Cofnodion: Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru 5 Mawrth 2018
Cofnodion: Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru 5 Mawrth 2018
Dyddiad: 5 Mawrth 2018
Pwy oedd yn y cyfarfod
- Colin Everett, Cadeirydd (CE) - Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Gogledd Cymru
- Christine Ayres (CA) - Llywodraeth Cymru
- Elan Closs Stephens (ECS) - Comisiynydd Etholiadol Cymru
- Frank Cuthbert (FC) - Llywodraeth Cymru
- Anna Daniel (ADan) - Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Rhys George (RG) - Cadeirydd AEA Cymru
- Will Godfrey (WG) - Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru
- Bronwen Morgan (BM) - Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar
- Ddeddfwriaeth Gymraeg
- Lauren Morrison (LM) Llywodraeth Cymru
- Christine Salter (CS) Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol
- Canol De Cymru
- Rhydian Thomas (RT) Comisiwn Etholiadol
- Catherine Uphill (CU) Comisiwn Etholiadol
- Laura Ward (LW) Comisiwn Etholiadol
- Ian Westley (IW) Swyddog Canlyniadau Sir Benfro,
- (yn dirprwyo ar ran Swyddog
- Canlyniadau Rhanbarthol Canolbarth
- a Gorllewin Cymru)
- Angharad Thomas-Richards (ATR) Llywodraeth Cymru
Gwestai:
- Alun Davies AC (ADav) - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Paul Docker
- Mark James (Ian Westley yn bresennol fel Dirprwy)
- Glynne Morgan
Gwaith Gweinyddol y Cyfarfod
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol (9 Tachwedd 2017) fel cofnod cywir.
Roedd pob cam gweithredu o'r cyfarfod hwnnw wedi cael ei gyflawni a'i ystyried yn y Flaenraglen Waith.
Cylch Gorchwyl BCEC
Esboniodd RT fod y newidiadau canlynol wedi cael eu gwneud i'r cylch gorchwyl yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod ym mis Tachwedd:
- Gwahaniaethu rhwng aelodau a chynghorwyr
- Ychwanegu mentora a chymorth ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Rheolwyr
- Gwasanaethau Etholiadol at yr amcanion
- Ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ddynodi dirprwy i fynychu cyfarfodydd ar eu rhan lle bo angen
Awgrymodd RT nad oedd angen i'r dirprwy fod o'r un rhanbarth ac y dylai fod gan Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol hawl i fod yn bresennol fel cynrychiolydd ychwanegol petaent yn dymuno gwneud hynny.
Cytunodd y Bwrdd ar y cylch gorchwyl diwygiedig.
Cam gweithredu: Cyhoeddi'r cylch gorchwyl diwygiedig ar wefan y Comisiwn Etholiadol
Sefydlu a Mentora Swyddogion Canlyniadau a Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol
Dosbarthodd CU gopïau o'r canllaw mentora a fyddai'n cael ei anfon at Swyddogion Canlyniadau/Swyddogion Cofrestru Etholiadol sydd newydd gael eu penodi. Byddai mentor, sef Swyddog Canlyniadau profiadol, yn cael ei neilltuo i'r sawl a benodir, a bydd cyfarfod gydag MJ ac RT yn cael ei gynnig iddo hefyd. Y bwriad oedd lansio'r canllaw yn dawel.
Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i anfon nodyn briffio / datganiad i'r wasg i sefydliadau perthnasol ynglŷn â lansio'r cynllun sefydlu a mentora
Dywedodd CU fod Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru wedi trafod y cynllun sefydlu a mentora yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr a'i fod o'r farn y byddai'n ddefnyddiol ymestyn y cynllun i gynnwys Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol newydd.
Dywedodd RT fod Swyddogion Canlyniadau newydd wedi cael eu penodi'n ddiweddar a bod mentoriaid wedi cael eu nodi ar eu cyfer.
Dywedodd CE nad oedd unrhyw beth yn atal Swyddogion Canlyniadau rhag penodi Dirprwy ac y dylid eu hannog i wneud hynny. Hefyd, dylai cynghorau ystyried hyn wrth benodi/sefydlu Swyddogion Canlyniadau newydd. Cytunodd y Bwrdd y byddai hyn yn gwneud y broses yn fwy cydnerth a chadarn.
Dywedodd RT ei fod yn teimlo y gallai canllawiau'r Comisiwn Etholiadol adlewyrchu hyn yn gliriach ac y byddai'n ymchwilio i ffyrdd o wneud hyn.
Cam gweithredu: BCEC i annog Swyddogion Canlyniadau i benodi dirprwy yn ffurfiol
Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i adolygu'r canllawiau presennol ar benodi Dirprwy Swyddogion Canlyniadau er mwyn annog Swyddogion Canlyniadau i benodi dirprwy yn ffurfiol
Cam gweithredu: CE i gysylltu â'r Swyddogion Canlyniadau newydd yn Wrecsam i esbonio'r cynllun sefydlu a mentora
Cam gweithredu: CE i ddarparu manylion cyswllt ar gyfer y Swyddog Canlyniadau newydd yn Sir Ddinbych
Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i anfon copi o'r canllaw sefydlu a mentora at bob Swyddog Canlyniadau yng Nghymru
Esboniodd CE ei fod wrthi'n llunio arolwg hunanasesu gallu ar gyfer Swyddogion Canlyniadau sy'n ystyried gallu ac olyniaeth. O ganlyniad i gwtogi mewn llywodraeth leol, gall rhai awdurdodau lleol fod wedi colli staff o adrannau eraill a oedd wedi gweithio ar etholiadau. Roedd yr arolwg yn cynnwys asesiad risg a chynllun gweithredu.
Cam gweithredu: Sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot i gwblhau arolwg fel treial
Cam gweithredu: CE i anfon yr arolwg at bob Swyddog Canlyniadau ym mis Ebrill / Mai gan annog pob un i'w gwblhau dros y chwe mis nesaf
Diweddariadau
Y Comisiwn Etholiadol
Dywedodd CU fod y Comisiwn wedi cynnal seminar ym mis Chwefror, sef y gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynlluniwyd i roi llwyfan i bartneriaid drafod democratiaeth a diwygio etholiadol yng Nghymru. Yn y seminar, siaradodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, am ei weledigaeth ar gyfer diwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol.
Dywedodd RT fod y Comisiwn yn bwriadu cynnal rhagor o seminarau yn ystod y flwyddyn ac yr hoffai gynnal digwyddiad ar y cyd â BCEC.
Ar 27 Chwefror, rhoddodd cynrychiolwyr o dimau cyfreithiol, canllawiau, polisi a Chymru y Comisiwn hyfforddiant i gyfreithwyr a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ar waith y Comisiwn a chyfraith etholiadol. Roedd hyn yn gysylltiedig â'r newidiadau arfaethedig i etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Roedd y Comisiwn wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol ac roedd yn paratoi ymatebi ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad, “Creu Senedd i Gymru”.
Yn ddiweddar, roedd y Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad o'r enw Dadansoddi achosion o dwyll etholiadol honedig yn y DU yn 2017.
Cofnododd heddluoedd y DU gyfanswm o 336 o achosion o dwyll etholiadol honedig yn ymwneud â throseddau o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2017. Cyfeiriwyd at ddau achos yng Nghymru yn yr adroddiad.
Roedd y Comisiwn wedi cyhoeddi canllawiau ar Reoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE sy'n dod i rym ar 25 Mai 2018, gan gymryd lle Deddf Diogelu Data 1998. Roedd y Comisiwn wedi llunio taflen ffeithiau a gyhoeddwyd ym Mwletin 208 er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gyflawni eu rhwymedigaethau.
Roedd y cynllun cofrestru'n ddienw wedi cael ei newid i'w gwneud yn haws i'r rhai sydd wedi goroesi camdriniaeth ddomestig gofrestru i
bleidleisio. Roedd y Comisiwn wedi llunio canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer rheolwyr lloches a fyddai'n cael eu cyhoeddi ar y wefan.
Y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg
Dywedodd BM fod blaenoriaethau'r grŵp wedi aros yr un peth a'i fod yn gobeithio cwblhau ei waith erbyn mis Medi. Roedd y Comisiwn Etholiadol yn llunio rhestr gynhwysfawr o dermau yn seiliedig ar ddata ffynhonnell.
Byddai'r Grŵp yn cwrdd eto ar 14 Mawrth.
AEA Cymru
Dywedodd RG fod John Turner wedi ymddeol fel Prif Weithredwr AEA ar 1 Mawrth. Roedd Peter Stanyon wedi ei olynu fel Prif Weithredwr, ac roedd Laura Lock wedi cael ei phenodi'n Ddirprwy.
Roedd Glynne Morgan wedi cytuno i ymgymryd â rôl Is-Gadeirydd cangen Cymru AEA ac roedd Rebecca Light wedi cael ei phenodi'n Gadeirydd rhanbarthol cangen Canol De Cymru. Roedd pob Cadeirydd rhanbarthol arall wedi aros yr un peth.
Cynhaliwyd Cynhadledd AEA ddechrau mis Chwefror, ac roedd diwygio etholiadol yng Nghymru yn uchel ar yr agenda. Rhoddodd Frank Cuthbert brif araith ar y mater hwn a ddenodd gryn dipyn o ddiddordeb gan awdurdodau lleol yn Lloegr a oedd yn awyddus i weld sut roedd diwygio etholiadol yn datblygu yng Nghymru.
Roedd AEA wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yng Nghymru ac roedd wrthi'n penderfynu p'un a oedd am ymateb i ymgynghoriad y Cynulliad Cenedlaethol, “Creu Senedd i Gymru”.
Y Bwrdd Cynghori ar Gydlynu Etholiadau
Dywedodd CE ei fod wedi esbonio yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd Cynghori ar Gydlynu Etholiadau sut mae BCEC a'r rhwydwaith
cenedlaethol yng Nghymru yn rhoi cymorth a chyngor ac yn cydweithio.
Roedd hefyd wedi rhoi gwybod i'r Bwrdd am y cynllun mentora a'r broses hunanasesu gallu i Swyddogion Canlyniadau a oedd wrthi'n cael eu datblygu, ac roedd y naill a'r llall wedi ennyn cryn ddiddordeb.
Trafodaeth baratoadol ar gyfer eitem 6
Nododd CE sut y gallai BCEC helpu gyda rhaglen diwygio etholiadol Llywodraeth Cymru.
Awgrymodd mai rôl BCEC fyddai datblygu newidiadau o ran polisi ac ymarfer etholiadol, cynnal asesiad risg arnynt, eu cynllunio, eu profi a'u gwerthuso. Dim ond pan fo rhywbeth cadarn a phwrpasol i'w ystyried y gellid gwneud hyn, a gallai'r Bwrdd roi cyngor ar syniadau a chysyniadau polisi heb eu datblygu ond ni allai weithredu arnynt.
Tri maes blaenoriaeth lle y gallai BCEC helpu fyddai:
- Ehangu'r etholfraint
- Datblygu cofrestr i Gymru gyfan
- Pleidleisio ar benwythnos neu dros fwy nag un diwrnod
Cytunodd y Bwrdd ei bod yn werth ystyried y meysydd hyn ymhellach a'u bod yn cy
Cyflwyniad gan Alun Davies AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar Gynlluniau ar gyfer Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru
Dywedodd ADav fod Llywodraeth Cymru yn gobeithio bod mewn sefyllfa i gyhoeddi Bil tua diwedd yr hydref a chael Cydsyniad Brenhinol o bosibl ym mis Tachwedd 2019. Ar ôl i'r broses ddeddfwriaethol gael ei chwblhau, byddent yn ystyried y canllawiau a'r rheoliadau sydd eu hangen. Byddai Pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am gyngor a sylwadau ar y ddeddfwriaeth cyn ei chyhoeddi ac yn gwahodd pobl i ddod i roi tystiolaeth.
Ychwanegodd fod seminar y Comisiwn Etholiadol a gynhaliwyd ym mis Chwefror wedi bod yn gyfle da i drafod rhai o'r materion a thynnu sylw at y ffaith mai edrych ar yr etholfraint fyddai'r flaenoriaeth. Byddai materion eraill, fel pleidleisio ar ddiwrnodau gwahanol neu ar benwythnos a chyfrif electronig, yn cael eu hystyried wedyn.
O ran yr etholfraint, nododd fod cofrestr electronig yn arwain at bosibiliadau eraill. Byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried pwy ddylai ddal
cofrestr o'r fath a sut y byddai'n galluogi pleidleiswyr i arfer eu hawliau mewn ffyrdd gwahanol.
Nododd CE y byddai angen gwneud gwaith i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd cyn gwneud unrhyw newidiadau i'r etholfraint, ac y byddai angen amser i gyflawni hyn.
Gofynnodd CE ai cyflymder a chywirdeb yw'r amcanion sy'n sail i gyflwyno e-gyfrif. Dywedodd y dylid ystyried hyn yn ofalus am fod y
broses e-gyfrif yn llai tryloyw na'r system cyfrif â llaw.
Awgrymodd WG y gallai fod cyfleoedd i brofi syniadau newydd y tu allan i etholiadau, e.e. Refferenda Dinasoedd
Cyflwyniad gan Anna Daniel, ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar Greu Senedd i Gymru
Dywedodd ADan fod Comisiwn y Cynulliad wedi lansio ei ymgynghoriad ar 12 Chwefror ac y byddai'n dod i ben ar 6 Ebrill. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn sut beth yr hoffem i'n Senedd fod, ac roedd yn seiliedig ar nifer o argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ym mis Rhagfyr.
Dywedodd CE fod angen eglurder ynglŷn â ffiniau a chyfrifoldebau. Byddai'r ffiniau etholaethau presennol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn sail dda i'r gwaith hwn.
Dywedodd CE fod dyletswydd gofal yn ddyledus i Swyddogion Canlyniadau o ystyried y ffaith bod enw da Swyddog Canlyniadau yn
dibynnu ar lwyddiant/methiant etholiad.
Dywedodd RT y byddai'r Comisiwn Etholiadol yn ymateb ac awgrymodd y byddai'n fuddiol i BCEC ymateb hefyd. Gallai fod yn ddefnyddiol cynnwys llinell amser yn dangos pryd y byddai angen i ddeddfwriaeth fod mewn
grym ar gyfer etholiadau a drefnir yn 2021.
Awgrymodd CE y dylai ymateb BCEC drafod y canlynol:
- ni ddylid peryglu proses y mae pobl yn ei pharchu ac yn ymddiried ynddi
- y pleidleisiwr ddylai gael blaenoriaeth
- byddai dull pragmatig yn cael ei groesawu
- ni fyddai modd treialu newidiadau rhanbarthol
- mae etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddigwyddiad etholiadol unigol a phwysig na ddylid arbrofi ag ef
- symlrwydd/eglurder i'r pleidleisiwr
- addysg – cyfle prin
- byddai angen i ddeddfwriaeth fod mewn grym chwe mis cyn y canfas yn 2020
Cam gweithredu: BCEC i ymateb i ymgynghoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Greu Senedd i Gymru, gan gynnwys llinell amser
Blaenraglen Waith 2018
Derbyniwyd y Flaenraglen Waith ddrafft a byddai'n parhau i fod yn ddogfen weithredol a chael ei diweddaru gan yr ysgrifenyddiaeth yn ôl yr
angen.
Cytunwyd y byddai'r Bwrdd yn cynnal rhagor o gyfarfodydd ym mis Mehefin a mis Hydref 2018.
Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i ofyn am ddyddiadau ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod
Dywedodd RT fod blwyddyn wedi mynd heibio ers ffurfio BCEC ac y byddai'n ddefnyddiol cael adborth ar y ffordd y mae'r Bwrdd yn
gweithredu.
Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i ddosbarthu arolwg ar flwyddyn gyntaf BCEC