Adnoddau gwybodaeth i bleidleiswyr
About these resources
I helpu i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl, rydym wedi creu ystod o adnoddau gwybodaeth ddigidol a phrint i bleidleiswyr y gellir eu defnyddio cyn yr etholiadau.
Mae’r adnoddau hyn wedi’u dylunio i godi ymwybyddiaeth ynghylch y canlynol:
- sut i bleidleisio hyd at y diwrnod pleidleisio
- pryd mae’r etholiadau’n cael eu cynnal
- dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio
- cael help yn yr orsaf bleidleisio
- beth i’w wneud os oes angen help arnoch i bleidleisio
- pwy yw rhifwyr
- amseroedd agor gorsafoedd pleidleisio
Resources
Mae posteri a ffurflenni isod y gallwch eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth. Yn ogystal â meintiau gwahanol, mae gennym hefyd opsiynau ‘yn barod i’w argraffu’ a ‘print masnachol’ – gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiynau sy’n iawn ar eich cyfer chi.
Lawrlwythwch adnoddau argraffu
Os ydych eisiau ychwanegu’ch logo eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein canllawiau hunaniaeth gorfforaethol yn gyntaf. Os ydych eisiau gwneud unrhyw newidiadau eraill i’r cynnwys, cysylltwch â ni’n uniongyrchol yn [email protected]
Mae ein hadnoddau digidol wedi’u datblygu ar gyfer Facebook, Instagram a Twitter. Rydym hefyd wedi creu ystod o dempledi y gallwch eu defnyddio wrth bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os ydych eisiau ychwanegu’ch logo eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein canllawiau hunaniaeth gorfforaethol yn gyntaf. Os ydych eisiau gwneud unrhyw newidiadau eraill i’r cynnwys, cysylltwch â ni’n uniongyrchol yn [email protected]
- Lawrlwythwch ein taflenni sticeri a’n posteri ‘Gofyn am help’ newydd i’w defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio i annog pleidleiswyr i ofyn i staff am gymorth os hoffent wneud hynny
- Mae ymgyrch Fy Mhleidlais Fy Llais hefyd wedi creu adnoddau, gyda chefnogaeth y Comisiwn Etholiadol, i gefnogi pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i bleidleisio. Mae’r rhain yn cynnwys ‘pasbort pleidleisio’ y gall pobl ei ddefnyddio i helpu staff gorsafoedd pleidleisio i ddeall yn hawdd unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnynt.