Sut rydym yn caffael nwyddau a gwasanaethau
Ein proses gaffael
Mae gwerth contractau yn pennu a oes angen i ni wneud y canlynol:
- gofyn i gyflenwyr am ddyfynbrisiau ysgrifenedig
- cynnal ymarfer tendro cystadleuol llawn
- dilyn proses gaffael yn unol â chyfarwyddyd caffael yr Undeb Ewropeaidd
Byddwn yn gwneud y broses gaffael rydym yn ei dilyn yn glir pan fyddwn yn hysbysebu'r cytundeb.
Os oes llawer o ddiddordeb mewn cytundeb o du cyflenwyr, byddwn yn cynnal proses gyn-gymhwyso.
Mae peth o'n gwaith yn arbenigol ac yn heriol, ac mae'n digwydd ar fyr rybudd. Yn yr amgylchiadau hyn, rydym yn dod o hyd i gyflenwyr addas o'n cytundebau fframwaith presennol.
Sut rydym yn hysbysebu cytundebau
Rydym yn hysbysebu ein tendrau byw ac yn eu hychwanegu at ein Chwilotydd Contractau.
Sut rydym yn dewis cyflenwyr
Rydym yn dewis cyflenwyr yn seiliedig ar werth am arian.
Wrth benderfynu ar werth am arian, rydym hefyd yn ystyried:
- ansawdd
- dibynadwyedd
- profiad
- darparu'n brydlon
- pris
Yr hyn y mae angen i gyflenwyr ei ddangos i ni
Wrth gyflwyno tendr, mae'n rhaid i gyflenwyr posib arddangos i ni eu gallu ariannol, masnachol, a thechnegol i fodloni gofynion y cytundeb yn llawn.
Byddwn hefyd yn ystyried perfformiad blaenorol y tendrwyr gyda chontractau tebyg, gyda ni a sefydliadau eraill. Gallwn ofyn am eirdaon gan gwsmeriaid blaenorol a/neu bresennol, bancwyr, a chwmnïau gwybodaeth fusnes. Efallai y byddwn hefyd yn trefnu ymweliad â'r safle.
Hefyd, byddwn yn chwilio am ymrwymiad clir i'r canlynol:
- cyfleoedd cydraddoldeb o ran cyflogaeth
- yr amgylchedd
- systemau gweithio diogel