Canllawiau i gyflenwyr: Polisi Dim PO Dim Tâl
No PO no pay
Rydym yn dychwelyd anfonebau heb eu talu os nad ydyn nhw'n dyfynnu rhif archeb brynu dilys.
Polisi Dim PO Dim Tâl
Pryd bynnag y byddwch yn cyflwyno anfoneb i'w thalu gennym ni, rhaid iddi ddyfynnu rhif archeb brynu (PO) dilys.
Os ydym yn derbyn anfoneb nad yw'n dyfynnu rhif PO dilys, byddwn yn ei hanfon yn ôl atoch heb ei thalu.
Os anfonwn anfoneb yn ôl atoch
Bydd angen i chi gysylltu â'r person a ofynnodd am y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith. Byddant yn darparu rhif PO dilys.
Yna bydd angen i chi ddyfynnu'r rhif PO hwn ar eich anfoneb a'ih ail-anfon atom.
Ni ddylech dderbyn unrhyw archeb gennym os nad yw'n darparu rhif archeb. Os na fyddwch yn derbyn a darparu rhif PO, bydd eich taliad yn cael ei oedi.
Mae ein holl rifau PO yn bedwar digid o hyd, er enghraifft: PO/1234.
Cyflwyno anfonebau
Dylech gyflwyno'ch anfonebau i'n tîm Cyfrifon Taladwy.
Y dull a ffefrir gennym ar gyfer derbyn anfonebau yw trwy e-bost: [email protected]
Os ydych chi'n cyflwyno anfoneb bapur, dylech ei hanfon at:
Accounts
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
Llundain
EC1Y 8YZ
Buddion y polisi Dim PO Dim Tâl
Mae'r polisi Dim PO Dim Tâl yn cynnig buddion sylweddol i gyflenwyr ac i ninnau yn ogystal.
Gan fod yr holl anfonebau yn cael eu hanfon i leoliad canolog, mae un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau (tîm Cyfrifon Taladwy y Comisiwn Etholiadol).
Bydd llai o oedi wrth dalu, gan na fydd rhaid i'n timau godi archebion prynu ôl-weithredol.