We're showing you content for:

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.

Newyddion ffug

Gall gwybodaeth gael ei rhannu yn y cyfnod cyn etholiadau a all fod yn gamarweiniol weithiau. Mae'r straeon hyn yn aml ar y cyfryngau cymdeithasol. Os na chânt eu gwirio, gellir eu rhannu filoedd o weithiau heb i neb amau a ydynt yn gywir ac yn ddibynadwy.

Weithiau, byddwch chi'n gallu gweld pan nad yw rhywbeth yn wir. Er enghraifft, mae ‘y Prif Weinidog yn cyfaddef eu bod yn estron’ yn debygol o achosi pryder. Fodd bynnag, nid yw gwybodaeth anghywir arall neu ‘newyddion ffug’ mor hawdd i’w gweld.

Os gwelwch chi bennawd newyddion, rhestr o ffeithiau neu erthygl ar y cyfryngau cymdeithasol, gwiriwch eu bod yn ddibynadwy cyn eu rhannu â'ch ffrindiau. 
 

Sut i wirio ffeithiau

Gallwch wirio ffeithiau trwy wneud y canlynol:

  • edrychwch o ble y daeth y wybodaeth. 

A oes gan yr awdur reswm dros ddweud rhywbeth mewn ffordd arbennig? A ydynt yn ffynhonnell hysbys ar gyfer newyddion, neu a ydynt yn rhywun nad ydych erioed wedi clywed amdano o'r blaen? Oes yna ddolen we i ddysgu rhagor? 

  • dewch o hyd i ffynhonnell ddibynadwy arall sy'n cadarnhau'r wybodaeth. 

Os yw gwefan newyddion ddibynadwy hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon, mae'n ei gwneud yn llawer mwy tebygol ei bod yn wir.

  • gofynnwch am ragor o wybodaeth. 

Os yw eich ffrind yn rhannu gwybodaeth â chi, gofynnwch iddo ble y daeth o hyd i'r wybodaeth ac a all anfon rhagor atoch. Cofiwch fod yn barchus.

  • defnyddiwch wasanaeth gwirio ffeithiau dibynadwy a diduedd y gellir ymddiried ynddo. 

Mae nifer o wasanaethau gwirio ffeithiau am ddim ar gael ar-lein. Cofiwch wneud eich ymchwil eich hun ar y gwefannau hyn hefyd.

Peidiwch â gadael i’ch holl waith ymchwil fynd yn wastraff – cofiwch gofrestru i bleidleisio.