Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 12 Mai 2026
Aelodau:
John Pullinger Cadeirydd
Sue Bruce Comisiynydd - ar-lein o eitem 2
Elan Closs Stephens Comisiynydd
Roseanna Cunningham Comisiynydd
Alan Mabbutt Comisiynydd
Carole Mills Comisiynydd
Rashik Parmar Comisiynydd
Katy Radford Comisiynydd
Sheila Ritchie Comisiynydd
Chris Ruane Comisiynydd
Mynychwyr Gweithredol:
Vijay Rangarajan Prif Swyddog Gweithredol
Sam Hartley Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Ymgysylltiad Pleidleiswyr
Jackie Killeen Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a Gweinyddiaeth Etholiadol
Niki Nixon Cyfarwyddwr, Cyfathrebiadau
Chris Pleass Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Corfforaethol
Alison Williams Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Datganoli a’r Gyfraith
Gwahoddedigion ac arsylwyr:
Gwahoddedigion ac arsylwyr: Paul Redfern Cynghorydd Annibynnol i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (eitem 4-6.1)
Swyddogion yn bresennol:
Laura Ottery Pennaeth Llywodraethu, Risg a Sicrwydd (cofnodion)
Zena Khan Uwch Ymgynghorydd Llywodraethu
Antonia Merrick Rheolwr Busnes i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr
Tom Hawthorn Pennaeth Polisi (eitem 2)
Rachel Stephenson Rheolwr Polisi (eitem 2)
Cahir Hughes Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, gogledd Iwerddon (eitem 2)
Ryan Molloy Rheolwr, y Comisiwn Etholiadol, gogledd Iwerddon (eitem 2)
Monika Chwiedz Rheolwr Cynllunio a Pherfformio (eitem 3)
Naomi Richmond-Swift Pennaeth Cyfathrebu Mewnol a Chorfforaethol (eitem 4)
Tracey Blackman Pennaeth Rheoli ac Adrodd Ariannol (eitem 4)
Richard Scammell Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid (eitem 5)
Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Mai 2026, 9.30 am tan 12.50 pm
Lleoliad: Bunhill Row, Llundain
Croeso, ymddiheuriadau ac unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan gynnwys Rashik Parmar ac Alan Mabbutt a oedd wedi’u penodi’n Gomisiynwyr yn ddiweddar ac yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Bwrdd am y tro cyntaf.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Comisiynwyr nac aelodau’r Tîm Gweithredol.
Tynnodd Katy Radford sylw’r bwrdd at ei gwrthdaro ag eitem 2.1 ar yr agenda oherwydd ei rôl daledig fel Cyfarwyddwr y Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol. Eglurodd Katy y byddai’n esgusodi ei hun o ystafell y bwrdd wrth i’r Bwrdd ystyried y pwnc hwn.
Diweddariad y Tîm Gweithredol
Pennodd y Tîm Gweithredol fod y pleidleisiau a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol wedi’u cynnal yn ddidrafferth ar y cyfan, gyda mân faterion neu faterion unigol yn unig, a oedd yn cynnwys rhai heriau pleidleisio post a rhai cysylltiedig â data a phrosesau cyfrif arafach mewn rhai ardaloedd. Roedd y canlyniadau wedi cael eu derbyn yn dda ar draws pleidiau, ac nid oedd sylwebaeth ar-lein wedi datblygu pryderon sylweddol.
Cafodd yr etholiadau eu rhedeg yn dda a’u cyflawni’n broffesiynol gan weinyddwyr etholiadol, a hynny gyda chymorth effeithiol gan bartneriaid o’r heddlu a rhanddeiliaid eraill. Nid oedd unrhyw beth i ddangos problemau sylweddol mewn perthynas â pherfformiad Swyddogion Canlyniadau, ac roedd cydweithio cadarn gyda Byrddau Rheoli Etholiadol yng Nghymru a’r Alban. Ar y diwrnod pleidleisio, cafwyd rhai problemau unigol ac, mewn rhai achosion, problemau newydd, a gafodd eu rheoli’n effeithiol. Er bod rhai prosesau cyfrif yn arafach na’r disgwyl, nid oedd cwestiynau ynghylch eu huniondeb; fodd bynnag, ysgogodd tryloywder cyfyngedig mewn rhai achosion sylwebaeth allanol a thynnodd sylw at yr angen am ragor o gysondeb.
Yng Nghymru, cafodd y broses o gyflwyno system bleidleisio newydd ei rheoli’n llwyddiannus, a mân broblemau a gafodd eu hadrodd yn unig, a oedd yn cynnwys dau achos o gambersonadu a adroddwyd amdanynt a phroblem gydag argraffu pleidlais bost yng Nghaerdydd, a gafodd ei datrys yn effeithiol. Yn Lloegr, roedd materion a godwyd ar y diwrnod yn cynnwys ymholiadau ynghylch cymhwysedd ymgeiswyr, deunyddiau ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio a chwestiynau arferol ynghylch materion uniondeb etholiadol. Cafodd pleidleisiau a adferwyd eu monitro’n ofalus a’u cyflawni’n effeithiol. Cafodd cynlluniau peilot gyda’r bwriad o wella hygyrchedd pleidleiswyr, a oedd yn cynnwys pleidleisio cynnar a mwy hyblyg, eu rhoi ar waith mewn ystod o leoliadau. Awgrymodd adborth dechreuol fod y rhain wedi gweithio’n effeithiol, er roedd gwahaniaeth mewn defnydd ar draws lleoliadau yn tynnu sylw at gwestiynau ynghylch cysondeb ac effeithiolrwydd o ran cost. Bydd gwerthuso pellach yn dilyn. Bydd canlyniadau’r etholiad yn arwain at nifer o is-etholiadau, ac efallai y bydd rhai deisebau etholiadol yn deillio o ystyriaethau o ran cymhwysedd ymgeiswyr.
Cafodd ffyrdd newydd o fonitro cyfryngau cymdeithasol eu rhoi ar waith ar raddfa, a oedd yn cynnwys sganio dros 900,000 o bostiadau a chafwyd hyd i nifer fach o gynnwys ffugiad dwfn. Arweiniodd gwaith ymgysylltu â phlatfformau at geisiadau i gael gwared ar gynnwys niweidiol lle’r oedd angen, gan gynnwys cyfrif difrifol a gafodd ei wrthod. Er bod rhai sylwadau ar-lein wedi dod i’r amlwg, ni chafodd y rhain eu lledaenu’n eang.
Llwyddodd gwaith ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i gyrraedd y lefel uchaf erioed. Dyma adlewyrchu cymhlethdod y pleidleisiau a’r nifer uchel o ymgeiswyr ac asiantiaid am y tro cyntaf. Profodd y gwasanaethau Cymorth Rheoleiddio alw digynsail, a chafodd digwyddiadau ymgysylltu â randdeiliaid, a oedd yn cynnwys hyfforddiant a gweminarau, bresenoldeb da. Roedd cynnydd nodedig yng ngweithgarwch y drefn argraffnodau, a chafwyd mwy o adroddiadau ym mis Ebrill nac yn ystod y flwyddyn flaenorol gyfan, ac roedd timau’n gallu cefnogi cydymffurfedd yn dda iawn. Mae nifer o achosion yn parhau ar agor a byddent yn cael eu bwrw ymlaen yn unol â phrosesau sefydledig. Roedd llawer o ymgeiswyr wedi cofrestru ar gyfer gweminarau i gefnogi llenwi ffurflenni gwariant ar ôl y bleidlais.
Cyflawnwyd gweithgarwch gweithredol ar raddfa. Aethpwyd i’r afael â thua 700 o ymholiadau ynghylch gweinyddu etholiadol yn ystod cyfnod yr etholiad, a chafodd y rhan helaeth ohonynt eu datrys o fewn yr amser targed. Roedd ymgysylltiad y cyhoedd yn uchel, gan gynnwys tua 8,000 o negeseuon yn dod i mewn, a thros 1,000 o’r rheini ar y diwrnod pleidleisio yn unig, a’r wefan wedi cael ei gweld bron i filiwn o weithiau. Cafwyd dros 290 o eitemau eu rhannu ar y cyfryngau, a hynny’n cael ei gefnogi gan ddull rhagweithiol o gyfathrebu, gan gynnwys monitro a threialu cynlluniau “amddiffyn rhag camwybodaeth (“pre-bunking”) yng Nghymru a chydgysylltu agos gyda phartneriaid ar draws y system etholiadol.
Darparodd Gomisiynwyr adborth yn sgil eu harsylwadau mewn gorsafoedd pleidleisio a phrosesau cyfrif ar hyd a lled Prydain Fawr, ac roedd adroddiadau cyson bod y pleidleisiau wedi’u trefnu’n dda, eu cyflawni’n broffesiynol a’u cefnogi gan staff ymroddedig. Roedd buddion cynllunio ymlaen llaw yn amlwg iawn yng Nghymru, lle’r oedd cyfnod paratoi hirach yn cefnogi cyflawni didrafferth ac yn cefnogi hyder y cyhoedd yn y system newydd. Cafodd y defnydd o adnoddau digidol, gan gynnwys cofrestrau digidol, ei amlygu fel un o’r gwelliannau sylweddol. Cafwyd adroddiadau eang bod y rhain yn gwella effeithlonrwydd a llif pleidleiswyr ac roedd staff yn eu gweld yn ddefnyddiol. Cafodd rhai materion cysylltedd, gwefru a hyfforddiant eu nodi. Cytunwyd ar werth cofnodi a rhannu arferion gorau i gefnogi cyflwyno ehangach, yn ogystal â’r angen i gynnal hyder y cyhoedd, a oedd yn cynnwys mynd i’r afael â chanfyddiadau ynghylch cyfrinachedd y bleidlais.
Codwyd sawl mater gweithredol a pholisi ar gyfer eu hystyried ymhellach. Roedd y rhain yn cynnwys:
- amrywiadau mewn amseroedd a thryloywder cyfrif, gan gynnwys achosion lle na ddechreuodd prosesau cyfrif yn ôl y disgwyl neu roedd oedi mewn cyhoeddi canlyniadau heb eglurhad clir, lle’r oedd rhai achosion wedi arwain at sylwebaeth allanol;
- pleidleiswyr wedi drysu mewn perthynas â gofynion adnabod, yn enwedig lle’r oedd rheolau gwahanol yn berthnasol ar draws etholiadau
- ansicrwydd parhaus o ran gwaith cyfathrebu ynghylch pleidleisiau, a oedd yn cynnwys dryswch rhwng llythyrau a chardiau pleidleisio, a’r risg o allgáu digidol;
- delio â phleidleisiau post a oedd yn cael eu dychwelyd i orsafoedd pleidleisio, lle’r oedd y ffurflen yn Lloegr yn feichus o ran gwaith gweinyddol
Cafodd materion a oedd yn dod i’r amlwg yn y lleoliad pleidleisio eu trafod hefyd, a oedd yn cynnwys fflagiau a deunyddiau ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio, a rôl ac ymddygiad arsylwyr yn dilyn y canllawiau a ddiweddarwyd, a’r defnydd o swyddogion diogelwch preifat mewn rhai lleoliadau. Cafodd nifer fach o achosion a ddenodd sylw’r cyfryngau a’r cyhoedd eu hamlygu, a oedd yn cynnwys materion o ran cofrestru pleidiau a chymhwysedd ymgeiswyr, a chaiff y rhain eu hystyried ymhellach drwy weithgarwch ar ôl y bleidlais.
Amlinellwyd y rhaglen adrodd ar ôl y bleidlais, a oedd yn cynnwys adrodd statudol ar etholiadau seneddol Cymru a’r Alban ac adrodd cynlluniedig ar etholiadau lleol Lloegr a chynlluniau peilot. Byddai’r rhaglen hon yn cael ei chefnogi gan raglen ymchwil, a fyddai’n cynnwys arolygon o bleidleiswyr, ymgeiswyr a staff etholiadol, ac mae disgwyl cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddai rhaglen gynharach ar y cynlluniau peilot hefyd yn cael ei chyflawni yn unol â gofynion statudol.
Nodwyd graddfa cyflawni gweithredol sylweddol, ac aethpwyd i’r afael â lefelau uchel iawn o ymgysylltiad rhanddeiliaid, ymholiadau gan y cyhoedd ac ymholiadau gweinyddol o fewn amser tynn. Amlygwyd gwerth trefniadau cydgysylltiedig atgyfnerthiedig â phartneriaid, ar draws gweinyddwyr etholiadol, cyrff plismona a llywodraethau. Mynegodd y Comisiynwyr ddiolch i staff ar draws y sefydliad am eu hymdrechion parhaus wrth gyflawni’r pleidleisiau, a nodwyd y lefelau uchel o gydweithio ar draws timau a’r cymorth a ddarparwyd i gydweithwyr, yn enwedig yn yr Alban.
Gan droi at faterion deddfwriaethol, cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar Fil Cynrychiolaeth y Bobl. Parhaodd ymgysylltu adeiladol â’r Llywodraeth, a chafodd sesiynau briffio’r Comisiynydd eu croesawu gan Seneddwyr yn eu craffu. Tynnwyd sylw at ansicrwydd cynyddol ynghylch yr amserlen ar gyfer Cydsyniad Brenhinol, gyda goblygiadau ar gyfer cynlluniau gweithredu. Roedd cymhlethdod y Bil, yn enwedig o ran cyllid gwleidyddol, rhyngweithiadau â deddfwriaeth ddatganoledig a’r gofyn am Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn her. Roedd cynllunio wrth gefn yn mynd rhagddo yn sgil llai o eglurder ar amseru. Cafodd diwygiadau diweddaru, a oedd yn cynnwys diddymu’r Datganiad Polisi a Strategaeth, eu croesawu. Y tu hwnt i’r Bil, byddai’r Comisiwn yn bwrw ymlaen ymhellach â’r anawsterau a godir o amserlenni gweithredu gwahanol ar draws cenedlaethau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.
Cafodd cynnydd o ran ymateb i’r Adolygiad Rycroft ei drafod. Roedd gwaith ymgysylltu â swyddogion polisi wedi’i gryfhau. Roedd y gwaith o ystyried cyfres lawn yr argymhellion yn mynd rhagddo, gan gynnwys y rhai a oedd yn ymwneud â chylchoedd adrodd a gorfodi, a chafodd sylw ei roi i risgiau dichonoldeb a gweithredu. Byddai ymateb ffurfiol yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Cafodd gweithgarwch sefydliadol ehangach ei drafod. Roedd caffael y system Cyllid Gwleidyddol Ar-lein yn bwrw ymlaen tuag at y camau terfynol. Parhaodd y rhaglen addysgu pleidleiswyr i ehangu ei chyrhaeddiad, ac un ffordd o wneud hynny oedd yr “Wythnos Croeso i Dy Bleidlais” lwyddiannus a lwyddodd i ennyn sylw dros 700,000 o bobl ifanc a 30,000 o addysgwyr a rhanddeiliaid, ac adroddwyd hyder uwch i gyfranogi. Roedd rhaglenni ymchwil ar gyllid gwleidyddol a bygylu ymgeiswyr yn bwrw ymlaen, wrth i ganfyddiadau cynnar ddangos bod gan y cyhoedd bryder cryf ynghylch dylanwad rhoddion mawr a’r agwedd negyddol gynyddol mewn trafodaethau gwleidyddol. Nodwyd cynnydd o ran systemau cyllid a chaffael, gan gynnwys heriau a oedd yn gysylltiedig â phontio cyflenwyr.
Parhaodd y Cadeirydd a’r Tîm Gweithredol â gweithgarwch ymgysylltu allanol ar draws ystod o feysydd a oedd yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau ar Fil Cynrychiolaeth y Bobl a’i weithrediad, cyfrannu at drafodaeth ar gamwybodaeth ac AI, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd academaidd ar iechyd democratiaeth. Roedd trefniadau yn mynd rhagddynt ar gyfer Cynhadledd y Pedair Gwlad, a fyddai’n canolbwyntio ar heriau cyffredin, gan gynnwys cam-drin a bygylu. Roedd disgwyl i gynrychiolwyr o gomisiwn etholiadol Wcráin ymweld eto, ac ystyriwyd y ffordd orau o gefnogi’r rhai sydd yn y DU o ran unrhyw ddigwyddiad etholiadol yn y dyfodol.
2.1 Deddf Hunaniaeth ac Iaith (GI) 2022
Esgusododd Katy Radford ei hun o’r cyfarfod wrth i’r Tîm Gweithredol nodi ei ystyriaeth o’r dull ar gyfer cyfieithu i Wyddeleg. Roedd y safonau’n cael eu datblygu cyn yr ymgynghoriad yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Er nad oedd y Comisiwn wedi’i enwi yn awdurdod cyhoeddus ar hyn o bryd, mabwysiadwyd dull rhagweithiol gydag ymarfer cwmpasu rhanddeiliaid a oedd wedi llywio’r dull arfaethedig. Ystyriodd y Tîm Gweithredol dri chynnig arfaethedig a chefnogon nhw ddull fesul achos ar gyfer ceisiadau cyfieithu. Mae galw hyd yn hyn wedi bod yn gyfyngedig. Cafwyd un cais yn y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod y gall y sefyllfa hon ddatblygu wrth i’r safonau gael eu cyflwyno, a chafodd y defnydd posibl o dechnoleg, gan gynnwys AI, i reoli anghenion a chostau cyfieithu ei drafod hefyd.
Datryswyd: Nododd y Bwrdd y diweddariad gan y tîm gweithredol.
Diweddariadau Cyllid a Pherfformiad
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y diweddariad Ariannol a Pherfformiad hyd at fis Mawrth 2026 a’r papur crynhoi ategol. Ar y cyfan, parhaodd perfformiad yn sefydlog, wrth i’r rhan fwyaf o ddangosyddion barhau ar y trywydd iawn ac adrodd diwedd y flwyddyn gael ei ddatblygu i’w gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol.
Dangosodd y perfformiad ariannol ar gyfer y flwyddyn tanwariant rhagweladwy o £6.5m. Roedd hyn wedi parhau’n eithaf cyson dros y misoedd diwethaf ac roedd yn adlewyrchu cyfuniad o fesurau arbed arian a’r defnydd o gronfeydd wrth gefn a neilltuwyd ar ddechrau’r flwyddyn. Roedd tua hanner y cyfanswm hwn yn gysylltiedig â darpariaeth a gadwyd wrth gefn yn fwriadol, ac roedd y rhan fwyaf o’r balans yn adlewyrchu symudiadau mewn cyllidebau rhwng cyflwyniadau i Gymru a’r Alban ym mis Medi, a San Steffan ym mis Chwefror. Er bod y sefyllfa’n dangos prosesau monitro a rhagweld ariannol gwell, cafodd ei gydnabod bod graddfa’r tanwario yn uwch na’r hyn y byddai’n cael ei ddisgwyl yn y tymor hwy. Cafodd y cyfyngiadau yn sgil gofynion gosod cyllideb yn gynnar ar gyfer cyllid dirprwyedig, a rhai newidiadau mewn dyraniadau cyllid eu cydnabod hefyd.
Roedd gan dri dangosydd perfformiad allweddol berfformiad coch a thrafododd y Bwrdd y rhesymau am hyn. Cafodd ei gydnabod bod dirwyn ymchwiliadau i ben yn amserol yn cael ei ddylanwadu gan ddibynyddion allanol, gan gynnwys cyfranogiad yr heddlu, yn ogystal â phwysau caffael adnoddau. Roedd y cwestiwn ynghylch a oedd y mesurau cyfredol yn cofnodi perfformiad yn briodol wedi’i drafod yn flaenorol, yn enwedig lle defnyddiwyd mesurau llym mewn ardaloedd o weithgarwch cymhleth. Cafodd pwysigrwydd bod yn glir mewn adroddiadau allanol ei bwysleisio, yn enwedig o ystyried yr elfennau sensitif o ran perfformiad gorfodi a’r risgiau cysylltiedig pe byddai’n cael ei ganfod nad yw achosion yn bwrw ymlaen yn amserol.
Cafodd yr ymateb prydlon i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ei drafod gan fod perfformiad yn parhau’n is na’r targed. Roedd yr achosion sylfaenol, a oedd yn cynnwys y cynnydd mewn galw ar rai timau, wedi cael eu nodi. Roedd camau ar waith i fynd i’r afael â hyn, gan gynnwys adnoddau ychwanegol, brysbennu ceisiadau yn well yn seiliedig ar gymhlethdod, a dirprwyo gwell i gefnogi amseroldeb wrth barhau i gydymffurfio. Nodwyd er bod perfformiad yn symud yn y cyfeiriad cywir, nid oedd yn symud ar y cyflymder y gobeithiwyd. Er hynny, cafwyd sicrwydd y gellir disgwyl rhagor o welliannau sylweddol yn ystod y chwarter nesaf.
Cafodd perfformiad portffolio ei adolygu, a chafodd nifer fach o feysydd sgôr coch. Roedd y rhain yn cynnwys gweithgarwch diwygio etholiadol, a gafodd ei oedi gan ddeddfwriaeth, ac un prosiect digidol lle’r oedd heriau recriwtio yn effeithio ar gyflawni. Trafododd aelodau lefel y pryder a oedd yn codi o’r sgorau hyn a chawsant sicrwydd bod dealltwriaeth o’r materion sylfaenol, a’u bod yn cael eu rheoli’n weithredol.
Nodwyd cynnydd ar dwf sefydliadol, wrth i’r cam cyntaf o’r Cynllun Twf gael ei gwblhau’n llwyddiannus ac roedd yn adlewyrchu cynnydd sylweddol mewn nifer, sydd bellach y tu hwnt i 300. Roedd pwyslais yn symud i’r cam nesaf, yn gydnaws â chyflawni’r diwygiadau a fydd yn deillio o Fil Cynrychiolaeth y Bobl.
Cafodd cyflawni’r cynllun archwilio mewnol ei ystyried, yn enwedig yn yr ardaloedd a oedd yn cael sicrwydd cyfyngedig. Cafodd ei gydnabod bod yna gwmpas i wella’r sgorau hyn dros amser, ac roedd disgwyl y dylai perfformiad yn y dyfodol symud tuag at sicrwydd cymedrol lle bo’n briodol. Rhagwelwyd barn archwilio mewnol 'cymedrol' yn y drafft, sy’n cynrychioli cyfeiriad cadarnhaol a gwelliannau o ran sicrwydd.
Datryswyd: Nododd y bwrdd y diweddariad Cyllid a Pherfformiad ac Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Mawrth 2026.
Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol Drafft 2025-26
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol drafft, ac eglurodd fod yr adroddiad blynyddol wedi’i fireinio i ganolbwyntio ar adrodd statudol clir a chryno ac eglurodd y rhannwyd y cyfrifon â’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a oedd yn dechrau ar ei harchwiliad terfynol. Cadarnhaodd yr amserlen i’w gyflwyno i’r Senedd cyn toriad yr haf.
Cyflwynodd y Comisiynwyr sylwadau cadarnhaol ar y cyflwyniad cyffredinol, a nodon nhw fod y drafft yn glir, yn fwy cryno ac wedi’i gydbwyso’n briodol, ynghyd â myfyrio gonest ar y cyflawniadau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Codwyd sawl pwynt i’w mireinio, a oedd yn cynnwys cryfhau cyfeiriadau at ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd, sicrhau eglurder wrth gyfeirio at drefniadau ar draws rhannau gwahanol o’r DU a chynnal arddull gryno drwyddi draw.
Awgrymwyd y dylai’r adroddiad egluro’r meysydd sy’n tanberfformio yn fwy clir, yn enwedig o ran amserlenni ymchwilio a pherfformiad ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth er mwyn darparu rhagor o dryloywder i randdeiliaid. Amlygwyd y Comisiynwyr hefyd bwysigrwydd cynnwys naratif clir ar y tanwariant diwedd blwyddyn, gan nodi ei brif ysgogwyr, a oedd yn cynnwys cronfeydd wrth gefn, moddau effeithlon a recriwtio arafach, ac egluro’r sefyllfa ariannu. Awgrymwyd hefyd y gellid cydnabod Comisiynwyr sy’n gadael a chroesawu aelodau newydd yn y rhagair.
Adroddodd rai Comisiynwyr broblemau gyda chyrchu’r adroddiad drafft a chytunwyd y byddai hwn yn cael ei rannu drwy e-bost a sylwadau i’w cyflwyno erbyn diwedd yr wythnos.
Datryswyd: Cymeradwyodd y Bwrdd y negeseuon allweddol a oedd yn yr adroddiad blynyddol, yn amodol ar ddarparu rhagor o sylwadau, a nododd nifer fach o feysydd lle y dylid datblygu naratif ychwanegol cyn y drafft nesaf.
Adolygiad blynyddol o gwynion
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu yr adroddiad blynyddol, a oedd yn egluro bod gwelliannau yn amlwg yn dilyn cyflwyno dull diwygiedig o ddelio â chwynion. Roedd nifer y cwynion yn parhau’n isel ac yn sefydlog, ac roedd ymatebion yn cael eu darparu o fewn amser targed, sy’n adlewyrchu dull mwy strwythuredig a mwy cyson. Cafodd cyfraniad y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid o ran cryfhau a phroffesiynoli’r broses ei gydnabod.
Cafodd un gŵyn ei chynnal yn ystod y flwyddyn, a chafodd dysg glir ei nodi a’i gwreiddio o fewn y tîm gorfodi. Cafodd ei gydnabod bod newidiadau i ddull yn cyfyngu ar allu i gymharu o un flwyddyn i’r llall, ac roedd y nifer fach o gwynion yn gwneud nodi tueddiadau cyson yn anodd.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys achosion lle fynegwyd anfodlonrwydd ond nid oeddent yn bodloni’r trothwy ar gyfer cwynion ffurfiol. Cafodd y rhain eu cydnabod fel dangosyddion cynnar defnyddiol o deimladau pleidleiswyr, ac mae disgwyl i themâu lywio proses adrodd ar ôl y bleidlais.
Trafododd Comisiynwyr sut y cafodd cwynion ac adborth ehangach eu cofnodi a’u rhannu yn fewnol, gan gytuno y dylai’r adroddiad barhau i ganolbwyntio ar gwynion, ond bod gwerth mewn ystyried sut y gallai’r adborth ehangach gael ei gynnwys yn y dyfodol.
Am y tro cyntaf, roedd yr adroddiad yn cynnwys cwynion a wnaed i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Cafodd hyn ei ystyried yng nghyd-destun yr heriau perfformio a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod.
Datryswyd: Nododd y Bwrdd yr adroddiad blynyddol ar gwynion a chafodd ei sicrhau gan y camau sydd ar waith i fynd i’r afael â’r materion a godwyd.
Llywodraethu a materion gweithdrefnol
Nododd y Bwrdd y gymeradwyaeth, drwy benderfyniad electronig ar 9 Ebrill 2026, ar gyfer y penderfyniad i amddiffyn ymgyfreitha drwy adolygiad barnwrol mewn perthynas â chanllawiau statudol y Comisiwn ar gyfrifoldebau cyfreithiol Swyddogion Canlyniadau i alluogi pleidleiswyr dall a rhannol ddall i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg adroddiad blynyddol y Pwyllgor. Roedd cynnydd amlwg wedi cael ei wneud ar draws nifer o feysydd yn ystod y flwyddyn. Roedd trefniadau archwilio mewnol wedi cryfhau, a gwelliannau o ran prosesau a sicrwydd. Cafodd gwelliannau ehangach hefyd eu hamlygu mewn prosesau rhagweld a chynllunio ariannol, rheoli risg a chaffael, gan gynnwys goruchwyliaeth gryfach o brosesau rheoli cyflenwyr a chontractau. Cafodd gwerth dadansoddiadau manwl ei bwysleisio o ran darparu ffordd effeithiol o gryfhau sicrwydd, yn enwedig mewn perthynas â phrosiectau.
Mynegodd y Bwrdd hyder yng ngweithrediad y Pwyllgor a lefel y craffu a oedd yn cael ei chymhwyso. Mynegwyd diolch i’r Cadeirydd blaenorol, Arglwydd Gilbert o Bant-teg, am ei gyfraniad sylweddol o ran llywio dull ac agwedd y Pwyllgor, ac i Paul Redfern am ei wyth mlynedd o wasanaeth fel y Cynghorydd Annibynnol, gan gynnwys ei ymrwymiad, ei arbenigedd a’i gefnogaeth barhaus yn ystod cyfnod o newid sylweddol.
Nododd y bwrdd yr Adroddiad Blynyddol gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a chafodd ei sicrhau gan oruchwyliaeth y Cwmni o effeithiolrwydd llywodraethu, rheoli risg a dulliau rheoli mewnol.
Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth adroddiad blynyddol y Pwyllgor, gan fyfyrio ar flwyddyn gynhyrchiol lle’r oedd y Pwyllgor wedi parhau i ddatblygu ei ddull a’i effeithiolrwydd. Cafodd y Pwyllgor gefnogaeth dda gan gydweithwyr o’r tîm Gweithredol, ac roedd aelodau’n gallu ymgysylltu’n adeiladol, a gofyn cwestiynau heriol mewn ffordd agored a chydweithredol. Sefydlwyd blaenraglen waith glir, ac roedd hyder yng nghynlluniau’r dyfodol a gallu’r Comisiynydd i gyflawni ei flaenoriaethau.
Mynegodd y Comisiynwyr eu diolch i’r Cadeirydd am ddod â’r Pwyllgor ynghyd yn effeithiol dros y flwyddyn, gan nodi’r cyfraniad sylweddol a wnaed yn ystod cyfnod prysur.
Nododd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol gan y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth a chafodd ei sicrhau gan graffu manwl y Pwyllgor ar ei ran.
Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2026, gan nodi eu bod yn gywir.
Nododd y Bwrdd y diweddariad ar y camau heb eu cymryd o gyfarfod y Bwrdd ym mis Medi i Gomisiynydd Cymru rannu’r gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor ar AI a’r Gymraeg gyda’r Comisiwn.
Nododd y Bwrdd y flaenraglen fusnes ar gyfer 2026-27.
Nododd y Bwrdd yr adroddiad blynyddol ar y buddiannau perthnasol a ddatganwyd gan y Comisiynwyr yn 2025-26. Roedd yr adroddiad wedi ysgogi aelodau i naill ai godi buddiannau ychwanegol neu i gywiro’r cofnod, a fyddai’n cael ei adlewyrchu ar y gofrestr.
Daeth y cyfarfod i ben am 12.54 pm heb unrhyw fater arall.
Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf
Cadarnhawyd mai 16 Mehefin 2026 oedd dyddiad y cyfarfod nesaf, wyneb yn wyneb yn y Pierhead, Caerdydd