ATODIAD 1A Nodyn i Gomisiynwyr Fframwaith rheoleiddio trydydd partïon - Goblygiadau llywodraethu i Gomisiynwyr
Risg o roi'r gorau i ddal Swydd fel Comisiynydd, a Datgan buddiant ac achos o wrthdaro buddiannau
Risg o roi'r gorau i ddal Swydd fel Comisiynydd
1. O dan y fframwaith rheoleiddio trydydd partïon a gyflwynwyd gan Ddeddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau a Gweinyddu Undebau Llafur 2014 (y Ddeddf Tryloywder):
- Pan fydd sefydliad trydydd parti, y mae'n ofynnol iddo gofrestru â'r Comisiwn, yn rhoi ei ffurflen ariannol i'r Comisiwn, rhaid i'r ffurflen honno gynnwys datganiad o ‘roddion perthnasol’. Bydd yn ofynnol i ymgyrchwyr cofrestredig roi gwybod am roddion bob tri mis yn ystod y cyfnod a reoleiddir, sydd tua saith mis a hanner, cyn diwrnod pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol Senedd y DU , a hefyd (ar hyn o bryd) ar ôl yr etholiad.
- Rhoddion perthnasol yw rhoddion i'r trydydd parti mewn perthynas â gwariant a reolir a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau ymgyrchu penodol yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Gall rhoddion gynnwys cymorth anariannol a roddir i sefydliad, ond nid yw'n cynnwys amser gwirfoddolwyr.
- Mae'n debyg y bydd nifer y sefydliadau trydydd parti a'r mathau o sefydliadau trydydd parti y mae'n ofynnol iddynt gofrestru â'r Comisiwn yn cynyddu, a bydd cwmpas gwariant a reolir yn ehangu; ac felly mae'n bosibl y bydd rhoddion perthnasol yn dod yn fwy cyffredin.
2. O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), pe bai Comisiynydd yn cael ei restru yn briodol gan ymgyrchydd cofrestredig trydydd parti yn ei ffurflen ariannol i'r Comisiwn fel rhoddwr (gan roi £7,500 neu fwy), ystyrir y byddai'r Comisiynydd yn rhoi'r gorau i ddal swydd.
3. Yn unol â hyn, yng nghyd-destun etholiad cyffredinol Senedd y DU sydd ar ddod (a'r etholiadau y cyfeirir atynt yn nhroednodyn 1), byddai rhodd o £7,500 neu fwy (gan gynnwys fel cyfanswm o daliadau llai) a wneir i sefydliad trydydd parti cofrestredig e.e. elusen – os bydd y sefydliad yn rhoi gwybod am y swm fel un sy'n ymwneud â gwariant a reolir – yn peri i'r Comisiynydd roi'r gorau i ddal swydd. Byddai hyn yn gymwys hyd yn oed pe bai'r rhodd yn cael ei rhoi heb fwriad neu heb wybod y gall y sefydliad a'i derbyniodd ei defnyddio ar ôl hynny at ddibenion ymgyrchu.
Cwestiynau cyffredin – risg o roi'r gorau i ddal swydd
C.1: Rwy'n gwneud rhoddion (neu cânt eu gwneud yn anuniongyrchol drwy gyfrwng arall, megis ymddiriedolaeth y mae gennyf fuddiant ynddi) o bryd i'w gilydd i sefydliad trydydd parti rwy'n ei gefnogi e.e. elusen, grŵp ffydd, undeb llafur neu gymdeithas fasnach. Nid wyf yn pennu sut y gall y trydydd parti ddefnyddio'r rhoddion. Gall y rhoddion hyn fod yn gyfanswm o £7,500 neu fwy gyda'i gilydd. A yw hyn yn ysgogi'r ddarpariaeth PPERA lle mae'n rhaid i mi roi'r gorau i fod yn Gomisiynydd?
A. Nac ydy, mae'n debyg. Hynny yw, os yw'r rhoddion a wneir gennych at ddibenion cyffredinol y trydydd parti ac nid oes unrhyw arwydd gennych chi na'r trydydd parti y bydd yn defnyddio'r rhoddion i ymgyrchu gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr. Byddai'n annhebygol y gellid ystyried hyn yn briodol fel pe baech yn gwneud rhodd at ddibenion o'r fath. Felly dylai'r risg o ysgogi'r ddarpariaeth PPERA fod yn isel.
Fodd bynnag, mae angen i chi gadw mewn cof y gallai'r ddarpariaeth PPERA gael ei hysgogi o dan rai amgylchiadau, e.e. os gwnaethoch y rhoddion hyn mewn cyd-destun lle roedd eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu (gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr) yn ofyniad neu'n bosibl neu'n debygol yn wrthrychol.
C.2: Rwy'n ymddiriedolwr neu'n aelod o fwrdd sefydliad trydydd parti a/neu'n rhoi cyngor ac arbenigedd iddo. Gallai ‘gwerth’ fy amser fod yn £7,500 neu'n fwy. A yw hyn yn ysgogi'r ddarpariaeth PPERA lle mae'n rhaid i mi roi'r gorau i fod yn Gomisiynydd?
A. Nac ydy, mae'n debyg. Dim ond pe bai'r rhoddion (boed yn rhoddion ariannol neu mewn nwyddau) yn cael eu cyfeirio at ddibenion ymgyrchu gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr y byddent yn cael eu rheoleiddio. At hynny, nid yw'r gofynion rheoleiddio trydydd partïon yn cwmpasu gweithgareddau gwirfoddol. Felly, ar yr amod nad ydych yn cael eich talu am y gweithgarwch (heblaw am ad-dalu treuliau), byddai'n annhebygol y gellid ystyried hyn yn briodol fel pe baech yn gwneud rhodd at ddibenion ymgyrchu gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr. Dylai'r risg o ysgogi'r ddarpariaeth PPERA fod yn isel.
Fodd bynnag, mae angen i chi gadw mewn cof y gallai'r ddarpariaeth PPERA gael ei hysgogi o dan rai amgylchiadau, e.e. os cafodd eich cyngor, eich arbenigedd a'ch amser eu rhoi, neu y talwyd amdanynt, mewn cyd-destun lle roedd yn amlwg neu'n bosibl neu'n debygol yn wrthrychol y cânt eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr.
C.3: Wrth ystyried a yw nifer o roddion yn creu cyfanswm o £7,500 neu fwy, dros ba gyfnod o amser y mae angen cyfrifo hyn?
A. Bydd ond angen adio rhoddion ar wahân a roddwyd dros gyfnod o amser at ei gilydd os gellid ystyried yn rhesymol eu bod yn rhan o nifer o roddion y mae pob un ohonynt yn gysylltiedig â diben penodol a bydd hyn yn cyfeirio'n briodol atoch chi fel rhoddwr a enwir mewn adroddiad trydydd parti a reoleiddir i'r Comisiwn ar wariant a reoleiddir mewn etholiad penodol.
Datgan buddiant ac achos o wrthdaro buddiannau
4. Fel yr adlewyrchir yn y Cod Ymddygiad i Gomisiynwyr, rhaid i waith y Comisiwn gael ei wneud yn rhydd rhag unrhyw awgrym o ddylanwad amhriodol, p'un a yw'n ariannol, yn bersonol neu'n wleidyddol. Mae hyn yn hollbwysig i gynnal hyder y cyhoedd yn y Comisiwn yn gyffredinol, ac yn enwedig mewn perthynas â'i rôl fel rheoleiddiwr.
5. Byddai'n anymarferol ac yn ddiangen cofrestru pob cysylltiad personol â thrydydd partïon sydd o natur llai uniongyrchol neu fwy dibwys, o ystyried y rhan fawr iawn y mae sefydliadau, megis elusennau er enghraifft, yn ei chwarae mewn bywyd dyddiol. Os bydd Comisiynydd yn gwneud rhodd (gan gynnwys ar ffurf amser neu arbenigedd) i drydydd parti, dylai'r Comisiynydd ystyried a ddylid rhoi gwybod am hynny i'r Comisiwn fel ‘datganiad o fuddiant’. Y cwestiwn allweddol i'w ofyn bob amser wrth asesu a ddylid cofnodi buddiant yw – a yw'n cael effaith ar waith y Comisiwn Etholiadol neu ganfyddiad rhesymol y cyhoedd o'm rôl fel Comisiynydd Etholiadol?
6. Ni ddylai fod yn ofynnol datgan buddiant i'r Comisiwn os ydych yn talu, er enghraifft, ffi aelodaeth flynyddol neu'n rhoi rhoddion bach dan amgylchiadau arferol nad ydynt yn gysylltiedig â mater ymgyrchu byw penodol sy'n berthnasol yn wleidyddol, neu a allai fod yn berthnasol yn wleidyddol. Fodd bynnag, os ydych yn chwarae rhan fwy gweithredol mewn trydydd parti, megis yn gwirfoddoli, yn rhoi cyngor/cymorth yn gyffredinol, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian ac ati, byddai'n gall datgan buddiant i'r Comisiwn. Byddai gwneud rhoddion personol sylweddol yn amlwg yn arwain at yr angen i ddatgan buddiant (e.e. mwy na £1,000 mewn blwyddyn).
7. Pe bai’n rhesymol disgwyl i drydydd parti ymgyrchu ynghylch materion yn y cyfnod cyn etholiadau a reoleiddir gan PPERA, mae hyn yn debygol iawn o arwain at yr angen i ddatgan buddiant i’r Comisiwn ac o bosibl – yn dibynnu ar y ffeithiau – achos o wrthdaro buddiannau.
8. Os bydd achos o wrthdaro buddiannau, rhaid i'r Comisiynydd dynnu'n ôl rhag cymryd rhan mewn unrhyw fusnes cysylltiedig gan y Comisiwn neu ddylanwadu arno.
9. Dylai Comisiynwyr hefyd ystyried pa mor berthnasol yw'r gofynion uchod os bydd aelod agos o'r teulu neu gydnabod yn gwneud rhoddion neu â chysylltiad agos â gweithgarwch ymgyrchu trydydd parti.
10. Yr egwyddor arweiniol i Gomisiynwyr yw y dylid cymryd gofal. Hynny yw, os yw'n ymddangos y gallai fod angen i chi ddatgan i'r Comisiwn eich bod wedi gwneud rhodd i weithgareddau trydydd parti neu'n gysylltiedig â nhw, byddai'n well gwneud hynny. Bydd hyn yn golygu na fydd modd eich beirniadu chi a'r Comisiwn.
Cwestiynau cyffredin – datgan buddiant ac achos o wrthdaro buddiannau
C.1: Rwyf wedi gwneud rhodd o fwy na £1,000 i sefydliad trydydd parti rwy'n ei gefnogi e.e. elusen, grŵp ffydd, undeb llafur neu gymdeithas fasnach. A oes angen i mi roi gwybod i'r Comisiwn fy mod wedi gwneud hyn?
A. Oes, os yw'r rhodd dros £1,000 (gan gynnwys cyfanswm rhoddion llai yn ystod cyfnod o 12 mis). Dylech wneud y datganiad ni waeth i ba sefydliad rydych wedi gwneud y rhodd.
C.2: Beth am yr angen i ddatgan rhodd sy'n llai na £1,000?
A. Os yw'r rhodd yn llai na £1,000, mae angen i chi ystyried o hyd a ddylid rhoi gwybod i'r Comisiwn. Efallai y byddwch yn dewis cymryd gofal a datgan y rhodd i'r Comisiwn. Dylid ystyried a ydych yn ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau'r sefydliad; ac a yw'r sefydliad neu'r unigolyn sy'n derbyn y rhodd yn gysylltiedig, neu'n debygol o fod yn gysylltiedig, â gweithgareddau ymgyrchu byw ynghylch materion sy'n berthnasol yn wleidyddol, neu a allai fod yn berthnasol yn wleidyddol.
C3: Beth os wyf wedi gwneud rhodd mewn nwyddau yn hytrach na rhodd ariannol, e.e. rhoi cyngor neu roi fy amser mewn gweithgaredd gwirfoddol?
A. Mae'r un rheolau yn gymwys â'r hyn a nodir yng nghwestiwn 2, fel pe baech wedi rhoi arian.
C.4: Rwy'n aelod o sefydliad trydydd parti, e.e. yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, neu'n un o gyfeillion sefydliad o'r fath. A oes angen i mi ddatgan hyn?
A. O dan amgylchiadau arferol, nac oes, nid oes angen i chi ddatgan hyn. Fodd bynnag, dylech wneud hynny pe bai sefydliad o'r fath yn gysylltiedig â gweithgareddau ymgyrchu byw ynghylch mater(ion) sy'n berthnasol yn wleidyddol, neu a allai fod yn berthnasol yn wleidyddol, neu'n ymwneud â gweithgareddau o'r fath yn ddiweddarach.
C.5: Rwyf yn gysylltiedig â/wedi gwneud rhodd i sefydliad sy'n ymgyrchu, ond rwy'n amau bod hyn ar lefel lle byddai'n ofynnol iddo gofrestru â'r Comisiwn fel trydydd parti – a ddylwn ddatgan fy nghysylltiad â'r sefydliad?
A. Dylech. Gall y ffaith bod y sefydliad yn ymgyrchu olygu y dylai fod wedi cofrestru fel trydydd parti â'r Comisiwn neu y bydd angen iddo wneud hyn.