Cofnodion: Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru 11 Hydref 2018

Crynodeb

Dyddiad: 11 Hydref 2018

Pwy oedd yn y cyfarfod

  • Colin Everett, Cadeirydd (CE) - Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Gogledd Cymru
  • Christine Ayres (CA) - Llywodraeth Cymru
  • Claire Bassett (CB) - Prif Weithredwr, Comisiwn Etholiadol
  • Gareth Chapman (GC) - Dirprwy ar ran Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Dwyrain De Cymru
  • Elan Closs Stephens (ECS) - Comisiynydd Etholiadol, Cymru
  • Anna Daniel (AD) - Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Paul Docker (PD) - Swyddfa'r Cabinet
  • Rhys George (RG) - Cadeirydd, AEA Cymru
  • Mark James (MJ) - Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Gorllewin De Cymru
  • Glynne Morgan (GM) - Is-gadeirydd, AEA Cymru
  • Angharad Thomas-Richards (ATR) - Llywodraeth Cymru
  • Christine Salter (CS) - Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Canol De Cymru
  • Catherine Uphill (CU) - Comisiwn Etholiadol
  • Laura Ward (LW) - Comisiwn Etholiadol
  • Sian Williams (SW) - Llywodraeth Cymru
  • Gwestai:

  • Elin Jones AC (EJ) - Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Elin Roberts - Cynghorydd Arbennig

  • Will Godfrey Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Dwyrain De Cymru
  • Bronwen Morgan Cadeirydd, Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg
  • Rhydian Thomas Pennaeth, Comisiwn Etholiadol, Cymru

Gwaith gweinyddol y cyfarfod

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol (30/05/18) fel cofnod cywir.

Eglurodd CU fod y rhan fwyaf o'r camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol wedi'u cwblhau a bod tri ohonynt yn mynd rhagddynt o hyd.

Byddai Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) yn cael ei drafod yn y cyfarfod heddiw, gwahoddwyd cynrychiolydd o BCEC i ddod i gyfarfod nesaf Bwrdd Cynghori Cymru ar 28 Tachwedd 2018 ac roedd y Comisiwn Etholiadol wedi diwygio ei ganllawiau ar Swyddogion Canlyniadau yn penodi dirprwyon ond nid oedd wedi llwyddo i greu llythyr templed ar gyfery broses.

Cam gweithredu: Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol i enwi cynrychiolydd i fynd i gyfarfod Bwrdd Cynghori Cymru ar 28 Tachwedd 2018

Cam gweithredu: CE i greu fersiwn ddrafft o dempled ar gyfer llythyr penodi

Dirprwy Swyddogion Canlyniadau i Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ei dosbarthu i Swyddogion Canlyniadau yn eu rhanbarth

Estynnodd ECS longyfarchiadau i CU ar gael ei phenodi'n ddiweddar yn Rheolwr y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru.

Cyflwyniad gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones AC, ar ddiwygiadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rhoddodd EJ y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru).

Byddai'r Bil yn newid enw'r ddeddfwrfa i Senedd Cymru, yn gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 oed, yn diwygio'r gyfraith o ran anghymhwyso unigolion rhag bod yn Aelod Cynulliad ac yn gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad. Roedd Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu i'r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith erbyn 2021.

Câi'r Bil ei gyflwyno ym mis Ionawr 2019 ac wedyn, byddai'n ddarostyngedig i waith craffu gan un o bwyllgorau'r Cynulliad a fyddai'n
ystyried y cynigion ac yn awgrymu diwygiadau cyn cyflwyno pleidlais derfynol ger bron y 60 Aelod. Y disgwyl oedd y ceid Cydsyniad Brenhinol erbyn mis Ionawr 2020. 

Cynigiwyd y dylid creu etholfraint ddomestig gyffredin ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, gallai'r Bil llywodraeth leol gynnwys rhai darpariaethau nad oeddent wedi'u cynnwys ym Mil y Cynulliad, er enghraifft, ehangu'r etholfraint i ddinasyddion tramor sy'n preswylio yng Nghymru a chynnig pleidlais i garcharorion.

Byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ystyried cynnig pleidlais i garcharorion yn ystod y flwyddyn nesaf ac yn rhoi arweiniad yn hyn o beth.

Roedd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad wedi argymell cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad ac y dylid eu hethol drwy wahanol system etholiadol. Fodd bynnag, ni châi hyn ei gynnwys yn ystod cam cyntaf y ddeddfwriaeth. Pe ceid consensws ar y mater hwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, gellid cyflwyno deddfwriaeth er mwyn ei roi ar waith ar gyfer etholiadau 2021 neu 2026.

Gofynnodd RG am y cynnig yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i ganiatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu
unigolion o bob oed yn awtomatig at y cofrestri llawn o etholwyr llywodraeth leol lle roedd y Swyddogion Cofrestru Etholiadol o'r farn eu
bod yn meddu ar yr holl wybodaeth angenrheidiol i wneud hynny.

Rhoddodd Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 arweiniad i SwyddogionCofrestru Etholiadol yn Lloegr iddynt allu gorfodi sefydliadau addysg uwch i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol. Fodd bynnag, nid oedd gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru yr un galluoedd. Byddai cofrestru awtomatig yn anodd yng Nghymru o dan y trefniadau presennol.

Dywedodd ATR fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y trefniadau yn y ddau Fil. Byddai'r mater hwn yn cael ei nodi a châi opsiynau ymarferol o ran gorfodi eu hystyried. Os nad oedd hyn yn bosibl, byddent yn ystyried ffyrdd o weithio gyda sefydliadau addysg uwch i sicrhau bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cael y wybodaeth angenrheidiol.

Dywedodd CE y byddai cysondeb ledled Cymru yn bwysig mewn perthynas â'r mater hwn ac y byddent yn gofyn am gymorth gan
Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol yn hyn o beth.

Dywedodd GM ei fod yn croesawu trefniadau cofrestru awtomatig ond nododd eu bod yn mynd yn groes i egwyddor cyfrifoldeb unigol o dan drefniadau Cofrestru Etholiadol Unigol.

Dywedodd EJ y byddai mwy o eglurder ar y mater hwn hefyd o fudd i brifysgolion yng Nghymru.

Tynnodd RG sylw at y potensial ar gyfer gwahanol etholfreintiau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Er mwyn gwneud hyn, byddai angen gwneud newidiadau i'r systemau meddalwedd ar gyfer rheoli etholiadau. Gofynnodd p'un a fyddai
Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chyflenwyr y feddalwedd fel y gwnaeth Swyddfa'r Cabinet
wrth gyflwyno'r trefniadau Cofrestru Etholiadol Unigol. Ychwanegodd y byddai angen arian hefyd er mwyn datblygu'r feddalwedd.

Dywedodd CU y byddai angen hyfforddi gweinyddwyr etholiadol ac y byddai'r amser a fyddai ar gael i wneud hyn yn brin.

Nododd GM mai canfasiad blynyddol 2020 oedd y canfasiad pwysig ar gyfer etholiadau mis Mai 2021 a bod diwygiadau yn cael eu cyflwyno ledled y DU ar gyfer y canfasiad hwnnw.

Ychwanegodd CB y byddai'r diwygiadau hyn i ganfasiadau hefyd yn cael effaith ar argaeledd cyflenwyr meddalwedd.

Eglurodd PD fod Swyddfa'r Cabinet wedi rhoi cynlluniau peilot ar waith i ystyried sut y gellid cynnal y canfasiad mewn ffordd wahanol. Ar hyn o bryd, roedd y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol wario llawer o adnoddau yn cysylltu â'r nifer fach olaf o unigolion nad oeddent wedi ymateb yn ystod canfasiad. Roedd y cynlluniau peilot wedi ystyried ffyrdd o gynnal canfasiad llai manwl. O ganlyniad, gallai rhai o'r prosesau ar gyfer canfasiad 2020 newid, gan roi cyfle i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnal y canfasiad mewn gwahanol ffyrdd.

Dywedodd CB y gallai'r newidiadau hyn gynnwys defnyddio data mewn gwahanol ffyrdd ac y gellid eu cysylltu â'r trefniadau cofrestru awtomatig.

Dywedodd ATR efallai na fyddai'r diwygiadau i'r trefniadau canfasio yn cael eu cyflwyno yng Nghymru yn 2020. Efallai na fyddai'n ddoeth cyflwyno'r newidiadau hyn ar yr un pryd â newidiadau i'r etholfraint.

Ychwanegodd GM ei bod yn bwysig sicrhau na fyddai'r diwygiadau i'r trefniadau canfasio yn cael effaith negyddol ar y cofrestri etholiadol yng

Nghymru cyn y diwygiadau etholiadol. 

Pleidleisio'n 16 oed

Dywedodd GM ei fod ef ac Ian Westley wedi mynychu seminar y Comisiwn Etholiadol ar Bleidleisio'n 16 oed, a gynhaliwyd yn ystod
wythnos yr Eisteddfod. Roeddent wedyn wedi gwahodd cynrychiolwyr o wahanol adrannau cynghorau a'r Comisiwn Etholiadol i ddod i un o
gyfarfodydd Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro i drafod sut y gellid cynnwys pobl ifanc yn y broses o ostwng yr oedran pleidleisio.

Roedd y Cynulliad Ieuenctid wedi penderfynu y dylai gymryd rhan a'i bodyn bwysig ymgysylltu â phobl ifanc 14+ oed yn hytrach na phobl ifanc 16+ oed. Roedd o'r farn mai'r ffordd orau o wneud hyn fyddai drwy wybodaeth ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, grwpiau ieuenctid a thrwy benodi

Hyrwyddwyr Pleidleisio a Democratiaeth mewn ysgolion. Gofynnodd i gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol ddod i'w
gyfarfod nesaf.

Cam gweithredu: Cynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol a Llywodraeth Cymru i fynd i gyfarfod Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro ar Bleidleisio'n 16 oed

Cam gweithredu: GM i roi rhagor o wybodaeth am waith Sir Benfro ar Bleidleisio'n 16 oed yng nghyfarfod nesaf BCEC

Dywedodd CE y dylid cynnal ymgyrch genedlaethol ar gyfer Pleidleisio'n 16 oed gan ganolbwyntio ar gofrestru etholiadol a chyfranogiad
pleidleiswyr. Roedd hyn yn gyfle i gynnwys pobl ifanc mewn democratiaeth yn gyffredinol, ac nid dim ond mewn perthynas â chofrestru
etholiadol.

Dywedodd AD ac ATR fod gwaith wedi dechrau er mwyn nodi rhanddeiliaid allweddol, y cwestiynau allweddol i'w gofyn a phwy fyddai yn
y sefyllfa orau i gefnogi'r gwaith hwn. Byddent yn ystyried sut i helpu i gyflwyno Pleidleisio'n 16 oed ym mhob awdurdod lleol a sut i gyfleu neges a fyddai o bosibl yn neges gymhleth. Cynhaliwyd trafodaethau hefyd gyda chymheiriaid yn yr Alban. Byddai gwahoddiadau i weithdy ym mis Ionawr yn cael eu hanfon at bob Swyddog Cofrestru Etholiadol, grwpiau â diddordeb a rhanddeiliaid eraill yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

Dywedodd CU ei bod wedi gofyn i'r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol cyn y cyfarfod am wybodaeth am waith ymgysylltu â phobl ifanc yn eu hardal. Roedd Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno adborth a gâi ei ddosbarthu i aelodau BCEC.

Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i ddosbarthu gwybodaeth gan Gyngor

Bro Morgannwg am waith ymgysylltu â phobl ifanc yn ei ardal i aelodau BCEC 

Adnoddau BCEC

Cynllun mentora a sefydlu Swyddogion Canlyniadau

Rhoddodd MJ y wybodaeth ddiweddaraf am gynllun mentora a sefydlu Swyddogion Canlyniadau. Roedd pob Swyddog Canlyniadau newydd wedi cael ei baru â mentor. Nodwyd bwlch yn yr hyfforddiant sydd ar gael i Swyddogion Canlyniadau newydd heb unrhyw brofiad blaenorol o etholiadau. Cynigiodd y gallai BCEC gynnal hyfforddiant cymhwysedd craidd unwaith y flwyddyn i Swyddogion Canlyniadau sy'n newydd i'r rôl.

Gellid cynnig yr hyfforddiant hwn hefyd i Swyddogion Canlyniadau newydd yn Lloegr. Byddai'r hyfforddiant yn cynnwys cynllunio senarios a
phrofiadau go iawn.

Dywedodd CE, fel aelod o'r Bwrdd Cynghori ar Gydlynu Etholiadau, ei fod wedi bod yn rhan o'r gwaith o gymedroli perfformiad Swyddogion 

Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn erbyn safonau'r Comisiwn Etholiadol. Fel rhan o'r gwaith hwn, roedd yn ymwybodol o
wallau a fu wrth gynnal etholiadau ac awgrymodd y gallai seminar hyfforddi ystyried yr achosion hyn ac ystyried sut y gellid bod wedi'u
hosgoi.

Dywedodd PD fod Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol hefyd yn darparu hyfforddiant i Swyddogion Canlyniadau ac y byddai Swyddfa'r
Cabinet hefyd yn fwy na pharod i gymryd rhan mewn unrhyw seminarau yn y dyfodol.

Cam gweithredu: CE, MJ a CU i drefnu rhaglen hyfforddiant ar gyfer Swyddogion Canlyniadau newydd

Adnodd asesu gallu ac adnoddau

Dywedodd CE fod yr adnodd hwn yn ddefnyddiol ac y dylai Swyddogion

Canlyniadau Rhanbarthol annog Swyddogion Canlyniadau i'w ddefnyddio.

Cam gweithredu: Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol i hyrwyddo'r adnodd Asesu Gallu ac Adnoddau ac i annog Swyddogion Canlyniadau yn eu rhanbarth i'w gwblhau

Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol

Dywedodd ATR fod y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) bellach ar ei ffurf ddrafft ac y byddai ar gael maes o law i'w rannu â BCEC. Byddai Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn ehangu'r etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys.

Roedd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i oblygiadau ymarferol cynnig pleidlais i garcharorion a byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried
canlyniadau gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Byddai'r systemau ar gyfer ehangu'r etholfraint hon wedi'u
cynnwys i raddau helaeth o fewn Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) yn hytrach na Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Cam gweithredu: Llywodraeth Cymru i ddosbarthu fersiwn ddrafft o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 

Arolwg o Aelodau BCEC

Dywedodd CE y cafwyd 14 o ymatebion i'r arolwg a bod y canlyniadau yn dangos bod gwaith BCEC wedi dechrau'n dda ac y cafwyd awgrymiadau cadarnhaol o ran yr hyn y gellid ei wneud yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys ystyried sut y dylid cyflwyno gwaith BCEC ar sail ehangach.

Cafwyd rhai awgrymiadau diddorol ar gyfer siaradwyr allanol yn y dyfodol a byddai CU yn ychwanegu rhai o'r gweithgareddau a awgrymwyd at y Flaenraglen Waith.

Gofynnodd GC sut y dylid rhaeadru trafodaethau a chamau gweithredu cyfarfodydd BCEC.

Awgrymodd CE y dylai'r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ddosbarthu gohebiaeth gryno gan BCEC yn dilyn pob cyfarfod
Cam gweitheredu: Y Comisiwn Etholiadol i ddrafftio nodyn briffio ar y pwyntiau trafod allweddol o bob cyfarfod er mwyn i'r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol raeadru'r wybodaeth i Swyddogion Canlyniadau yn eu rhanbarth. 

Y wybodaeth ddiweddaraf

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiwn Etholiadol

Cyflwynodd CU y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiwn Etholiadol.

Roedd CU a Rhydian Thomas wedi cyfarfod â phedwar o'r Swyddogion Canlyniadau newydd a benodwyd yn ddiweddar a byddent yn cyfarfod â'r pumed ym mis Tachwedd. Roedd sawl un o'r Swyddogion Canlyniadau wedi gofyn p'un a oes unrhyw hyfforddiant ar gael yn ychwanegol at y pecyn mentora.

Roedd y Comisiwn wedi cynnal seminar ar Bleidleisio'n 16 oed yn ystod yr Eisteddfod gyda'r Llywydd, Elin Jones AC. Byddai'r seminar nesaf yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon ar 15 Tachwedd a byddai'n ystyried cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Byddai seminar yn cael ei chynnal ym mis Ionawr hefyd lle y byddai Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol yn sôn am gyflwr ein democratiaeth.

Ym mis Tachwedd, byddai'r Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad ar y ddeiseb adalw yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd prosiect Moderneiddio Cofrestru Etholiadol y Comisiwn yn mynd rhagddo'n dda ac roedd yr astudiaeth ddichonoldeb ar sut y gallai

Swyddogion Cofrestru Etholiadol wneud gwell defnydd o ffynonellau data (nad ydynt yn lleol) wedi'i chwblhau. Roedd y Comisiwn yn ymhelaethu ar yr astudiaeth hon drwy ystyried meysydd diwygio eraill, gan gynnwys dichonoldeb integreiddio trefniadau cofrestru etholiadol mewn trafodion eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus a systemau cofrestru wedi'u hawtomeiddio fwy neu wedi'u galluogi fwy. Dylid cwblhau'r astudiaethau dichonoldeb erbyn diwedd y flwyddyn a chaiff y canfyddiadau eu rhannu â BCEC.

Byddai'r Comisiwn yn ymateb i ddatganiad polisi Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar ddiwygio trefniadau
canfasio yn 2020. Bwriad y diwygiadau arfaethedig oedd galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i dargedu eu hadnoddau yn fwy effeithiol. Roedd y cynigion yn cynnwys defnyddio dulliau paru data ar ddechrau'r canfasiad er mwyn nodi eiddo lle roedd y deiliaid yn debygol o barhau yr un fath. Yn yr achosion hyn, byddai'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn gallu cynnal canfasiad llai manwl.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg

Dywedodd CU fod y Rhestr Termau Etholiadol a luniwyd gan y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg wedi cael adborth cadarnhaol iawn.

Roedd y Grŵp wedi ysgrifennu i'r Post Brenhinol am y diffyg cynnyrch MailMark dwyieithog ond nid oedd wedi cael ymateb eto. Roedd
adolygiad o ffurflenni i bleidleiswyr yn mynd rhagddo ac roedd y Grŵp Cynghori yn gweithio gyda Swyddfa'r Cabinet i sicrhau y câi'r newidiadau eu cynnwys mewn deddfwriaeth.

Cam gweithredu: Dosbarthu dyddiadau digwyddiadau arfaethedig 

Digwyddiadau etholiadol posibl a heb eu trefnu

Cafwyd trafodaeth ar gynllunio wrth gefn ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.

Cam gweithredu: Gareth Chapman i ddarparu gwybodaeth i'r Comisiwn Etholiadol am faterion trawsffiniol Merthyr Tudful

Unrhyw fater arall

Awgrymodd ECS y dylid gwahodd y Fonesig Sue Bruce, Comisiynydd Etholiadol yr Alban, i'r cyfarfod ym mis Ionawr er mwyn rhannu profiadau o ran Pleidleisio'n 16 oed yn yr Alban. 

Cam gweithredu: Gwahodd y Fonesig Sue Bruce (Comisiynydd Etholiadol yr Alban) i ddod i gyfarfod BCEC ym mis Ionawr i drafod profiadau o ran Pleidleisio'n 16 oed yn yr Alban

Atgoffodd CU yr aelodau mai drannoeth oedd y dyddiad olaf ar gyfer ymateb i bapur y Comisiwn ar gyngor i ddinasyddion o'r UE sy'n awyddus i bleidleisio yn Etholiadau Senedd Ewrop yn 2019.

Atgoffodd LW yr aelodau mai 31 Hydref oedd y dyddiad olaf ar gyfer ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn ar ei gynllun arsylwyr etholiadol.

Dywedodd PD fod Swyddfa'r Cabinet yn ystyried pa Swyddogion Canlyniadau Ardaloedd yr Heddlu oedd yn eu swydd o hyd ers etholiadau
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2016 a'i bod yn dechrau paratoi ar gyfer proses benodi 2020. Ni chafodd awdurdodau lleol yng Nghymru gyfle i gymryd rhan yn y cynllun peilot prawf adnabod yn 2019, ond awgrymodd o bosibl y dylid cynnig cynrychiolydd o Gymru ar gyfer y grŵp cyfeirio.

Mae Swyddfa'r Cabinet yn gofyn am sylwadau ar newidiadau arfaethedig i'r gyfraith etholiadol wedi'u hanelu at wella trafodaethau gwleidyddol yn ei hymgynghoriad "Protecting the Debate: Intimidation, Influence and Information”. Y dyddiad cau yw 28 Hydref.

Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i ddosbarthu dyddiadau posibl ar gyfer cyfarfod mis Ionawr