Paneli pleidiau
About our party panels
Mae gennym bedwar panel pleidiau, sy'n cynrychioli gwahanol ardaloedd y DU. Mae'r paneli hyn yn rhoi cyfle i'r pleidiau gwleidyddol sôn wrthym am unrhyw faterion sy'n effeithio arnynt.
Mae pob un o'r paneli'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn fel rheol, ond gallant gyfarfod yn fwy neu'n llai aml os oes angen.
Panel Pleidiau Seneddol
Mae gan y Panel Pleidiau Seneddol gynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol seneddol sydd â dau neu ragor o Aelodau Seneddol cyfredol.
Ar hyn o bryd, mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r pleidiau canlynol:
- Y Blaid Geidwadol
- Y Blaid Lafur
- Plaid Genedlaethol yr Alban
- Y Democratiaid Rhyddfrydol
- Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
- Plaid Cymru
Cofnodion y cyfarfod
Darllenwch y cofnodion llawn ar gyfer:
Panel Pleidiau Cynulliad Gogledd Iwerddon
Mae gan Banel Pleidiau Cynulliad Gogledd Iwerddon gynrychiolwyr o'r pleidiau gwleidyddol sy'n rhan o Gynulliad Gogledd Iwerddon.
Ar hyn o bryd, mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r pleidiau canlynol:
- Sinn Fein
- Y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a Llafur
- Y Blaid Unoliaethwyr Democrataidd
- Plaid Unoliaethwyr Ulster
- Cynghrair a'r Blaid Werdd
Cofnodion y cyfarfod
Darllenwch y cofnodion llawn ar gyfer:
Panel Pleidiau Senedd yr Alban
Mae gan Banel Pleidiau Senedd yr Alban gynrychiolwyr o bleidiau gwleidyddol Senedd yr Alban.
Ar hyn o bryd, mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r pleidiau canlynol:
- Plaid Genedlaethol yr Alban
- Plaid Llafur yr Alban
- Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban
- Plaid Werdd yr Alban
- Plaid Geidwadol yr Alban
Cofnodion y cyfarfod
Darllenwch y cofnodion llawn ar gyfer:
Panel Pleidiau Senedd Cymru
Mae gan Banel Pleidiau Senedd Cymru gynrychiolydd o bob un o bleidiau gwleidyddol y Senedd sydd â dau neu ragor o Aelodau Senedd cyfredol.
Ar hyn o bryd, mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r pleidiau canlynol:
- Llafur Cymru
- Plaid Cymru
- Y Ceidwadwyr Cymreig
- Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Cofnodion y cyfarfod
Darllenwch y cofnodion llawn ar gyfer: