Pecyn cymorth i bartneriaid
Overview of resources
Rydym wedi creu’r pecyn cymorth hwn i bartneriaid er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i unrhyw un hyrwyddo cofrestru i bleidleisio ac ymgysylltu’n ddemocrataidd.
Gellir defnyddio ein hadnoddau hyblyg ac addasadwy drwy’r flwyddyn gyfan. Chi sy’n gwybod pryd fyddant fwyaf perthnasol i’ch rhwydwaith, a’ch dewis chi fydd pryd y byddwch yn eu defnyddio.
P’un ai hwn yw’r tro cyntaf i chi geisio hyrwyddo cofrestru i bleidleisio, neu p’un a ydych yn un o’r partneriaid hirsefydledig, gobeithiwn y bydd o ddefnydd i chi.
Yr hyn a gewch yn y pecyn cymorth hwn:
- Sut allwch chi helpu
- Adnoddau digidol
- Adnoddau argraffu
Hefyd, cyn etholiadau, rydym yn cynhyrchu adnoddau sy’n benodol ar gyfer etholiadau er mwyn i chi allu codi ymwybyddiaeth ohonynt. Cofrestrwch ar gyfer Roll Call, ein cylchlythyr i bartneriaid a sefydliadau sydd â diddordeb yn y broses o gofrestru i bleidleisio, er mwyn i ni allu cadw mewn cysylltiad.
Pam ei fod yn bwysig?
Pleidleisio yw conglfaen cyfranogiad pobl mewn democratiaeth. Y blwch pleidleisio yw'r man lle mae pobl yn cael dweud eu dweud ar bwy sy'n eu cynrychioli ar lefel leol neu genedlaethol, i wneud penderfyniadau ac i weithredu ar eu rhan.
Ond os nad yw pobl yn cofrestru, ni allant bleidleisio, mae mor syml â hynny. Drwy annog eich rhwydwaith i gofrestru, gallwch ein helpu ni i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio’n gallu gwneud hynny.
Weithiau gellir galw am etholiad ar fyr rybudd, gan roi llai o amser i rannu’r neges ac i bobl gofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau. Gall annog pobl yn eich rhwydweithiau i gofrestru cyn gynted â phosibl eu hatal rhag colli allan; unwaith byddant ar y gofrestr etholiadol byddant yn aros yno, oni bai eu bod yn symud tŷ neu fod eu statws yn newid.
Resources
Mae sefydliadau fel eich un chi yn y fan a'r lle ac mae gennych berthnasau gwych gyda’r bobl rydych yn ceisio’u cyrraedd. Rydych yn ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddoch, ac efallai bod gennych hefyd fynediad at grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar y gofrestr etholiadol.
Dyma sut allwch chi helpu i rannu’r neges:
Ei rhoi ar gyfryngau cymdeithasol
Rhannwch ein delweddau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter, Instagram ac unrhyw sianeli eraill a ddefnyddiwch. Rhowch ddyfyniadau gan arweinwyr yn eich sefydliad gyda’r delweddau. Rydym yn gwybod bod pobl yn fwy tebygol o wrando ar bobl maent yn eu hadnabod ac y maent yn ymddiried ynddynt.
Enghraifft: “Cofrestrais i bleidleisio oherwydd mae’n bwerus ac yn syml i’w wneud – Jane Bloggs”
Gosod posteri
Dangoswch ein posteri’n strategol mewn mannau sydd â llawer o bobl, megis ceginau a thoiledau.
Po fwyaf o bobl sy’n eu gweld, y mwyaf tebygol y byddant o gofrestru.
Mae byrddau arddangos rhyngweithiol hefyd yn ffordd wych o ddangos y delweddau.
Cadw mewn cysylltiad
Cofrestrwch i gael Roll Call – mae'r cylchlythyr hwn yn caniatáu i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am etholiadau, adnoddau newydd a mwy.
Dilynwch ni ar Facebook a Twitter. Peidiwch ag anghofio hoffi, rhannu ac ail-drydaru!
Dosbarthu taflenni
Dosbarthwch y rhain mewn digwyddiadau ac ymgyrchoedd sy’n annog pobl i gofrestru i bleidleisio.
Gall taflenni fod yn ffordd dda o ennyn diddordeb pobl yn eich digwyddiadau a hefyd eu hatgoffa pan gyrhaeddant adref.
Lawrlwythwch y posteri a’r taflenni hyn i godi ymwybyddiaeth. Yn ogystal â meintiau gwahanol, mae gennym hefyd opsiynau ‘yn barod i’w argraffu’ a ‘print masnachol’ – gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiynau sy’n iawn ar eich cyfer chi!
Os ydych eisiau ychwanegu’ch logo eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein canllawiau hunaniaeth gorfforaethol (tudalennau 12-13) yn gyntaf. Os ydych eisiau gwneud unrhyw newidiadau eraill i’r cynnwys, cysylltwch â ni’n uniongyrchol yn [email protected].
Mae ein hadnoddau digidol ar gael mewn fformatau ar gyfer Facebook, Instagram a Twitter.
Os ydych eisiau ychwanegu’ch logo eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein canllawiau hunaniaeth gorfforaethol (tudalennau 12-13) yn gyntaf. Os ydych eisiau gwneud unrhyw newidiadau eraill i’r cynnwys, cysylltwch â ni’n uniongyrchol yn [email protected].