Gwnaethom ofyn i dros 2,500 o bobl ifanc 11 i 25 oed ledled y DU am eu diddordeb a’u hyder mewn pleidleisio, gwleidyddiaeth a democratiaeth.

Mae ein hadroddiad diweddaraf yn archwilio’ beth yw barn pobl ifanc am y pynciau hyn, yr hyn a addysgir mewn ysgolion a’r ffynonellau gwybodaeth y mae pobl ifanc yn ymddiried ynddynt fwyaf ac a ddefnyddir fwyaf.

Mae’n amlygu’r angen am addysg ddemocrataidd - oherwydd pan fo gan bobl ifanc fwy o wybodaeth, maen nhw’n teimlo bod ganddynt fwy o rym i gymryd rhan.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Ein prif ganfyddiadau o’r adroddiad Lleisiau Ifanc ar Ddemocratiaeth

Ar hyn o bryd nid oes gan bobl ifanc yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i deimlo’n hyderus am wleidyddiaeth a phleidleisio.

 

Andrew, Hyrwyddwr Llais Ieuenctid

Gallwn gefnogi pobl i ddod yn wybodus drwy addysgu pobl am bwy yw’r pleidiau gwleidyddol, beth maen nhw’n ei gynnig, a sut i bleidleisio.

O ran gwybodaeth am wleidyddiaeth, pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o gredu'r hyn y maent yn ei glywed gan oedolion gartref neu yn yr ysgol, a lleiaf tebygol o ymddiried mewn cyfryngau cymdeithasol.

Ymddiriedaeth pobl ifanc mewn ffynonellau gwybodaeth

 

Zani, Hyrwyddwr Llais Ieuenctid

Trwy’r rhwydwaith llais ieuenctid dwi wedi dod i ddeall bod addysg ddemocrataidd yn bwysicach nag erioed.

Mae yna angen am fwy o addysg ddemocrataidd mewn ysgolion a cholegau i gefnogi pobl ifanc i ddod yn bleidleiswyr ymgysylltiedig a gwybodus.

 

David, Hyrwyddwr Llais Ieuenctid

Addysg yw’r ffordd orau o rymuso ac annog eraill i ddod yn ymgysylltiedig a dweud eu dweud.

Ein barn

Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn credu’n gryf y dylai pob person ifanc gael y cyfle i ddysgu am ddemocratiaeth, gan roi’r wybodaeth a’r hyder iddynt gymryd rhan. Hyd yn hyn, rydym wedi cefnogi dros hanner miliwn o bobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth drwy ein hadnoddau a gweithio gydag ysgolion a sefydliadau ieuenctid.