Yr Eirfa Etholiadol
Mae’r Eirfa Etholiadol yn adnodd byw, wedi’i greu i gefnogi’r defnydd cyson a chydradd o derminoleg etholiadol yn y Gymraeg a’r Saesneg ledled Cymru. Datblygwyd yr eirfa hon gan Grŵp Cynghori Deddfwriaeth y Gymraeg dan gadeiryddiaeth Bronwen Morgan ar y cyd â’r Comisiwn Etholiadol yn 2018 yn wreiddiol, mae nawr wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth ac arferion etholiadol sy’n datblygu yng Nghymru. Mae’r fersiwn hon yn adeiladu ar gydweithio helaeth gydag arbenigwyr iaith, cyfieithwyr y Comisiwn Etholiadol ag eraill, ac aelodau’r gymuned etholiadol ehangach.
Gobeithiwn y bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i bawb sy’n ymwneud â gweinyddu ac ymgymryd ag etholiadau, gan alluogi cyfathrebu clir a chefnogi’r broses ddemocrataidd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Caiff y talfyriadau cyffredin canlynol eu defnyddio yn yr Eirfa hon:
- a. ansoddair
- b. benywaidd
- be. berf
- g. gwrywaidd
Cwblhawyd y gwiriadau canlynol:
- Gwiriwyd terminoleg etholiadol yn erbyn cronfa ddata derminolegol Llywodraeth Cymru, sef TermCymru, gan nodi unrhyw wahaniaethau.
- Gwiriwyd terminoleg etholiadol yn erbyn Geiriadur Prifysgol Cymru a Geiriadur yr Academi
- Gwiriwyd terminoleg yn erbyn deddfwriaeth bresennol drwy ddefnyddio adnodd deddfwriaethol y Deyrnas Unedig.
- Ymgorfforwyd Canllawiau Hunaniaeth y Comisiwn Etholiadol yn unol â dyluniad diwygiedig ein gwefan.
- Cynhaliwyd gwiriadau hygyrchedd i sicrhau darllenadwyedd y ddogfen hon.
- Rhannwyd y ddogfen derfynol ymysg gweinyddwyr etholiadol a Chadeirydd Grŵp y Gymraeg, sef is-grŵp o'r Bwrdd Rheoli Etholiadol.
Diweddariadau
| Dyddiad | Manylion |
|---|---|
| Chwefror 2026 | Eifion Evans ag Elan Carter - Cyhoeddir Yr Eirfa gyda newidiadau sylweddol yn unol â’r diwygiadau Seneddol yn dod i rym yng Nghymru yn 2026 a diwygiadau i ganllawiau hunaniaeth y Comisiwn Etholiadol. Nid yw union fanylion y newidiadau hyn wedi eu manylu. |
| 30 Mai 2018 | Bronwen Morgan - Cyhoeddir yr eirfa gyda newidiadau sylweddol ers creu’r eirfa’n wreiddiol yn 2007. Nid yw union fanylion y newidiadau hyn wedi eu manylu. |
abandoned poll,
- abandoned community poll, pleidlais (b) gymunedol y rhoddwyd y gorau iddi, (pleidleisiau cymunedol y rhoddwyd y gorau iddynt)
- abandoned election, etholiad (g) y rhoddwyd y gorau iddo (etholiadau y rhoddwyd y gorau iddynt)
- abandoned referendum, refferendwm (g) y rhoddwyd y gorau iddo (refferenda y rhoddwyd y gorau iddynt)
absent vote, pleidlais (pleidleisiau) (b) absennol
absent voters list, rhestr (b) pleidleiswyr absennol, (rhestrau pleidleiswyr absennol)
absent voting, pleidleisio (be) absennol
accept (donation), derbyn (be) (rhodd) gweler hefyd 'receive'
accounting unit, uned (b) gyfrifyddu (unedau cyfrifyddu)
accredited observer, arsylwr (g) (arsylwyr) achrededig
acknowledgement and notice of entry in the register of electors, cydnabod (be) a chadarnhau (be) cofnod ar y gofrestr etholwyr
acknowledgement of application, cydnabod (be) cais
act in contravention, gweithredu’n (be) groes (i)
[Acting] Returning Officer, Swyddog(-ion) (g) Canlyniadau [Gweithredol]
additional assistance for voters, cymorth (g) ychwanegol i bleidleiswyr
address where you are registered to vote, y cyfeiriad (g) lle ‘rydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio
adjournment of nomination proceedings in the case of riot, gohirio (be) gweithrediadau enwebu yn achos terfysg
adjournment of poll in case of riot, gohirio (be) pleidleisio oherwydd terfysg
adjudicate [in disputes], dyfarnu (be) [mewn anghydfodau]
admission to polling station, mynediad (g) i orsaf bleidleisio
after the close of poll, ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau
agent, asiant(-iaid) (g)
aggregation of the votes cast, crynhoi'r (be) pleidleisiau a roddwyd
aid and abet, helpu (be) ac annog (be)
allocation of seats by the d'Hondt method, dyrannu (be) seddi drwy ddull d'Hondt
allot, pennu (be)
allot a polling station, pennu (be) gorsaf bleidleisio
anonymous entry in a register, cofnod(-ion) (g) dienw ar gofrestr
anonymous registration, cofrestriad (g) dienw
[application(s) to] renew registration as an overseas elector, [cais (ceisiadau) (g) i] adnewyddu cofrestriad fel etholwr tramor
application to vote by post, cais (ceisiadau) (g) am bleidlais drwy’r post
application to vote by post as proxy, cais (ceisiadau) (g) i bleidleisio drwy'r post fel dirprwy
application to vote by proxy, cais (ceisiadau) (g) am bleidlais drwy ddirprwy
apply for a postal vote, gwneud (be) cais i bleidleisio drwy’r post
apply for a postal proxy vote, gwneud(be) cais i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy drwy’r post
apply for a proxy vote, gwneud (be) cais i bleidleisio drwy ddirprwy
appoint as proxy, penodi'n (be) ddirprwy
appointment [to an office or post etc], penodiad (g) (-au) [i swyddfa neu swydd ac ati]
armed forces personel, staff (g) y lluoedd arfog
assent to a nomination, cydsynio (be) ag enwebiad
assentor, cydsyniwr (g) (cydsynwyr)
assistance with voting for disabled voters, cymorth (g) gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl
Association of Electoral Administrators Wales Branch, Cangen (b) Cymru Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol
at a particular election, mewn etholiad penodol
at all elections, ym mhob etholiad
attend a polling station, mynd (be) i orsaf bleidleisio
attendance at the count, bod (be) yn bresennol yn y cyfrif
attest an application, ardystio (be) cais
ation, ardystio (be)
attribution rule, rheol(-au) (b) priodoli
audio and tactile voting device, dyfais (b) bleidleisio sain a chyffyrddol
auditor's report, adroddiad(-au) (g) archwiliwr
authorised officer, swyddog(-ion) (g) awdurdodedig
authorised participant, cyfranogwr (g) (cyfranogwyr) awdurdodedig
available for inspection [with feminine and plural nouns], ar gael i'w harchwilio (b)
available for inspection [with singular masculine nouns], ar gael i'w archwilio (g)
ballot box, blwch (blychau) (g) pleidleisio
ballot paper, papur(-au) (g) pleidleisio
ballot paper accounts, cyfrifon ypapurau pleidleisio
ballot paper design, dyluniad (g) y papur pleidleisio
ballot paper envelope, amlen (b) ypapur pleidleisio (amlenni’r papurau pleidleisio)
ballot papers, forms, signs and envelopes, papurau pleidleisio, ffurflenni, arwyddion ac amlenni
[ballot] the ballot, [pleidlais] y bleidlais (b)
bankruptcy restrictions order, gorchymyn (g) cyfyngu methdaliad (gorchmynion cyfyngu methdaliad)
batch, swp (g) (sypiau)
before the close of poll, cyn i’r gorsafoedd pleidleisio gau
before you vote on her behalf, cyn i chi bleidleisio ar ei rhan
before you vote on his behalf, cyn i chi bleidleisio ar ei ran
building society, cymdeithas(-au) (b) adeiladu
birth certificate, tystysgrif(-au) (b) geni
breach of [a section of an Act], mynd yn groes i (be) [adran o Ddeddf]
breach of official duty, tor-ddyletswydd (g) swyddogol
British citizen, dinesydd (dinasyddion) (g) Prydeinig
British Council employee, aelod(-au) (g) o staff y British Council
by-election, is-etholiad(-au) (g)
by virtue of, yn rhinwedd
Cabinet office, Swyddfa’r (b) Cabinet
campaign expenditure, gwariant (g) ar [yr] ymgyrch
candidate, ymgeisydd (g) (ymgeiswyr
candidate at the election, ymgeisydd (g) (ymgeiswyr) yn yr etholiad
candidate spending, gwariant (g) ymgeisydd (gweler hefyd "campaign expenditure")
candidate statement, datganiad (g) yr ymgeisydd
candidates nominated, ymgeiswyr a enwebwyd
candidature, ymgeisyddiaeth (b) (-au)
canvass data match, paru (be) data canfasio
canvasser, canfasiwr (g) (canfaswyr)
canvassing, canfasio (be)
carrying on a business, cynnal (be) busnes
case tribunal, tribiwnlys(-oedd) (g) achos
cast a vote, bwrw (be) pleidlais
casual vacancy, sedd (b) wag (seddau gweigion) achlysurol
casual vacancy election, etholiad (g) sedd wag achlysurol (etholiadau seddau gweigion achlysurol)
cease to be in force, peidio (be) â bod mewn grym
cease to stand nominated, peidio (be) â bod ag enwebiad
certificate as to employment on duty, tystysgrif(-au) (b) cyflogaeth ar ddyletswydd
certificate of an entry in the register of electors, tystysgrif (b) o gofnod ar y gofrestr etholwyr (tystysgrifau o gofnodion ar y gofrestr etholwyr)
certificate of employment, tystysgrif(-au) (b) cyflogaeth
certificate of naturalisation, tystysgrif(-au) (b) dinasyddio
certification, ardystiadau (g)
certify, ardystio (be)
challenge election result, herio (be) canlyniad etholiad
challenge the identity of a voter, herio (be) pwy yw pleidleisiwr / pleidleiswraig
Christian Science practitioner, ymarferydd (ymarferwyr) (g) yn Eglwys Grist Wyddonydd
citizenship, dinasyddiaeth (b)
civil partner, partner(-iaid) (g) sifil
clerk, clerc(-od) (g)
close of poll, diwedd (g) y [cyfnod] pleidleisio
closed proportional list system, system (b) rhestr gyfrannol gaeedig
coalition, clymblaid (clymbleidiau) (b)
coloured ballot paper, papur(-au) (g) pleidleisio lliw
combination of polls, cyfuno (be) etholiadau
combined authority area, ardal (b) awdurdod gyfun (ardaloedd awdurdodau cyfun)
combined poll, etholiad(-au) (g) cyfun
commencement of poll, dechrau’r (g) [cyfnod] pleidleisio
commercial discount, gostyngiad(-au) (g) masnachol
committed supporter, cefnogwr (cefnogwyr) (g) ymroddedig
commonly used names, enwau a ddefnyddir yn gyffredin
Commonwealth citizen, dinesydd (g) y Gymanwlad
community, cymuned(-au) (b)
community council, cyngor (cynghorau) (g) cymuned
community councillor, cynghorydd (cynghorwyr) (g) cymuned
compactor, crynodiadur(-on) (g)
companion, cydymaith (cymdeithion) (g)
compensating error, gwall(-au) (g) cywirol
complete a form, llenwi (be) ffurflen
complete and correct return, cofnod(-ion) (g) cyflawn a chywir
completion of nomination papers, llenwi (be) papurau enwebu
conduct of an election, trefn (b) cynnal etholiad
connected transactions, trafodion cysylltiedig
convergence, cydgyfeirio (be)
consent, cydsyniad(-au) (g)
consent to [something], cydsynio (be) â [rhywbeth]
consent in writing, cydsyniad(-au) (g) ysgrifenedig
consent to nomination, cydsynio (be) ag enwebiad
constable on duty, cwnstabl(-iaid) (g) ar ddyletswydd
constituency, etholaeth(-au) (b)
constituency returning officer, swyddog (g) canlyniadau’r etholaeth (swyddogion canlyniadau’r etholaethau)
contested election, etholiad(-au) (g) a ymleddir
continue to stand nominated, parhau (be) i fod ag enwebiad
controlled expenditure, gwariant (g) a reolir
control sheet, taflen (b) reoli (taflenni rheoli)
controlled transaction, trafodyn (g) a reoleiddir (trafodion a reoleiddir)
convey results of count, trosglwyddo (be) canlyniadau'r cyfrif
corresponding number list, rhestr(-au) (b) rhifau cyfatebol
corrupt practice, arfer (b) lwgr (arferion llwgr)
[the] count, [y] cyfrif
count agent, asiant(-iaid) (g) cyfrif
count centre, canolfan (b) gyfrif (canolfannau cyfrif)
count of ballot papers, cyfrif [berfenw] (g) y papurau pleidleisio
counterfoil, bonyn (bonion) (g)
countermand, dirymu (be)
countermand notice of poll, dirymu (be) hysbysiad etholiad
countermand of poll, dirymu (be) etholiad
countersign an application form, cydlofnodi (be) ffurflen gais
counting of votes, cyfrif (be) y pleidleisiau
counting table, bwrdd (byrddau) (g) cyfrif
county, sir(-oedd) (b)
county borough, bwrdeistref(-i) (b) sirol
county borough council, cyngor (cynghorau) (g) bwrdeistref sirol
county borough councillor, cynghorydd (cynghorwyr) (g) bwrdeistref sirol
county council, cyngor (cynghorau) (g) sir
county councillor, cynghorydd (cynghorwyr) (g) sir
covering envelope, prif amlen(-ni) (b)
credit facility, cyfleuster(-au) (g) credyd
cross-boundary, trawsffiniol (g/b)
cross-boundary constituencies, etholaethau (b) trawsffiniol
crowd funding, cyllido (be) torfol
Crown servant, un (g) o weision y Goron (gweision y Goron)
crypto currency, cryptoarian (g)
date of birth, dyddiad (g) geni
date of poll, =
- date of election, dyddiad (g) yretholiad
- date of referendum, dyddiad (g) y refferendwm
- date of community poll, dyddiad (g) y bleidlais gymunedol
- date of dissolution, dyddiad (g) diddymu
day fixed for the poll, y dyddiad (g) sydd wedi'i bennu ar gyfer y bleidlais
day of public thanksgiving or mourning, dydd (g) o ddiolchgarwch neu alar cyhoeddus
deadline [closing date], dyddiad(-au) (g) cau
death of a candidate, marwolaeth (b) ymgeisydd (marwolaethau ymgeiswyr)
decision as to validity of nomination paper, penderfyniad (g) ynglŷn â dilysrwydd papur enwebu
declarant, datganwr (datganwyr) (g) [Nid "datganydd"]
declaration by election agent as to expenses, datganiad (g) gan asiant etholiad ynglŷn â threuliau
declaration in support, datganiad(-au) (g) i ategu
declaration of expenses, datganiad(-au) (g) treuliau
declaration of identity [declaration of who you are], datganiad(au) (g) ynghylch pwy ydych (chi)
declaration of local connection, datganiad(-au) (g) o gysylltiad lleol
declaration of result, datgan (be) canlyniad
declare an election invalid, datgan (be) bod etholiad yn annilys
deem a ballot paper to be void, barnu (be) bod papur pleidleisio yn ddi-rym
deem [someone] to stand nominated, barnu (be) bod [rhywun] ag enwebiad
deemed appointment, penodiad(-au) tybiedig (g)
defer, gohirio (be)
defined period, cyfnod(-au) (g) penodedig
definite period, cyfnod(-au) (g) penodol
defray election expenses, talu (be) treuliau etholiad
delegated authority, awdurdod (g) dirprwyedig
delegation of powers, dirprwyo (be) pwerau
deliver nomination papers, cyflwyno (be) papurau enwebu
delivery [of polling cards] by hand, dosbarthu (be) [cardiau pleidleisio] â llaw
Democracy and Boundary Commission Cymru, Comisiwn (g) Democratiaeth a Ffiniau Cymru
deposit, ernes(-au) (b)
deputy returning officer, dirprwy swyddog(-ion) (g) canlyniadau
description of emblem, disgrifiad (g) o arwyddlun
designated lead campaigner, prif ymgyrchwr (g) dynodedig
designated official, swyddog(-ion) (g) dynodedig
the designation process, y broses (b) ddynodi
detect personation, canfod (be) cambersonadu
devolution, datganoli (be)
D’hondt formula, fformiwla D’Hondt (g)
digital accessibility, hygyrchedd (g) digidol
digital imprint, argraffnod (g) digidol
direct registration, cofrestru (be) uniongyrchol
disabled voter, pleidleisiwr g (pleidleiswyr) anabl
disallow an application to vote, gwrthod (be) cais am bleidlais
disapply, datgymhwyso (be)
discharge of functions, cyflawni (be) swyddogaethau
discharge of registration duties, cyflawni (be) dyletswyddau cofrestru
disinformation, twyllwybodaeth (b)
disposal of documents, cael (be) gwared ar ddogfennau
disproportional representation, cynrychiolaeth anghyfrannol (b)
disputed claim, hawliad (g) y mae anghydfod yn ei gylch (hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch)
disqualification, anghymwysiad(-au) (g)
disqualified, wedi'i anghymhwyso (g), (wedi'u hanghymhwyso) (b)
disqualify for membership of the House of Commons, anghymhwyso (be)
[rhywun] rhag bod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin
disqualify from voting, anghymwyso (be) [rhywun] rhag pleidleisio
divergence, dargyfeirio (be)
dissolution of Parliament, diddymu’r (be) Senedd; diddymu (be) Senedd y Deyrnas Unedig
distinctive letter, llythyren (b) wahaniaethol (llythrennau gwahaniaethol)
distinguishing feature, nodwedd(-ion) (b) arbennig
document, dogfen(-nau) (b)
donation, rhodd(-ion) (b)
donation return, ffurflen (b) roddion (ffurflenni rhoddion)
donor, rhoddwr (g) (rhoddwyr)
doubtful, amheus (a)
downloadable material, deunydd (g) y gellir ei lawrlwytho
drawer, tynnwr (g) (tynwyr)
dual reporting, adrodd (be) deuol
duly elected, wedi'i iawn ethol (wedi’u hiawn ethol)
duress, gorfodaeth (b)
edited register, cofrestr (b) olygedig (cofrestrau golygedig)
election address, anerchiad(-au) (g) etholiadol
election agent, asiant (g) etholiad (asiantiaid etholiad)
election campaign, ymgyrch(-oedd) (gb) etholiadol
election court, llys(-oedd) (g) etholiadol
election date, dyddiad (g) yretholiad
election expense, treuliau etholiad
election expenses return, ffurflen(-ni) (b) treuliau etholiad
election material, deunydd(-iau] (g) etholiad
election of a member to serve in Parliament for ..., ethol aelod i wasanaethu yn [y] Senedd [y Deyrnas Unedig] dros …, (be)
election petition, deiseb(-au) (b) etholiadol
election process, proses(-au) (b) etholiadol
election result, canlyniad(-au) (g) etholiad
election sub-agent, is-asiant(-iaid) (g) etholiad
election timetable, amserlen(-ni) (b) etholiad
election to fill a casual vacancy, etholiad (g) i lenwi sedd wag achlysurol
Elections and Elected Bodies (Wales) Act 2024, Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024
Elections Claims Unit, Uned (b) Hawliadau Etholiadau
elections office, swyddfa (b) etholiadau (swyddfeydd etholiadau)
elective office, swydd(-i) (b) etholedig
elector (female) etholwraig (b) (etholwragedd)
elector (in general and male), etholwr g (etholwyr)
elector number, rhif (g) etholwr (rhifau etholwyr)
electoral administrator, gweinyddwr (gweinyddwyr) (g) etholiadau
Electoral Commission (The Electoral Commission), Comisiwn (g) Etholiadol (Y Comisiwn Etholiadol)
electoral district, ardal(-oedd) (b) etholiadol
electoral division, adran(-nau) (b) etholiadol
electoral fraud, twyll (g) etholiadol
Electoral Management Board, Bwrdd (g) Rheoli Etholiadol
electoral registration form, ffurflen (b) gofrestru etholiadol (ffurflenni cofrestru etholiadol)
Electoral Registration Officer, Swyddog(-ion) (g) Cofrestru Etholiadol
electronic delivery, danfoniad (g) electronig
electronic delivery statement, datganiad (g) o ddanfoniad electronig
eligible to register, cymwys i gofrestru
eligible to vote by proxy, cymwys i bleidleisio drwy ddirprwy
emblem, arwyddlun(-iau) (g)
emergency evacuation procedures, y gweithdrefnau ar gyfer gadael [yr] adeilad mewn argyfwng
emergency proxy vote, pleidlais(-iau) (b) drwy ddirprwy mewn argyfwng
enactment, deddfiad(-au) (g)
enter a name in the register, cofnodi (be) enw ar y gofrestr
[to be] entitled to vote by proxy, [bod] â hawl i bleidleisio drwy ddirprwy
envelope, amlen(-ni) (b), main envelope, prif amlen
envelope marked 'A', amlen (b) ac arni ‘A’
envelope returned as undelivered, amlen (b) a ddychwelwyd heb ei danfon (amlenni a ddychwelwyd heb eu danfon)
ERO Portal (EROP), Porth (g) y Swyddogion Cofrestru Etholiadol
EU citizen, dinesydd (g) yr Undeb Ewropeaidd
European Union, Yr Undeb (g) Ewropeaidd
exercise the right to vote, arfer (be) yr hawl i bleidleisio
exit poll, arolwg(arlygon) (g) barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio
expenses, treuliau
explanatory note, nodyn (g) (nodiadau) esboniadol
extend voting rights, ehangu (be) hawliau pleidleisio
false information, gwybodaeth (b) ffug
false statement, datganiad(-iau) (g) ffug
fictitious person, person(-au) (g) dychmygol
[to] field candidates, (i) cyflwyno (be) ymgeiswyr
final proceedings, trefn (b) ar y diwedd
fine, dirwy(-on) (b)
First Past the Post System, System (b) y Cyntaf i'r Felin
focused constituency campaigning, ymgyrchu (be) â ffocws ar etholaeth(au)
for election purposes, at ddibenion etholiadol
force violence or restraint, grym (g), trais (g) neu lestair (g)
forfeiture of deposit, colli / fforfedu (be) ernes
form of certificate, ffurf (b) y dystysgrif
fraudulent, twyllodrus (a)
franchise, etholfraint (etholfreintiau) (b)
free exercise of the franchise of an elector, rhyddid (g) i arfer etholfraint etholwr
fresh ballot paper, papur(-au) (g) pleidleisio newydd
friendly society, cymdeithas (b) gyfeillgar (cymdeithasau cyfeillgar)
full register, cofrestr (b) lawn (cofrestrau llawn)
general campaign, ymgyrch(-oedd) (g) cyffredinol
general election, etholiad(-au) (g) cyffredinol
give notice of [a Senedd election], cyhoeddi (be) [etholiad i’r Senedd]
go in person to a polling station, mynd (be) yn bersonol i orsaf bleidleisio
grant a postal vote, rhoi (be) pleidlais (b) bost
grant a waiver, caniatáu (be) hepgoriad
Great Britain registered party, plaid (b) gofrestredig (pleidiau cofrestredig) ym Mhrydain Fawr
guidance for voters, canllawiau (g) i bleidleiswyr
guidance manual, llawlyfr(-au) (g) canllawiau
harm, niwed (g)
hereby, drwy hyn
hold an election, cynnal (be) etholiad
holder of elective office, deiliaid (g) swydd etholedig (deiliaid swyddi etholedig)
home address form, ffurflen (b) cyfeiriad cartref
homeless person, person (g) diartref (pobl digartref)
hours of poll, oriau pleidleisio
House of Commons Disqualification Act, Deddf (b) Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin
household enquiry form, ffurflen (-ni) (b) ymholi aelwyd
hustings, hustyng (-au)
ID =
- ID [defnyddir ‘dogfen (b) adnabod’ mewn cyd-destunau ffurfiol]
- photo ID, ID ffotograffig [defnyddir ‘dogfen (b) adnabod â llun’ mewn cyd-destunau ffurfiol megis dogfennau deddfwriaethol neu ganllawiau]
- voter ID, ID pleidleisiwr [defnyddir ‘dogfen (b) adnabod pleidleisiwr’ mewn cyd-destunau ffurfiol megis dogfennau deddfwriaethol neu ganllawiau]
- voter photo ID, ID ffotograffig pleidleisiwr [defnyddir ‘dogfen (b) adnabod â llun pleidleisiwr’ mewn cyd-destunau ffurfiol megis dogfennau deddfwriaethol neu ganllawiau]
Identifier, dynodwr(-wyr) (g)
imprint, argraffnod(-au) (g)
I solemnly and sincerely declare …, Yr wyf yn datgan yn ddifrifol ac yn ddiffuant …
if you are entitled to vote, os oes gennych hawl i bleidleisio
illegal practices, arferion anghyfreithlon
impermissible donation, rhodd(-ion) (b) nas caniateir
impermissible transaction, trafodyn (g) nas caniateir (trafodion nas caniateir)
in contravention of (something), yn groes i (rywbeth)
in my presence, yn fy mhresenoldeb i, yn fy ngŵydd i
in pursuance of, yn unol â
in respect of, mewn perthynas â
inadvertently, drwy amryfusedd
individual candidate, ymgeisydd (g) unigol
inapplicable, anghymwys (a)
include a name in the register of electors, cynnwys (be) enw ar y gofrestr etholwyr
incur expenses, ysgwyddo (be) treuliau
indefinite period, cyfnod(-au) (g) amhenodol
identity mark, marc(-iau) (g) adnabod
independent candidate, ymgeisydd (ymgeiswyr) (g) annibynnol
individual electoral registration, cofrestru etholiadol unigol
individual nomination paper, papur (g) enwebu unigolyn (papurau enwebu unigolion
induce, cymell (be)
inspect a nomination paper, archwilio (be) papur enwebu
inspection of records, archwilio (be) cofnodion; archwiliad(-au) (g) cofnodion
instructions for voting by post, cyfarwyddiadau ar gyfer pleidleisio drwy’r post
interim order, gorchymyn (g) interim (gorchmynion interim)
invalid, annilys (a)
issue a ballot paper, rhoi (be) papur pleidleisio
joint candidate, ymgeisydd (g) ar y cyd (ymgeiswyr ar y cyd)
joint campaigning, ymgyrchu (be) ar y cyd
judicial office, swydd (b) farnwrol (swyddi barnwrol)
knowingly and wilfully, yn ymwybodol ac yn fwriadol
lapse of registration, (g) cofrestriad wedi dod i ben
large print ballot paper, papur (g) pleidleisio print bras
large print reference ballot paper, copi (g) cyfeirio print bras o’r papur pleidleisio
large print version, fersiwn (g) print bras (fersiynau print bras)
leave to pay, caniatáu (be); caniatâd (g) i dalu
legal incapacity, anghymhwyster (g) cyfreithiol
legal tender, arian (g) cyfreithlon
limited liability partnership, partneriaeth(-au) (b) atebolrwydd cyfyngedig
limitation of election expenses, cyfyngu (be) ar dreuliau etholiadol
limited powers, pwerau cyfyngedig
list of proxies, rhestr(-au) (b) dirprwyon
local authority, awdurdod(-au) (g) lleol
local campaign, ymgyrch(-oedd) (g) lleol
local counting area, ardal (b) gyfrif leol, (ardaloedd cyfrif lleol)
local delegation arrangements, trefniadau dirprwyo lleol
local party fighting funds, cronfeydd ymladd y pleidiau lleol
Local Police Single Point of Contact, Pwynt (g) Cyswllt Unigol yr Heddlu Leol
local government area, ardal(-oedd) (b) llywodraeth leol
local government election, etholiad(-au) g) llywodraeth leol
local government electoral area, ardal(-oedd) (b) etholiadol llywodraeth leol
Local Returning Officer, Swyddog(-ion) (g) Canlyniadau Lleol
maintain the secrecy of the ballot, cynnal (be) cyfrinachedd y bleidlais
majority of votes, mwyafrif (g) [y] pleidleisiau
make a statement false in material particular, gwneud (be) datganiad sy’n anwir mewn unrhyw fanylyn perthnasol
manifesto, maniffesto(-s) (g)
manner of voting, dull(-au) (g) pleidleisio
mark, marc(-iau) (g)
matching up postal voting statements, paru (be) datganiadau pleidleisio drwy’r post
material change in circumstances, newid(-iadau) (g) sylweddol mewn amgylchiadau
maximum fine, y dirwy(-on) (g) mwyaf posibl
maximum recoverable amount, y cyfanswm (g) mwyaf y gellir ei adennill (y cyfansymiau mwyaf y gellir eu hadennill)
mayoral ballot paper, papur(-au) (g) pleidleisio maerol
mayoral election, etholiad(-au) (g) maerol
mayoral referendum, refferendwm (refferenda) (g) maerol
members’ association, cymdeithas(-au) (b) aelodau
Member of the Senedd, Aelod (g) o’r Senedd
mental health patient, claf (g) iechyd meddwl (cleifion iechyd meddwl)
merchant seaman, masnachlongwr (masnachlongwyr) (g)
misinformation, camwybodaeth (b)
[mis and disinformation], [camwybodaeth (b) a thwyllwybodaeth (b)]
multi-member constituency, etholaeth (b) aml-aelod
name of proxy, enw’r (g) dirprwy (enwau’r dirprwyon)
National Assembly for Wales (Disqualifying Offices for Membership) Order, Gorchymyn (g) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymwyso Swyddi rhag Aelodaeth)
necessary expenses, treuliau angenrheidiol
nominate, enwebu (be)
nominating officer, swyddog(-ion) (g) enwebu
nomination, enwebiad(-au) (g)
nomination of candidates, enwebu (be) ymgeiswyr
nomination paper, papur(-au) (g) enwebu
non-commercial discount, gostyngiad(-au) (g) anfasnachol
non-party campaigner, ymgyrchydd (g) di-blaid (ymgyrchwyr di-blaid)
non-selective hustings, hustyngau annewisol
not later than the close of the poll, erbyn diwedd y (cyfnod) pleidleisio fan hwyraf
notice, hysbysiad(-au) (g)
notice in writing, hysbysiad(-au) (g) ysgrifenedig
notice of appointment as proxy, hysbysiad(-au) (g) penodi dirprwy
notice of appointment of election agent, hysbysiad(-au) (g) penodi asiant etholiad (g)
notice of disallowance of an application to vote by proxy, hysbysiad(-au) (g) o wrthod cais i bleidleisio drwy ddirprwy
notice of election, hysbysiad (g) o etholiad
notice of intention to remove a name from the register of electors, hysbysiad (g) o fwriad i dynnu enw o'r gofrestr etholwyr
notice of lapse of registration, hysbysiad (g) bod cofrestriad wedi dod i ben
notice of poll, =
- election, hysbysiad o etholiad
- referendum, hysbysiad o refferendwm
- community poll, hysbysiad o bleidlais gymunedol
notice of withdrawal of candidature, hysbysiad (g) o dynnu ymgeisyddiaeth yn ôl
notice requiring evidence as to age and / or nationality, hysbysiad (g) yn gofyn am dystiolaeth o oedran a chenedligrwydd / neu genedligrwydd
notice to proxy of cancellation or suspension of appointment, hysbysiad (g) i ddirprwy o ganslo neu atal dros dro ei benodiad
notification of requirement of secrecy, hysbysiad (g) o'r angen am gyfrinachedd
notional expenditure, gwariant (g) tybiannol
object to the nomination of a candidate, gwrthwynebu (be) enwebiad ymgeisydd
object to the validity of a nomination paper, gwrthwynebu (be) dilysrwydd papur enwebu
offence, trosedd(-au) (g/b)
official duty, dyletswydd(-au) (b) swyddogol
official mark, marc(-iau) (g) swyddogol
omit a name from the register of electors, hepgor (be) enw o'r gofrestr etholwyr
online absent vote application, ceisiadau ar-lein am bleidlais (b) absennol
on production and surrender of this certificate, ar yr amod ei fod/bod yn dangos ac yn ildio’r dystysgrif hon
opening of the poll, agor (be) y bleidlais
Open Register, y Gofrestr (b) Agored
ordinary election, etholiad cyffredin
overseas elector, etholwr tramor
overseas visit, ymweliad(-au) tramor
parliamentary constituency, etholaeth(-au) (b) seneddol
parliamentary election, etholiad(-au) (g) seneddol
parliamentary elections rules, rheolau etholiadau seneddol
parliamentary polling district, dosbarth(-iadau) (g) pleidleisio seneddol
participation, cyfranogiad (g) / cyfranogi (be)
particular circumstances of employment, amgylchiadau penodol o ran cyflogaeth
particulars of payments, manylion taliadau
party conference, cynhadledd (b) plaid (cynadleddau pleidiau)
party election broadcast, darllediad etholiadol gan blaid (darllediadau etholiadol [y] pleidiau)
party list, rhestr (b) plaid (rhestrau pleidiau)
party list candidate, ymgeisydd (g) ar restr plaid (ymgeiswyr ar restr plaid)
party member, aelod(-au) (g) o blaid
party nomination paper, papur (g) enwebiad plaid
party-political broadcast, darllediad(-au) (g) gwleidyddol
peer, arglwydd(-i) (g), arglwyddes(-au) (b)
penal institution, sefydliad(-au) (g) cosbi
perforate, mandyllu (be)
permissible donation, rhodd(-ion) (b) a ganiateir
permissiblity check, gwirio (g) caniatâd
permitted participant, cyfranogwr (cyfranogwyr) (g) a ganiateir
personal expenses, treuliau personol
personal identifier, dynodydd(-ion) personol
personation, cambersonadu (be)
petty expenses, mân dreuliau
physical incapacity, analluogrwydd corfforol (g)
pledge card, cerdyn (cardiau) (g) adduned
Police Force Elected-official Adviser, Ymgynghorydd (g) Swyddogol Etholedig yr Heddlu
Police involvement, cyfranogiad (g) yr heddlu
political activity, gweithgaredd(-au) gwleidyddol (g)
Political Parties, Elections and Referendums Act 2000, Deddf (b) Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
Political Parties Panel, Panel (g) Pleidiau Gwleidyddol
politically restricted post, swydd(-i) (b) dan gyfyngiadau gwleidyddol
poll =
- election, etholiad(-au) (g) etholiadau
- referendum, refferendwm (refferenda) (g)
- survey, arolwg (arolygon) (g)
- vote, pleidlais (pleidleisiau) (b)
poll at a local government election, pleidlais (b) mewn etholiad llywodraeth leol, (pleidleisiau mewn etholiad llywodraeth leol)
poll at a Senedd election, pleidlais (b) mewn etholiad i’r Senedd (pleidleisiau mewn etholiad i’r Senedd)
poll card, cerdyn (cardiau) (g) pleidleisio
poll clerk, clerc(-od) (g) pleidleisio
polling agent, asiant(-iaid) (g) pleidleisio
polling booth, bwth (bythau) (g) pleidleisio
polling booth notice, hysbysiad (g) yn y bwth pleidleisio (hysbysiadau yn y bwth (bythau) pleidleisio)
polling day, y diwrnod (g) pleidleisio
polling district, dosbarth(-iadau) (g) etholiadol
polling hours, oriau pleidleisio
polling place, man(-nau) (g) pleidleisio
polling station, gorsaf (b) bleidleisio (gorsafoedd pleidleisio)
polling station accessibility, hygyrchedd (g) gorsaf (gorsafoedd) pleidleisio
polling station layout, cynllun (g) gorsaf pleidleisio
polling station supplies and equipment, cyflenwadau a chyfarpar ar gyfer gorsafoedd pleidleisio
post a notice, gosod hysbysiad (be)
postal address, cyfeiriad(-au) (g) post
postal ballot box, blwch (blychau) (g) pleidleisio drwy'r post
postal ballot paper, papur(-au) (g) pleidleisio drwy'r post
postal proxy poll card, cerdyn (cardiau) (g) pleidleisio ar gyfer dirprwy (-on) sy’n pleidleisio drwy’r post
postal proxy vote, pleidlais (b) ddirprwy drwy’r post (pleidleisiau dirprwy drwy’r post)
postal proxy voter, dirprwy(-on) (g) sy'n pleidleisio drwy'r post
[the] postal vote, [y] pleidlais (b) bost (pleidleisiau post)
postal vote opening, achlysur (g) agor pleidleisiau post
postal voter, pleidleisiwr (pleidleiswyr) (g) post
postal voting, pleidleisio (be) drwy'r post
postal voting statement, datganiad(-au) (g) pleidleisio drwy'r post
post poll reporting, adrodd (be) ar ôl y bleidlais
pre-election publicity guidance, canllawiau (b) cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad
pre poll reporting, adrodd (be) cyn y bleidlais
presiding officer, swyddog(-ion) (g) llywyddu
printed material, deunydd(-iau) (g) argraffedig
procedure on close of poll, y drefn (b) pan fydd y pleidleisio wedi dod i ben
procure the election of a candidate, sicrhau (be) y caiff ymgeisydd ei ethol
proportional representation, cynrychiolaeth (b) gyfrannol
proposer, cynigydd (cynigwyr) (g)
prorogue, addoedi
prospective candidate, darpar ymgeisydd (darpar ymgeiswyr) (g)
proxy, dirprwy(-on) (g)
proxy appointment, penodi (g) dirprwy (penodi dirprwyon
proxy ballot paper, papur(-au) (g) pleidleisio drwy ddirprwy
proxy poll card, cerdyn (cardiau) (g) pleidleisio ar gyfer dirprwy (-on)
proxy vote, pleidlais (pleidleisiau) (b) drwy ddirprwy
psephology, etholiadeg (b)
public meeting, cyfarfod(-ydd) cyhoeddus (g)
publication of notice of election, cyhoeddi (be) hysbysiad o etholiad
[the] public test, prawf (g) [y] cyhoedd
purdah, purdah
purpose test, prawf (profion) (g) diben
qualified, cymwys (a)
qualified as an overseas elector, yn gymwys (a) fel etholwr tramor
qualified to be registered, yn gymwys (a) i'w (g) gofrestru / i'w (b) chofrestru (yn gymwys i'w cofrestru)
qualifying address, cyfeiriad(-au) (g) cymhwyso
qualifying cost, cost (b) sy’n gymwys (costau sy’n gymwys)
qualifying foreign citizen, dinesydd (g) tramor cymwys
recall petition, deiseb(-au) (b) adalw
recall petition campaigner, ymgyrchydd (ymgyrchwyr) (g) deiseb adalw
receipt of ballot papers, derbyn (be) papurau pleidleisio
receive (donation), cael (be) (rhodd) (gweler hefyd ‘accept)
recordable gift, anrheg (b) y dylid ei chofnodi (anrhegion y dylid eu cofnodi)
record a vote, cofnodi (be) pleidlais
recount, ailgyfrif be / ailgyfrifiad(-au) (g)
Referendum campaigner, ymgyrchydd (ymgyrchwyr) (g) refferendwm
regional Senedd Member, Aelod(-au) (g) rhanbarthol o’r Senedd
register (as an elector), cofrestru (be) (fel etholwr)
register as an overseas elector, cofrestru (be) fel etholwr tramor
register of electors, cofrestr(-au) (b) etholwyr
register of political parties, cofrestr (-au) (b) pleidiau gwleidyddol
register of local government electors, cofrestr(-au) (b) etholwyr llywodraeth leol
register of recordable gifts, cofrestr(-au) o anrhegion y dylid eu cofnodi
registered as a blind person, wedi'i (g) gofrestru'n ddall, wedi'i (b) chofrestru'n ddall (wedi'u cofrestru'n ddall)
registered elector, etholwr (etholwyr) (g) cofrestredig
registered emblem, arwyddlun(-iau) (g) cofrestredig
registered nominating officer, swyddog(-ion) (g) enwebu cofrestredig
registered non-party campaigner, ymgyrchydd (g) di-blaid cofrestredig, ymgyrchwraig (b) ddi-blaid gofrestredig
registered party, plaid gofrestredig (pleidiau cofrestredig) (b)
registered person, person cofrestredig (g)
registering, cofrestru (be)
registration address, cyfeiriad(-au) (g) cofrestru
registration appeal, apêl (b) gofrestru (apeliadau cofrestru)
registration expenses, treuliau cofrestru
registration of a political party, cofrestru (be) plaid wleidyddol (cofrestru pleidiau gwleidyddol)
Register of Members' Financial Interests (RMFI), Cofrestr (b) Buddion Ariannol Aelodau
registration threshold, trothwy (g) cofrestru
regulated donee, derbynnydd (derbynwyr) (g) a reoleiddir
regulated individual, unigolyn (unigolion) (g) a reoleiddir
regulated organisation, sefydliad a reoleiddir
regulated period, cyfnod a reoleiddir
regulated transaction, trafodyn (trafodion) (g) a reoleiddir
regulatory service, gwasanaeth(-au) (g) rheoleiddio
'rejected', 'gwrthodwyd'
relevant area, ardal (b) berthnasol
remand prisoner, carcharor(-ion) (g) ar remand
remuneration, cydnabyddiaeth(-au) (b)
render services, darparu (be) gwasanaethau
renew annually, adnewyddu(be)'n flynyddol
Representation of the People Act, Deddf (b) Cynrychiolaeth y Bobl
required by law, yn unol â gofynion y gyfraith, a fynnir gan y gyfraith
requirement of secrecy, y gofynion o ran cyfrinachedd
resident (adjectival) in the UK, yn preswylio yn y DU
resident (adjectival) overseas, yn preswylio dramor
responsible person, person(-au) cyfrifol
return (= a form), ffurflen
return a member, ethol (be) aelod
return of election expenses, cofnod(-ion) (g) o dreuliau etholiad
Returning Officer, Swyddog(-ion) (g) Canlyniadau
right to attend nomination, hawl (b) i fod yn bresennol mewn enwebiad
rolling registration, cofrestru (be) parhaus
schedule [of an Act], atodlen(-ni) [o Ddeddf] (b)
schedule of reporting, amserlen(-ni) (b) ar gyfer adrodd
seconder, eilydd(-ion) (g)
secret ballot, pleidlais (b) gyfrinachol (pleidleisiau cyfrinachol)
Secret Ballot Act, 1872, Deddf (b) Pleidlais Gyfrinachol, 1872
selective hustings, hustyngau dewisol
Senedd and Elections (Wales) Act 2020, Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020
Senedd Cymru Election, Etholiad (g) Senedd Cymru
Senedd Cymru (Members and Elections) Wales Act 2024, Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024
Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025
serve as a Member for …, gwasanaethu (be) fel Aelod dros …
service address, cyfeiriad(-au) (g) cyflwyno dogfennau
service declaration, datganiad(-au) (g) gwasanaeth
service details, manylion gwasanaeth
service number, rhif(-au) (g) gwasanaeth
service voter, pleidleisiwr (pleidleiswyr) (g) yn y lluoedd arfog
single point of contact, pwynt (g) cyswllt unigol
single transferable vote, pleidlais (b) sengl drosglwyddadwy
situation of polling station, lleoliad (g) yr orsaf bleidleisio (lleoliadau’r gorsafoedd pleidleisio)
sort ballot papers, didoli (be) papurau pleidleisio
spending limit terfyn(au) (g) gwariant
spending return, ffurflen(-ni) (b) gwariant
splitting spending, gwahanu (be) gwariant
spoil a ballot paper, difetha (be) papur pleidleisio
spoil a postal ballot paper, difetha (be) papur pleidleisio drwy'r post
spoilt ballot paper, papur(-au) (g) pleidleisio a ddifethwyd, (papurau pleidleisio a ddifethwyd)
sponsor, noddwr (noddwyr) g
sponsorship, nawdd (g)
spouse, priod (g)
stakeholder, rhanddeiliad (g)
stamping instruments, offer stampio
stand nominated, bod (be) ag enwebiad
statement detailing the results of the verification process, datganiad (g) ynglŷn â chanlyniad y broses ddilysu
statement of accounts, datganiad(-au) (g) cyfrifon
statement of all disputed claims, datganiad (g) o’r holl hawliadau sy’n destun anghydfod
statement of all election expenses incurred by or on behalf of the candidate, datganiad(-au) (g) ynghylch yr holl gostau yr hawliwyd treuliau ar eu cyfer gan yr ymgeisydd neu ar ei ran
statement of all payments made, datganiad(-au) (g) ynghylch yr holl daliadau a wnaed
statement of all unpaid claims, datganiad(-au) (g) ynghylch yr holl hawliadau nas talwyd
statement of party membership, datganiad(-au) (g) o aelodaeth plaid
statement of persons nominated, datganiad(-au) (g) ynghylch y personau a enwebwyd
statutory declaration, datganiad(-au) statudol (g)
statutory provision, darpariaeth(-au) statudol (b)
sub-agent, is-asiant(-iaid) (g)
subject to a legal incapacity to vote, wedi'i anghymhwyso (g), wedi'i hanghymhwyso (b) (wedi'u hanghymhwyso rhag pleidleisio yn ôl y gyfraith)
subscribe a nomination paper, llofnodi (be) papur enwebu
summary conviction, collfarn (b) ddiannod (collfarnau diannod)
summary sheet, dalen (b) grynhoi (dalennau crynhoi)
summons, gwŷs (gwysion) (b)
table supervisor, goruchwyliwr (g) bwrdd (goruchwyliwr byrddau, goruchwylwyr byrddau)
tactile voting device, dyfais (b) bleidleisio gyffyrddol (dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol)
tamper with nomination papers, ymyrryd (be) â phapurau enwebu
targeted spending gwariant (g) a dargedir
teller, rhifwr (g) (rhifwyr)
tendered ballot paper, papur(-au) (g) pleidleisio a gyflwynwyd
tendered vote, pleidlais (pleidleisiau) (b) a gyflwynwyd
tendered votes list, rhestr(-au) (b) o’r pleidleisio a gyflwynwyd
the undermentioned person, y person a rybwyllir isod
to the best of my knowledge and belief, hyd eithaf fy ngwybodaeth a'm cred
tolerance level, lefel(-au) (b) goddefiad
transmission and declaration of results, trosglwyddo (be) a chyhoeddi (be) canlyniadau
transport, cludiant (g)
treating, tretio (be)
turnout =
- y nifer (g) a bleidleisiodd [sef faint o bobl a bleidleisiodd]
- y ganran (b) a bleidleisiodd [sef y ganran o’r bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio a bleidleisiodd]
UK resident, preswylydd (preswylwyr) (g) yn y Deyrnas Unedig
uncontested election =
- etholiad(-au) heb ymgeisydd – etholiad(-au) (g) diymgeisydd
- etholiad(-au) lle nad oes rhaid cynnal pleidlais – etholiad nas ymleddir
uncontested seat,
- sedd heb ymgeisydd – sedd (b) ddiymgeisydd (seddau diymgeisydd)
- sedd lle nad oes etholiad ond y mae ymgeisydd – sedd (b) nas ymleddir
undue influence, dylanwad(-au) (g) gormodol
unincorporated association, cymdeithas(-au) (b) anghorfforedig
unique identifying mark, marc(-iau) (g) adnabod unigryw
United Kingdom [The], [Y] Deyrnas (b) Unedig
unknown donor, rhoddwr (rhoddwyr) (g) anhysbys
unpaid claim, hawliad (g) heb ei dalu (hawliadau heb eu talu)
unsolicited, digymell (a)
unsolicited material to electors, deunydd(-iau) (g) digymell i etholwyr
unused ballot paper, papur (g) pleidleisio heb ei ddefnyddio (papurau pleidleisio heb eu defnyddio)
used ballot paper, papur (g) pleidleisio wedi'i ddefnyddio (papurau pleidleisio wedi'u defnyddio)
vacancy, sedd (b) wag (seddau gweigion)
valid, dilys
validate, dilysu (be)
validity, dilysrwydd (g)
verification, dilysu (be)
verification and count, dilysu (be) a chyfrif (be)
verification and count assistant, cynorthwyydd (cynorthwywyr) (g) dilysu a chyfrif
verification and count centre, canolfan(-nau) (b) dilysu a chyfrif
verification of ballot paper accounts, dilysu (be) cyfrifon y papurau pleidleisio
vest, breinio (be)
void, di-rym
void for uncertainty (a vote), di-rym oherwydd ansicrwydd [NEU "[pleidlais] ddi-rym oherwydd ansicrwydd" – sylwer ar y treiglad]
volunteer expenses, treuliau gwirfoddolwr (treuliau gwirfoddolwyr)
vote as proxy, pleidleisio (be) fel dirprwy
vote as proxy by post, pleidleisio (be) fel dirprwy drwy'r post
vote at an election, pleidleisio (be) mewn etholiad
vote by post, pleidleisio (be) drwy'r post
vote by proxy, pleidleisio (be) drwy ddirprwy
vote for [a candidate], pleidleisio (be) dros [ymgeisydd]
vote in person, pleidleisio (be) yn bersonol
vote unaided, pleidleisio (be) heb gymorth
voter, pleidleisiwr (pleidleiswyr) (g)
Voter Authority Certificate, Tystysgrif (b) Awdurdod Pleidleisiwr
vote.Wales, bwrwpleidlais.Cymru (b)
voting age, oedran (g) pleidleisio
waiver, hepgoriad(-au) (g)
waiver certificate, tystysgrif(-au) (b) hepgor
Wales Office, Swyddfa (b) Cymru
want of official mark, diffyg (g) marc swyddogol
Welcome to Your Vote Week, Wythnos (b) Croeso i Dy Bleidlais
Welsh Elections Financial Assistance Scheme, Cynllun (g) Cymorth Ariannol Etholiadau Cymru
Welsh Elections Financial Assistance Scheme (Disabled Candidates) Regulations 2025, Rheoliadau Cynllun (g) Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025
Welsh Elections Information Platform, Platfform (g) Gwybodaeth Etholiadau Cymru
Welsh Elections Information Platform Regulations 2025, Rheoliadau’r (g) Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025
Welsh Government, Llywodraeth Cymru (b)
white paper, papur (-au) (g) gwyn
withdrawal notices, hysbysiad (g) tynnu enw yn ôl (hysbysiadau tynnu enwau yn ôl)
withdrawal of candidate tynnu (be) enw ymgeisydd yn ôl (tynnu enwau ymgeiswyr yn ôl)
without due authority, heb awdurdod dyladwy
working together (referendums), cydweithio (refferenda)
writ, gwrit(-iau) (g)
16 and 17 year olds, unigolion 16 ac 17 mlwydd (b) oed
Dyma gronfa o dermau etholiadol a luniwyd ar ran Grŵp y Gymraeg sy'n Is-grŵp o'r Bwrdd Rheoli Etholiadol. Bydd yr Eirfa'n cael ei ddiweddaru wrth i dermau newydd ddod i'r amlwg ac wrth i arferion pleidleisio newid yng Nghymru.