ymlaen llaw ym Mharth Dysgu Glynebwy Dydd Mawrth, 3 Mai a dydd Mercher, 4 Mai, 8am i 5pm |
Pen-y-bont ar Ogwr |
21 o orsafoedd pleidleisio mewn saith ward etholiadol Dydd Mawrth, 3 Mai a dydd Mercher, 4 Mai, 7am i 9pm Gorsaf bleidleisio yn Ysgol Gyfun Cynffig (disgyblion yn unig) Dydd Mawrth, 3 Mai |
Caerffili |
Canolfan pleidleisio cynnar yn swyddfeydd y Cyngor Dydd Sadwrn, 30 Ebrill a dydd Sul, 1 Mai, 10am i 4pm |
Torfaen |
Canolfan pleidleisio cynnar yn swyddfeydd y Cyngor Dydd Sadwrn, 30 Ebrill a dydd Sul, 1 Mai, 10am i 4pm |
Cynhaliwyd y prosesau ym mhob ardal gan Swyddogion Canlyniadau Lleol a goruchwyliwyd y cynllun peilot yn ei gyfanrwydd gan Lywodraeth Cymru
Ein gwerthusiad
Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni gyhoeddi gwerthusiad annibynnol o'r cynllun peilot o fewn tri mis i'r etholiad, a bod cwestiynau penodol y mae'n rhaid i ni eu hystyried:
- A oedd y nifer a bleidleisiodd yn uwch nag y byddai wedi bod pe na bai'r cynllun wedi cael ei roi ar waith
- A oedd pleidleiswyr yn teimlo bod y gweithdrefnau a ddarparwyd o dan y cynllun i'w yn hawdd i'w defnyddio
- A arweiniodd y gweithdrefnau a ddarparwyd o dan y cynllun at gynnydd mewn troseddau cambersonadu neu droseddau etholiadol eraill neu gynnydd mewn unrhyw achosion o gamymddwyn mewn cysylltiad ag etholiadau
- A arweiniodd y gweithdrefnau hynny at unrhyw gynnydd mewn gwariant, neu unrhyw arbedion, gan yr awdurdod
Casglwyd gwybodaeth o ffynonellau gwahanol er mwyn sicrhau bod ein gwerthusiad o'r cynllun yn drylwyr ac yn gadarn, gan gynnwys:
- Arolygon cynrychioliadol yn gofyn i bobl ym mhob ardal leol am eu barn am y cynllun – cynhaliwyd un ym mis Chwefror/Mawrth 2022 fel mesur llinell sylfaen ac ail arolwg ar ôl y diwrnod pleidleisio ym mis Mai 2022.
- ‘Cyfweliadau ymadael’ â phleidleiswyr cynnar ar ôl iddynt fwrw eu pleidlais
- Data ar y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau, gan gynnwys nifer y pleidleiswyr cynnar a phryd y gwnaethant fwrw eu pleidlais
- Safbwyntiau a thystiolaeth gan Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol a gynhaliodd y cynlluniau peilot
- Gwybodaeth am gost cynnal y cynllun peilot
Ardaloedd rheoli
Er mwyn helpu i asesu a oes modd cysylltu unrhyw newidiadau mewn pethau fel y nifer a bleidleisiodd neu farn y cyhoedd â'r cynlluniau peilot yn hytrach na ffactorau eraill, nodwyd set o ardaloedd rheoli gennym, sef awdurdodau lleol sy'n rhannu demograffeg debyg (proffil oedran ac ethnigrwydd, diweithdra ac ati) a lefelau pleidleisio tebyg yn y gorffennol ond lle nad oedd unrhyw gynlluniau peilot yn cael eu cynnal. Mae hyn yn ein galluogi i farnu ai dim ond yn yr ardaloedd peilot a welir newidiadau neu a welir newidiadau yn yr ardaloedd peilot a rheoli.
Mae'r tabl isod yn dangos y cynlluniau peilot a'u hardal reoli gyfatebol.
Ardal Beilot | Ardal Reoli |
---|---|
Blaenau Gwent | Castell-nedd Port Talbot |
Pen-y-bont ar Ogwr | Rhondda Cynon Taf |
Caerffili | Sir y Fflint |
Torfaen | Wrecsam |
Tystiolaeth ategol
Gwnaethom weithio gyda’r asiantaeth ymchwil Strategic Research and Intelligence. Gwnaethant gynhyrchu adroddiad oedd yn cynnwys crynodeb o ganfyddiadau’r cyfweliadau gadael a gynhaliwyd yn y canolfannau pleidleisio ymlaen llaw. Os hoffech gael copi o’r adroddiad PDF hwn drwy e-bost, anfonwch gais atom. Mae’r adroddiad hwn ar gael yn Saesneg.
Opens in new windowGwneud cais am PDF
Tystiolaeth flaenorol
Rhwng 2000 a 2007 cynhaliwyd nifer o gynlluniau peilot a roddodd gyfle i bobl bleidleisio'n bersonol mewn cyfleusterau pleidleisio ymlaen llaw cyn y diwrnod pleidleisio.
Cynhaliwyd y cylch olaf o gynlluniau peilot mewn etholiadau lleol yn Lloegr ym mis Mai 2007. Cynhaliodd pum awdurdod lleol gynlluniau peilot a ddarparodd gyfleusterau pleidleisio ymlaen llaw ar wahanol ddiwrnodau cyn y diwrnod pleidleisio, sef 3 Mai 2007.
Canfu ein gwerthusiad o'r holl gynlluniau peilot blaenorol hyn mai cyfyngedig fu'r defnydd o gyfleusterau pleidleisio ymlaen llaw a bod y defnydd hwnnw wedi'i gyfyngu ar y cyfan i'r rhai sydd eisoes yn debygol o bleidleisio.
Tynnodd ein gwerthusiad o gynlluniau peilot 2007 sylw at nifer o ganfyddiadau sy'n dal i fod yn berthnasol wrth ystyried pleidleisio ymlaen llaw ac sy'n cefnogi ein canfyddiadau o'r cynlluniau peilot yng Nghymru yn 2022. Fodd bynnag, nid oes modd cymharu'r cynlluniau peilot hyn yn uniongyrchol â'r rhai mwy diweddar am fod y dulliau gweithredu penodol a ddefnyddiwyd yn amrywio. Er enghraifft, dim ond un cynllun peilot a oedd yn cynnig dau ddiwrnod pleidleisio ymlaen llaw, roedd y pedwar arall yn cynnig rhwng pedwar a naw diwrnod. Hefyd, roedd gan y rhan fwyaf o'r cynlluniau peilot un ganolfan bleidleisio ac roedd sawl un wedi treialu pleidleisio ymlaen llaw o'r blaen.
Y nifer a bleidleisiodd
Cyfyngedig fu'r effaith ar y nifer a bleidleisiodd. Roedd canran y pleidleiswyr a fwriodd eu pleidlais mewn canolfannau pleidleisio ymlaen llaw yn amrywio o 0.5% i 7%. Yn ein harolygon, dywedodd 74% o'r pleidleiswyr cynnar y byddent wedi pleidleisio beth bynnag. Nid oedd unrhyw gydberthynas rhwng y nifer a bleidleisiodd ac amseroedd agor gwahanol y canolfannau pleidleisio.
Nid oedd unrhyw batrwm ychwaith o ran diwrnod a ffefrir ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw: mewn dau o'r pum cynllun peilot, dydd Mercher oedd y diwrnod mwyaf poblogaidd. Yn y tri chynllun peilot arall, dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener oedd y diwrnod mwyaf poblogaidd
Profiad pleidleiswyr
Mae adborth gan randdeiliaid lleol ac ymchwil i farn y cyhoedd a gynhaliwyd ar ran y Comisiwn yn ardaloedd y cynlluniau peilot yn awgrymu bod etholwyr yn croesawu cyfleustra ychwanegol pleidleisio ymlaen llaw yn gyffredinol. Roedd y rhai a bleidleisiodd yn gynnar wedi cael y broses yn hawdd ei ddefnyddio.
Rheoli a chost
Roedd y prosesau a ddefnyddiwyd i gynnal y cynlluniau pleidleisio ymlaen llaw peilot yn debyg i'r rhai a ddefnyddiwyd mewn etholiadau safonol ac nid oeddent yn golygu fawr ddim her ychwanegol i Swyddogion Canlyniadau.
Roedd costau'r cynlluniau peilot yn amrywio, yn dibynnu ar natur y cynllun peilot penodol. Er enghraifft, byddai mwy o ganolfannau pleidleisio a/neu ddiwrnodau pleidleisio yn arwain at gost uwch.
Diogelwch
Ni roddwyd gwybod am unrhyw honiadau o gambersonadu na throseddau etholiadol eraill mewn perthynas â'r cynlluniau peilot. Roedd risgiau megis pleidleisio ddwywaith a storio papurau pleidleisio wedi cael eu nodi a'u rheoli'n dda.