Introduction

Mae newidiadau i bleidleisio ar gyfer dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig cymwys sy'n byw dramor o 16 Ionawr 2024 ymlaen.

Mae nifer o newidiadau i bleidleisio o dramor bellach yn berthnasol: 

  • Gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU waeth pa mor bell yn ôl y gwnaethoch adael neu y cawsoch eich cofrestru diwethaf i bleidleisio yn y DU.  
  • Mae eich datganiad tramor bellach yn ddilys am dair blynedd, sy'n para tan 1 Tachwedd yn y drydedd flwyddyn ar ôl iddo ddod i rym (er enghraifft, os bydd eich datganiad yn dod i rym ar 1 Mawrth 2024, bydd yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2026). 
  • Gallwch nawr gofrestru ar-lein (ddim ar gael yng Ngogledd Iwerddon). 

Rydym yn argymell peidio â rhannu'r adnoddau isod â'r cyhoedd cyn 16 Ionawr 2024.

Lawrlwythwch ein hadnoddau

Rydym wedi cynhyrchu ystod o adnoddau i helpu awdurdodau lleol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a phartneriaid eraill i gyfleu’r newidiadau hyn i breswylwyr a allai fod â ffrindiau neu deulu yn byw dramor a fydd bellach yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.

Mae'r rhain yn cynnwys posteri, taflen, graffeg cyfryngau cymdeithasol a phostiadau templed, baneri’r we, llofnodion e-byst, copi cylchlythyr a gwe templed a Chwestiynau Cyffredin ar gyfer y Wasg.

Llofnod e-bost 

Gall partneriaid ddefnyddio'r llofnod e-bost i gyfeirio pleidleiswyr at ragor o wybodaeth trwy eu gohebiaeth e-bost.

Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Llofnod E-bost

Cwestiynau Cyffredin

Gall partneriaid ddefnyddio'r Cwestiynau Cyffredin i ddarparu atebion i gwestiynau cyffredin a allai fod gan bleidleiswyr am y newidiadau hyn.

Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Cwestiynau Cyffredin

Posteri a Taflen A5

Mae’r posteri a’r daflen yn crynhoi’r newidiadau hyn, ac maent ar gael mewn dau fformat:

  • ‘Print proffesiynol’, yn cynnwys olion torri ac estyn
  • PDF sy’n hygyrch i'r we, i'w weld ar-lein

Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Posteri a Thaflen

Datganiad i'r wasg

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r datganiad i'r wasg i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau hyn drwy eu gwasg leol.

Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Datganiad i’r wasg

Graffeg cyfryngau cymdeithasol a phostiadau templed

I gyd-fynd â’r graffeg cyfryngau cymdeithasol mae ystod o bostiadau templed y gall partneriaid eu defnyddio i gyhoeddi’r newidiadau hyn ar eu sianeli Facebook, Instagram a Twitter. 

Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Graffeg Cyfryngau Cymdeithasol a Phostiadau

Baneri y we

Mae baneri y we yn cynnwys neges generig yn cyhoeddi'r newidiadau hyn. Gellir eu harddangos ar wefannau cynghorau a gwefannau Swyddogion Cofrestru Etholiadol i helpu i wneud trigolion yn ymwybodol a’u cyfeirio at ragor o wybodaeth.

Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Baneri’r we

Gwe a chopi cylchlythyr

Gellir defnyddio copi’r we a’r copi cylchlythyr wrth baratoi cynnwys ar gyfer pleidleiswyr ar gyfer gwefannau neu gylchlythyrau partneriaid.

Newidiadau i Bleidleisio Tramor – Gwe a Chopi Cylchlythyr