Atodiad 5 Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch
Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch
Mae gan bawb sy'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol gyfrifoldeb i ddiogelu gwybodaeth sensitif a phersonol bob amser. Bydd y canllaw cryno hwn yn rhoi rhai mesurau allweddol i chi sicrhau eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i wneud yn siŵr y caiff gwybodaeth ei rheoli mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Bydd hefyd yn eich cyfeirio at ganllawiau manylach, polisïau a chymorth.
Gwybodaeth a Ddiogelir
• DIDDOSBARTH – Mae'r rhan fwyaf o wybodaeth y Comisiwn yn y categori hwn
• PERSONOL – Byddai'r wybodaeth hon yn cynnwys manylion adnabod unigolyn, megis enw; oedran; rhyw; cyfeiriad; rhifau ffôn; manylion cyfrif banc a; chenedligrwydd. Os caiff y wybodaeth hon ei datgelu heb ganiatâd, gallai beri trallod neu ddifrod a thorri hawliau dynol neu breifatrwydd yr unigolyn
• SENSITIF – Gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol yw hon a allai arwain at gywilydd a cholled os caiff ei datgelu i bartïon heb awdurdod. Er enghraifft: “masnachol gyfrinachol”, “gwaith achos honiad” “camau gorfodi” ac ati.
Rhoi gwybod am ddigwyddiadau
Dylai staff roi gwybod ar unwaith am unrhyw ddigwyddiadau lle maent yn amau bod cyfrinachedd gwybodaeth y Comisiwn, neu ddiogelwch ei systemau TG, wedi’i beryglu. Byddai enghreifftiau yn cynnwys:
• Gwybodaeth sydd wedi cael ei hanfon at y derbynnydd anghywir ar ddamwain
• Colli gwybodaeth a oedd yn cael ei chludo o un lleoliad i un arall
• Colli cyfarpar cyfrifiadurol
• Amheuaeth bod unigolyn heb awdurdod wedi cael mynediad at system TG
• System wedi'i heintio gan feirws cyfrifiadurol.
Dylid rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath i'r ddesg gymorth TG yn y lle cyntaf.
Storio
• Os byddwch yn cadw gwybodaeth electronig, dylid ei storio ar rwydwaith y Comisiwn y gallwch gael mynediad ato drwy eich cyfrifiadur personol rhithwir
• Ni ddylid cadw gwybodaeth ar gyfrifiaduron personol nad ydynt yn perthyn i'r Comisiwn na'i hanfon i gyfeiriadau e-bost personol
• Storio gwybodaeth bapur mewn ffolderi yw'r arfer orau, a'i threfnu mewn ffordd fel y gellir dod o hyd i wybodaeth yn gyflym
• Yn ddelfrydol, dylid adolygu gwybodaeth bersonol a/neu sensitif ar ffurf electronig fel nad oes angen argraffu copïau Os bydd y wybodaeth ar ffurf copi caled, rhaid ei chadw'n ddiogel mewn cypyrddau dan glo. Wrth gael gwared ar wybodaeth, dylid dinistrio gwybodaeth bersonol a/neu sensitif ar bapur yn ddiogel, h.y. ei darnio neu ei dychwelyd i'r Comisiwn er mwyn ei gwaredu. Dylid dileu gwybodaeth electronig yn barhaol.
Storio
- Os byddwch yn cadw gwybodaeth electronig, dylid ei storio ar rwydwaith y Comisiwn y gallwch gael mynediad ato drwy eich cyfrifiadur personol rhithwir
- Ni ddylid cadw gwybodaeth ar gyfrifiaduron personol nad ydynt yn perthyn i'r Comisiwn na'i hanfon i gyfeiriadau e-bost personol
- Storio gwybodaeth bapur mewn ffolderi yw'r arfer orau, a'i threfnu mewn ffordd fel y gellir dod o hyd i wybodaeth yn gyflym
- Yn ddelfrydol, dylid adolygu gwybodaeth bersonol a/neu sensitif ar ffurf electronig fel nad oes angen argraffu copïau Os bydd y wybodaeth ar ffurf copi caled, rhaid ei chadw'n ddiogel mewn cypyrddau dan glo. Wrth gael gwared ar wybodaeth, dylid dinistrio gwybodaeth bersonol a/neu sensitif ar bapur yn ddiogel, h.y. ei darnio neu ei dychwelyd i'r Comisiwn er mwyn ei gwaredu. Dylid dileu gwybodaeth electronig yn barhaol.
Dyfeisiau Cludadwy (iPads, Gliniaduron, dyfeisiau Blackberry ac ati)
- Dylid sicrhau nad yw'r cyfarpar yn cael ei adael heb neb i ofalu amdano ar unrhyw adeg, a'i fod yn cael ei gadw dan glo ar ôl i chi orffen ei ddefnyddio.
- Os bydd yn rhaid i chi adael gliniadur ymlaen a heb neb i ofalu amdano am gyfnod, sicrhewch fod y peiriant yn cael ei gloi drwy bwyso'r bysellau <Ctrl><Alt><Delete> ar yr un pryd a dewis yr opsiwn i gloi'r cyfrifiadur o'r ddewislen.
- Ystyriwch yr hyn sydd o'ch cwmpas wrth edrych ar wybodaeth, e.e. ar drên pan all rhywun edrych ar y sgrîn
- Dylid atal defnyddwyr heb awdurdod (e.e. plant, partneriaid ac ati) rhag defnyddio'r cyfarpar
- Os byddwch yn cysylltu/datgysylltu dyfais symudol i/o liniadur, megis gyriannau caled allanol neu gofau bach, sicrhewch y gwneir hyn yn ofalus. Dilynwch y cyfarwyddiadau gan y Ddesg Gymorth TG. Os byddwch yn ansicr o gwbl, holwch dîm y Ddesg Gymorth TG
- Dylech osgoi mynd â chyfarpar cludadwy i leoliadau cymdeithasol megis bariau, bwytai a chlybiau.
Rhoi gwybod am ddigwyddiadau
Dylai staff roi gwybod ar unwaith am unrhyw ddigwyddiadau lle maent yn amau bod cyfrinachedd gwybodaeth y Comisiwn, neu ddiogelwch ei systemau TG, wedi’i beryglu. Byddai enghreifftiau yn cynnwys:
- Gwybodaeth sydd wedi cael ei hanfon at y derbynnydd anghywir ar ddamwain
- Colli gwybodaeth a oedd yn cael ei chludo o un lleoliad i un arall
- Colli cyfarpar cyfrifiadurol
- Amheuaeth bod unigolyn heb awdurdod wedi cael mynediad at system TG
- System wedi'i heintio gan feirws cyfrifiadurol.
Dylid rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath i'r ddesg gymorth TG yn y lle cyntaf.
Cyfarpar Cludadwy
Gellir darparu Blackberry, gliniadur neu ddyfais symudol arall, e.e. iPad, at eich defnydd ar fusnes y Comisiwn ar ffurf benthyciad hirdymor neu fyrdymor.
Mae hefyd yn bosibl defnyddio dyfais symudol bersonol i gael mynediad at eich cyfrif e-bost gyda'r Comisiwn. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar gais gan y ddesg gymorth TG a rhaid i Bennaeth TGCh gymeradwyo'r cais. Dim ond ar ddyfeisiau iPad ac iPhone Apple y gellir gwneud hyn ar hyn o bryd.
Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu'r cyfarpar hwn rhag cael ei ddifrodi neu ei ddwyn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth sy'n cael ei storio arno, a dylech ddilyn y cyfarwyddiadau canlynol:
Peidiwch â storio gwybodaeth bersonol na chyfrinachol ar ddyfeisiau cludadwy.
Wrth ddefnyddio cyfarpar cludadwy y tu allan i safleoedd y Comisiwn, sicrhewch fod cyn lleied o wybodaeth â phosibl wedi'i storio ar y cyfarpar ac nad ydych yn ei adael heb neb i ofalu amdano.
Dylech osgoi mynd â chyfarpar cludadwy i leoliadau cymdeithasol megis bariau, bwytai a chlybiau.
Dylai cyfarpar cludadwy sy'n cael ei storio yn y swyddfa gael ei gadw dan glo mewn cabinet neu ddrôr desg. Os ydych yn gadael cyfarpar mewn car, dylid ei gloi yn y gist.
Os byddwch yn penderfynu defnyddio dyfais symudol bersonol i gael gafael ar wybodaeth y Comisiwn, rhaid i chi ddilyn y rheolaethau diogelwch a defnydd a nodir isod o hyd:
Ni ddylech geisio analluogi nac osgoi'r feddalwedd amgryptio sydd wedi'i llwytho ar eich gliniadur.
Rhaid i chi ddefnyddio cod PIN sydd o leiaf chwe digid o hyd ar eich iPhone neu iPad.
Os byddwch yn colli darn o gyfarpar neu os byddwch yn amau bod y wybodaeth arno wedi cael ei pheryglu, mae'n rhaid i chi roi gwybod ar unwaith i'r Ddesg Gymorth TG.
Ceidw'r Comisiwn yr hawl i lanhau o bell unrhyw ddyfais sydd wedi cael ei chysylltu ag un o gyfrifon e-bost y Comisiwn os caiff ei cholli, ei dwyn neu ei chamddefnyddio er mwyn diogelu unrhyw wybodaeth a all fod ar y ddyfais.
Cyngor a Manylion Cyswllt
I gael cyngor pellach ar y canllawiau hyn, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Gwybodaeth ar 020 7271 0703/0554.
I gael cyngor ar systemau a chyfarpar TG neu i roi gwybod am ddigwyddiad, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG ar 020 7271 0599.
AdolygwydMarch 2023