Cofrestr rhoddion a lletygarwch Comisiynwyr Etholiadol 2025 - 2026
Mae’n rhaid i’n Comisiynwyr weithredu'n rhydd rhag unrhyw ddylanwad amhriodol gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig.
Mae’n rhaid iddynt ddatgan pob rhodd a lletygarwch a gynigwyd iddynt neu a dderbyniwyd ganddynt all achosi gwrthdaro yn eu rôl.
Rydym hefyd yn cynnal cofrestr o ddiddordebau a gynigwyd i’n Comisiynwyr neu a dderbyniwyd ganddynt.
John Pullinger CB
Dyddiad derbyn
17 Mawrth 2026
Unigolyn neu sefydliad sy’n cynnig
The Times (Max Kendix) a’r Financial Times (Anna Gross)
Disgrifiad
Cynigiwyd cinio i drafod gwaith a blaenoriaethau’r Comisiwn sydd i ddod. Derbyniwyd i hyrwyddo gwaith y Comisiwn. Gwerth amcangyfrifedig £40.
Carole Mills
Dyddiad derbyn
Ionawr 2026
Unigolyn neu sefydliad sy’n cynnig
Comisiwn Etholiadol India
Disgrifiad
Cynigiwyd a derbyniwyd y rhoddion a'r lletygarwch rhestredig fel cynrychiolydd y Comisiwn Etholiadol yn y Gynhadledd Etholiadau Rhyngwladol yn Delhi Newydd, India (19-25 Ionawr 2026):
Llety, teithio a bwyd drwy gydol y gynhadledd. Gwerth amcangyfrifedig £1,893.
Rhodd croeso sef tusw o 20 rhosyn coch. Derbyniwyd a chadwyd yn yr ystafell nes yr amser ymadael. Gwerth amcangyfrifedig £40.
Sgrôl gwaith celf. Derbyniwyd a rhoddwyd i’r Comisiwn Etholiadol i’w gadw. Gwerth amcangyfrifedig £75.
Ymweliad â’r Taj Mahal, gan gynnwys trafnidiaeth, taith dywys a chinio, fel rhan o raglen y gynhadledd. Gwerth amcangyfrifedig £150.
Sgarff gweëdig. Derbyniwyd a chadwyd. Gwerth amcangyfrifedig £40.