About these resources

Gellir defnyddio ein hadnoddau ymgyrchu i hyrwyddo cofrestru i bleidleisio ac ymgysylltu’n ddemocrataidd.

Sut allwch chi helpu?

Mae sefydliadau fel eich un chi yn y fan a'r lle ac mae gennych berthnasau gwych gyda’r bobl rydych yn ceisio’u cyrraedd. Rydych yn ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddoch, ac efallai bod gennych hefyd fynediad at grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar y gofrestr etholiadol.

Gellir defnyddio ein hadnoddau hyblyg ac addasadwy drwy’r flwyddyn gyfan. P’un ai hwn yw’r tro cyntaf i chi geisio hyrwyddo cofrestru i bleidleisio, neu p’un a ydych yn un o’r partneriaid hirsefydledig, gobeithiwn y byddant o ddefnydd i chi.

Lawrlwythwch ein hadnoddau

I ategu ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr newydd, rydym wedi creu adnoddau y gall awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithas sifil eu defnyddio i hybu cofrestru pleidleiswyr drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r rhain yn cynnwys adnoddau sy'n arddangos cynrychiolwyr grwpiau y gwyddom eu bod yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru ac sy'n wynebu rhwystrau eraill i bleidleisio megis y gofyniad ID pleidleisiwr. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys pobl sy'n profi digartrefedd, pobl ag anableddau dysgu, Mwslimiaid Prydeinig benywaidd a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Crëwyd yr adnoddau hyn gyda chefnogaeth gan bartneriaid, sef Shelter, United Response, Brighton and Hove Muslim Forum, a Friends, Families and Travellers.

 

 

 

 

Bydd adnoddau ychwanegol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cyhoeddi maes o law.