Atodiad 7 Polisi Cod Ymddygiad, Atal Twyll ac Atal Llwgrwobrwyo
Cyflwyniad
Mae'r Comisiwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o staff ymddwyn yn onest ac yn ddidwyll bob amser. Mae hyn yn cynnwys diogelu'r adnoddau cyhoeddus y mae'n gyfrifol amdanynt ac unrhyw adnoddau eraill y mae'r Comisiwn yn gyfrifol amdanynt.
Ni fydd y Comisiwn yn goddef unrhyw dwyll na llwgrwobrwyo, ac mae'n ymrwymedig i sicrhau bod ei systemau a'i arferion yn lleihau'r risg o dwyll. Yn ogystal, ymchwilir i bob achos gwirioneddol neu bosibl o dwyll yn drylwyr ac yn brydlon, a chymerir camau priodol.
- Diben y polisi hwn yw:
- Nodi cyfrifoldebau staff (fel unigolyn a/neu reolwr) mewn perthynas ag atal a chanfod twyll;
- Disgrifio'r gweithdrefnau ar gyfer nodi ac ymchwilio i unrhyw honiadau o dwyll neu lwgrwobrwyo;
Rhoi cyngor a gweithdrefn ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw ymwybyddiaeth neu amheuaeth o wyngalchu arian
Cynulleidfa
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw dwyll neu amheuaeth o dwyll, neu unrhyw lwgrwobrwyo neu amheuaeth o lwgrwobrwyo, sy'n ymwneud â chyflogeion yn rhinwedd eu gwaith i'r Comisiwn, ac wrth ddelio â rhanddeiliaid, ymgynghorwyr, gwerthwyr, contractwyr, asiantaethau allanol wrth wneud busnes â chyflogeion y cyfryw asiantaethau, a/neu unrhyw barti arall sydd â chydberthynas fusnes â'r Comisiwn. Mae hefyd yn ymdrin â'r modd y bydd y Comisiwn yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill wrth iddynt geisio mynd i'r afael â thwyll neu lwgrwobrwyo.
Er mwyn osgoi amheuaeth, ymdrinnir ag achosion o dwyll neu lwgrwobrwyo mewn cyrff a reoleiddir gan y Comisiwn neu a nodir o ganlyniad i waith rheoleiddio'r Comisiwn, ym mholisïau rheoleiddio'r Comisiwn.
Diffiniadau
Twyll
Mae Deddf Twyll 2006, a ddaeth i rym ar 15 Ionawr 2007, yn creu trosedd twyll gyffredinol y gellir ei chyflawni mewn tair ffordd:
- Twyll drwy ymhoniad anwir;
- Twyll drwy fethu â datgelu gwybodaeth;
- Twyll drwy gamddefnyddio safle.
Mae hefyd yn creu troseddau newydd:
Cael gwasanaethau mewn modd anonest;
Meddu ar eitemau, gwneud eitemau a chyflenwi eitemau i'w defnyddio i dwyllo;
Masnachu twyllodrus sy'n gymwys i fasnachwyr anghorfforaethol.
At ddibenion ymarferol gellir diffinio twyll fel y defnydd o dwyll gyda'r bwriad o ennill mantais, achosi colled i barti arall neu amlygu parti arall i'r risg o golled.
Ystyrir bod twyll yn cynnwys dwyn:
- Unrhyw weithred anonest neu dwyllodrus;
- Ffugio neu newid unrhyw ddogfen neu gyfrif sy'n perthyn i'r Comisiwn;
- Ffugio neu newid siec, drafft banc, neu unrhyw ddogfen ariannol arall;
- Camddefnyddio cronfeydd, gwarannau, cyflenwadau, neu asedau eraill;
- Amhriodoldeb wrth drin neu adrodd ar arian neu drafodion ariannol;
- Elwa ar wybodaeth fewnol am weithgareddau'r Comisiwn, o bosibl drwy ddefnyddio gwybodaeth nad yw wedi'i chyhoeddi eto heb awdurdod;
- Datgelu gwybodaeth gyfrinachol a pherchnogol i bartïon allanol;
- Datgelu i unrhyw un arall unrhyw weithgareddau a wneir neu a ystyrir gan y Comisiwn;
- Derbyn neu geisio unrhyw beth o werth perthnasol gan gontractwyr, gwerthwyr neu unigolion sy'n darparu gwasanaethau a/neu ddeunyddiau i'r Comisiwn;
- Difetha, symud neu wneud defnydd amhriodol o gofnodion, dodrefn, gosodiadau, a chyfarpar; a/neu
- Unrhyw ymddygiad amhriodol tebyg neu gysylltiedig.
Mae'n anodd ac, o bosibl, yn annoeth bod yn rhagnodol o ran ble y gallai'r problemau hyn effeithio ar y Comisiwn. Mae bob amser ffyrdd newydd ac annisgwyl o ddefnyddio sefydliadau mewn gweithrediadau o'r fath. Fodd bynnag, dyma rai enghreifftiau o feysydd lle mae'r risg o dwyll yn fwy tebygol o godi:
- Gwneud hawliadau ffug am oramser, oriau hyblyg, costau teithio a chynhaliaeth;
- Ffugio a dyblygu anfonebau er mwyn cynhyrchu taliad ffug;
- Camddefnyddio cyllid grant;
- Defnyddio systemau prynu heb awdurdod i archebu nwyddau amhriodol neu ddefnyddio gwasanaethau er budd personol;
- Derbyn llai o nwyddau neu wasanaethau na'r disgwyl o ganlyniad i gydgynllwynio;
- Derbyn nwyddau digymell neu archebion estynedig o ganlyniad i dderbyn atyniadau fel rhoddion am ddim yn dwyllodrus (gweler hefyd gymal 3.1 o'r Cod Ymddygiad ar y Gofrestr o Roddion a Lletygarwch);
- Camddefnyddio prosesau caffael neu gardiau credyd;
- Dewis contractwr nad yw'n cynnig y gwerth gorau am arian o ganlyniad i ffafriaeth;
- Gwneud taliadau am waith heb ei gwblhau o ganlyniad i gydgynllwynio rhwng y contractwr a'r swyddog;
- Dwyn asedau neu eu defnyddio heb awdurdod;
- Dwyn dogfennaeth neu wybodaeth sensitif/cyfyngedig.
Gwyngalchu Arian
Mae gwyngalchu arian yn fath penodol o dwyll yr ymdrinnir ag ef o dan gyfreithiau penodol. Gwyngalchu arian yw pan fydd troseddwyr yn ceisio rhoi'r argraff mai eu harian nhw yw'r arian sydd ganddynt ac, felly, y gallant ei wario'n gyfreithlon. Os caiff rhywbeth ei brynu gyda'r arian hwn, yna gall gael ei ddefnyddio neu ei werthu a bydd enillion y gwerthiant hwnnw yn ymddangos yn gyfreithlon. Gall gwyngalchu arian gynnwys:
Gwaredu enillion arian parod sy'n deillio o weithgarwch anghyfreithlon yn ffisegol;
Creu haenau cymhleth o drafodion ariannol i gelu ffynhonnell yr arian;
Cyfreithloni enillion trosedd drwy eu dychwelyd i'r system fel cyllid busnes priodol;
Troseddau, dyletswyddau a chyfrifoldebau a bennir yn Neddf Enillion Troseddau 2002 fel rheoliadau diwygiedig a chysylltiedig. Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i chi yn bersonol roi gwybod am unrhyw ymwybyddiaeth neu amheuaeth o wyngalchu arian.
Peidiwch â datgelu eich amheuon i'r unigolyn. Mae troseddau yn gysylltiedig â Gwyngalchu Arian, yn enwedig os byddwch yn datgelu gwybodaeth sy'n galluogi'r unigolyn dan amheuaeth i gelu tystiolaeth ac yn amharu ar ymchwiliad. Felly, mae'n bwysig iawn, os bydd gennych amheuon, eich bod yn eu cadw i chi'ch hun i ddechrau, ac yn rhoi gwybod i Gwnsler Cyffredinol y Comisiwn, sef Swyddog Adrodd ar Wyngalchu Arian y Comisiwn, am eich amheuon.
Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn rhoi gwybod i'r uwch-reolwyr priodol, gan gynnwys y Prif Weithredwr ac archwilwyr mewnol ac allanol. Bydd hyn yn eu galluogi i ystyried y mater. Os bydd sail briodol, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn rhoi gwybod i'r awdurdodau ymchwilio perthnasol am y mater.
Llwgrwobrwyo
Mae Deddf Llwgrwobrwyo 2010 yn nodi troseddau sy'n cynnwys:
- Llwgrwobrwyo unigolyn arall
- Cael eich llwgrwobrwyo
- Dwyn sefydliad i gyfrif os bydd unigolyn sy'n gysylltiedig â'r sefydliad yn llwgrwobrwyo rhywun arall. Mae rhoi gweithdrefnau priodol ar waith i atal llwgrwobrwyo yn ffordd o atal y drosedd hon.
Bydd llwgrwobrwyo yn digwydd o dan amgylchiadau sy'n cynnwys:
Y weithred o gynnig, rhoi, erfyn neu dderbyn unrhyw gymhelliad neu wobr (boed yn ariannol neu fel arall);
I neu gan unigolyn neu gwmni, ble bynnag y bo wedi'i leoli a ph'un a yw'n swyddog neu'n gorff cyhoeddus neu'n unigolyn neu'n gwmni preifat;
Gan unrhyw gyflogai, Aelod Bwrdd neu Gomisiynydd unigol, sy'n gweithredu ar ran y Comisiwn;
Lle y bwriedir i hynny fod yn gyfystyr â chyflawni swyddogaeth neu weithgarwch perthnasol gan yr unigolyn neu'r cwmni mewn modd amhriodol, neu beri i hynny ddigwydd;
Bydd swyddogaeth berthnasol yn cynnwys:
- unrhyw swyddogaeth gyhoeddus;
- unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig â busnes (gan gynnwys masnach neu broffesiwn);
- unrhyw weithgarwch a gyflawnir yn ystod cyflogaeth unigolyn; neu
- unrhyw weithgarwch a gyflawnir gan gorff o unigolion (corfforaethol neu anghorfforaethol) neu ar ei ran
Ystyrir bod swyddogaeth neu weithgarwch wedi'i chyflawni/gyflawni mewn modd amhriodol lle y caiff disgwyliad perthnasol ei dorri – h.y. y disgwyliad y caiff y swyddogaeth neu'r gweithgarwch ei chyflawni/gyflawni mewn modd didwyll, diduedd a phenodol gan yr unigolyn yr ymddiriedir ynddo.
Felly, os bydd cyflogeion y Comisiwn yn llwgrwobrwyo eraill, neu os caiff ei swyddogion ei hun eu llwgrwobrwyo gan eraill, gallai hynny effeithio ar y Comisiwn.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau
Mae pob aelod o'r staff yn gyfrifol am y canlynol:
- Ymddwyn yn briodol wrth ddefnyddio adnoddau ac wrth drin a thrafod a defnyddio arian cyhoeddus, boed hynny wrth ymwneud â systemau talu neu arian parod, derbynebau neu wrth ddelio â chyflenwyr.
- Ymddwyn yn unol â Chod Ymddygiad y Comisiwn ac unrhyw bolisïau eraill sy'n nodi ymddygiad staff;
- Bod yn effro i'r posibilrwydd y gallai digwyddiadau neu drafodion annisgwyl fod yn arwyddion o dwyll;
- Rhoi gwybod am fanylion ar unwaith drwy'r sianel briodol os bydd yn amau bod twyll wedi'i gyflawni neu os bydd yn gweld unrhyw weithredoedd neu ddigwyddiadau amheus;
- Cydweithredu'n llawn â phwy bynnag sy'n cynnal gwiriadau neu adolygiadau mewnol neu ymchwiliadau mewnol i dwyll.
Cyfrifoldebau rheolwyr
Yn ogystal â'u cyfrifoldebau fel aelodau o staff, rhaid i bob rheolwr fod yn gyfarwydd â'r mathau o ymddygiad amhriodol a all ddigwydd yn eu maes cyfrifoldeb, a bod yn effro i unrhyw arwydd o afreoleidd-dra.
Rhaid i reolwyr hefyd fod yn effro i dwyll neu lwgrwobrwyo ym mhob rhan o'r Comisiwn. Mae hyn yn golygu bod angen iddynt feddu ar wybodaeth gyffredinol am y busnes, yn ogystal â gwybodaeth arbenigol am eu maes cyfrifoldeb. Mae rheolwyr ar bob lefel yn y Comisiwn yn gyfrifol am atal a chanfod twyll a llwgrwobrwyo. Yn benodol, maent yn gyfrifol am wneud y canlynol:
- Nodi risgiau i systemau, gweithrediadau a gweithdrefnau;
- Datblygu a chynnal rheolaethau effeithiol i atal a chanfod twyll;
- Sicrhau y cydymffurfir â rheolaethau.
Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu
Y Swyddog Cyfrifyddu, sef Prif Weithredwr y Comisiwn, sy'n gyfrifol am sefydlu a chynnal system gadarn o reolaeth fewnol sy'n helpu i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion adrannol. Nod y system rheolaeth fewnol yw ymateb i'r amrywiaeth eang o risgiau a wynebir gan adran, a'u rheoli. Mae'r system rheolaeth fewnol yn seiliedig ar broses barhaus y bwriedir iddi nodi'r prif risgiau, gwerthuso natur a maint y risgiau hynny, a'u rheoli'n effeithiol. Ystyrir y broses o reoli risgiau twyll a llwgrwobrwyo yng nghyd-destun rheoli'r amrywiaeth ehangach hon o risgiau.
Mae cyfrifoldeb ar Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn i weithredu er budd ehangach y Canghellor, yn ogystal ag er budd penodol y Comisiwn. Mae'r Comisiwn yn cefnogi'r Swyddog Cyfrifyddu yn hyn o beth drwy ddarparu'r holl gymorth cyfreithlon i gefnogi ymdrechion cyrff eraill i atal twyll a llwgrwobrwyo, boed hynny'n rhagweithiol lle yr amheuir afreoleidd-dra â chorff arall ac yn ymatebol lle bydd corff arall yn codi amheuaeth o afreoleidd-dra â'r Comisiwn.
Cyfrifoldebau Archwilwyr Mewnol
Mae Archwilwyr Mewnol yn gyfrifol am y canlynol:
- Cyflwyno barn flynyddol i'r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch digonoldeb y system rheolaeth fewnol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer rheoli'r risg o dwyll a llwgrwobrwyo;
- Helpu i atal afreoleidd-dra drwy archwilio a gwerthuso effeithiolrwydd prosesau rheoli mewn perthynas â maint y risg/amlygiad posibl yn segmentau amrywiol gweithrediadau'r Comisiwn;
- Archwilio digonolrwydd trefniadau'r rheolwyr i adolygu a nodi'r posibilrwydd o dwyll fel risg busnes, a chynghori ar hynny;
- Helpu'r rhai sy'n cynnal ymchwiliadau mewnol i dwyll.
Cyfrifoldebau Archwilwyr Allanol
Mae Archwilwyr Allanol yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynnal gwaith archwilio ariannol yn unol â gweithdrefnau archwilio a luniwyd i ystyried twyll;
- Cynnal astudiaethau penodol o werth am arian a all nodi ac asesu'r risg o dwyll, a chodi ymwybyddiaeth o wendidau mewn perthynas â rheolaeth a systemau;
- Ystyried rheoleidd-dra gwariant gan roi sylw penodol i'r risg o dwyll a mesurau lliniaru;
- Cymryd camau priodol mewn ymateb i ddatgeliadau o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, h.y. chwythu'r chwiban.
Nodi achosion o dwyll a llwgrwobrwyo ac ymchwilio ac ymateb iddynt
Gweithdrefnau ar gyfer:
- Cyfraniadau Gwleidyddol
- Rhoddion Elusennol a Nawdd
- Hwyluso Taliadau
- Rhoddion, Lletygarwch a Chostau Teithio
Arwyddion posibl o ymddygiad amhriodol
Gallai amgylchiadau beri i chi amau y gall fod twyll yn yr arfaeth neu'n digwydd. Dylech wedyn roi gwybod am y mater ac atal unrhyw drafodiad arfaethedig. Ymhlith y mathau o gwestiynau y dylech fod yn eu gofyn i chi'ch hun mae:
- Gyda phwy rydych yn delio?
- Ble mae'n byw neu'n gweithio?
- Beth yw ei swydd (os yw'n berthnasol)?
- A ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw un o'r rhain? Mae angen i chi sicrhau eich bod yn fodlon.
- A ydych wedi cwrdd â'r unigolyn rydych yn delio ag ef?
- Byddwch yn wyliadwrus iawn o unigolion sy'n gweithredu ar ran trydydd partïon anhysbys; dewch o hyd i fanylion y trydydd partïon hynny a chysylltwch â nhw.
- Edrychwch am yr anarferol, e.e. lle bo gwahaniaeth mawr rhwng manylion yr unigolyn rydych yn delio ag ef a manylion cyfrif neu wahaniaeth rhwng deiliad cyfrif a'r llofnodwr neu rywun yn cytuno i swm llai yn rhy hawdd.
- Edrychwch am yr hyn yr ymddengys (heb esboniad) ei fod yn weithgarwch sy'n gwneud colled, er enghraifft tendr aneconomaidd am waith neu dalu pris afrealistig am rywbeth.
Dylid rhoi gwybod i'r rheolwyr a phob aelod arall o'r staff hefyd am unrhyw arwyddion a allai awgrymu bod twyll yn digwydd yn y Comisiwn. Gallai'r rhain gynnwys: staff yn teimlo dan straen heb lwyth gwaith mawr; staff bob amser yn gweithio'n hwyr heb esboniad amlwg; amharodrwydd staff i gymryd gwyliau; gwrthod dyrchafiad; cyfoeth diesboniad; newid sydyn mewn ffordd o fyw; staff newydd yn ymddiswyddo'n gyflym; cydberthnasau agos â chyflenwyr/contractwyr; cyflenwyr/contractwyr yn mynnu delio ag un aelod penodol o'r staff. Wrth gwrs, gall fod pethau eraill wrth wraidd yr arwyddion hyn ac, felly, mae'n bwysig ymchwilio'n briodol i unrhyw amheuon.
Rhoi gwybod am dwyll a llwgrwobrwyo
Os byddwch yn canfod neu'n amau twyll neu lwgrwobrwyo, dylech roi gwybod i'ch rheolwr llinell am eich amheuon yn y lle cyntaf. Pe bai'n amhriodol gwneud hynny, dylech roi gwybod i'r unigolion canlynol am eich amheuon:
Cwnsler Cyffredinol; neu
Archwilydd Mewnol.
Fel arall, gallwch ffonio rhif chwythu'r chwiban y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn ddienw (020 7798 7999).
Dylech fod yn ofalus i beidio â datgelu eich amheuon i bobl eraill o fewn y Comisiwn neu'r tu allan iddo (ac eithrio o dan drefniadau chwythu'r chwiban), oni fydd y sawl sy'n ymchwilio yn gofyn i chi wneud hynny.
Os byddwch yn gofyn i'ch manylion gael eu diogelu a'u cadw'n gyfrinachol, ni chânt eu datgelu heb eich caniatâd. Os bydd sefyllfa'n codi lle na allwn ddatrys y pryder heb ddatgelu pwy ydych (e.e. mae angen tystiolaeth yn y llys) bydd y Comisiwn yn trafod â chi p'un a all weithredu, a sut.
Ymchwilio i dwyll a llwgrwobrwyo
Caiff ymchwiliadau i honiadau o dwyll eu cynnal fel y bo'n briodol gan yr heddlu a/neu yn unol â gweithdrefn ymchwilio'r Comisiwn ar gyfer twyll a llwgrwobrwyo.
Ymateb i dwyll a llwgrwobrwyo
Lle y bo'n briodol, bydd y Comisiwn yn ymateb i achosion o dwyll neu lwgrwobrwyo sy'n ymwneud â'i staff yn unol â'i bolisi disgyblu.
Bydd y Comisiwn yn cymryd camau priodol, gan gynnwys camau cyfreithiol lle bo angen, i adennill unrhyw golledion sy'n deillio odwyll neu lwgrwobrwyo neu'n gysylltiedig â hynny. Gall hyn gynnwys camau yn erbyn trydydd partïon sy'n ymwneud â'r llwgrwobrwyo neu y gwnaeth eu hesgeulustra gyfrannu at y llwgrwobrwyo.
Lle y caiff achosion o dwyll neu lwgrwobrwyo sy'n effeithio ar y Comisiwn eu nodi (gan gynnwys achosion fu bron â digwydd), bydd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol a'r Cwnsler Cyffredinol yn cynnal ymarferion cymesur i nodi'r gwersi a ddysgwyd (wedi'u hategu gan archwiliad mewnol fel y bo'n briodol) er mwyn sicrhau bod y rheolaethau'n briodol.
Gweinyddu
Cysylltiadau â Rheoli Risg
Rhaid i risgiau o dwyll a llwgrwobrwyo gael eu hasesu'n briodol gan reolwyr yn eu meysydd yn unol â'r polisi hwn a'u cynnwys mewn cofrestrau risgiau lle y bo'n berthnasol. Dylid adolygu hyn yn unol â pholisïau rheoli risg y Comisiwn.
Polisïau Cysylltiedig
- Mae gan y Comisiwn amrywiaeth o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymdrin ag ymddygiad yn y gwaith, gan gynnwys:
- Cod Ymddygiad;
- Polisi Chwythu'r Chwiban;
- Polisi Cwyn am Gyflogaeth;
- Polisi Disgyblu.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â'r polisïau uchod a dilyn y weithdrefn berthnasol lle y bo'n briodol. Os byddwch yn ansicr pa weithdrefn a all fod yn briodol, siaradwch ag aelod o'r tîm Adnoddau Dynol a all eich cynghori.
Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae'r polisi hwn yn seiliedig ar ofyniad statudol i atal twyll neu lwgrwobrwyo rhag llygru unrhyw un mewn swydd gyhoeddus. Mae'n berthnasol i bob aelod o staff ac nid ystyrir y bydd yn cael unrhyw effaith andwyol ar unrhyw un â'r nodweddion gwarchodedig nac unrhyw un a ddiogelir o dan Adran 75 yng Ngogledd Iwerddon. Gan fod hwn yn ofyniad statudol i bob aelod o staff yn y sector cyhoeddus heb ystyried graddfa, lleoliad gwaith, gwaith rhan amser neu lawn amser, ac ati, rhaid iddo gael ei fodloni heb ystyried unrhyw nodwedd warchodedig na nodwedd arall.
Fodd bynnag, wrth ymdrin â phob polisi a fframwaith statudol dylai rheolwyr fod yn ystyriol o unrhyw honiadau blinderus neu faleisus a monitro p'un a gânt eu gwneud yn anghymesur yn erbyn unrhyw grwpiau penodol o staff.
Ymgynghori
Tîm Gweithredol, Archwilwyr.
- Cynllun dosbarthu a chyfathrebu
- Tîm Gweithredol, Tîm Uwch-arweinwyr, Tîm Cyfreithiol, pob aelod o staff y Comisiwn Etholiadol, Archwilwyr. Dylid hefyd gyhoeddi'r polisi hwn ar fewnrwyd y staff.
Adolygu
Dylid adolygu'r polisi hwn bob dwy flynedd. Os bu achos o dwyll neu lwgrwobrwyo, dylid cynnal adolygiad i asesu effeithiolrwydd y polisi hwn.
Cysylltiadau allweddol
Cwnsler Cyffredinol y Comisiwn (cyswllt ar gyfer achosion penodol)
Binnie Goh ([email protected] Ffôn: 020 7271 0508)
Archwilwyr Mewnol y Comisiwn RSM plc.
Mike Cheetham ([email protected] Ffôn: 07800 617204
Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
Rhif chwythu'r chwiban (020 7798 7999)
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol (cyswllt am wybodaeth ynghylch y polisi hwn)
Kieran Rix ([email protected] Ffôn: 020 7271 0521)