Cofnodion:Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru

Overview

Dyddiad: 17 Hydref 2018

Minutes

AEA Cymru

  • Dave Beecham, Dwyrain De Cymru (DB)
  • Amanda Bebb, Canolbarth a Gorllewin Cymru (AB)
  • Rhys George, Cadeirydd AEA Cymru (RG)
  • Rebecca Light, Canol De Cymru (RL)
  • Glynne Morgan, Is-gadeirydd AEA Cymru (GM)
  • Alison O’Hara, Gorllewin De Cymru (AO)
  • Lynn Phillips, Gogledd Cymru (LP)

Y Comisiwn Etholiadol

  • Rhydian Thomas (RT)
  • Catherine Uphill (CU)
  • Laura Ward (LW)

Gwesteion

  • Anna Daniel, Comisiwn y Cynulliad (AD)
  • Matthew Redmond, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (MR)
  • Gareth Thomas, Llywodraeth Cymru (GT) 
  • Angharad Thomas-Richards, Llywodraeth Cymru (ATR) 

  • Clare Sim, Gorllewin De Cymru - daeth Alison O'Hara fel dirprwy

Gwaith gweinyddol y cyfarfod

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

Eglurodd CU fod y rhan fwyaf o'r camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol wedi'u cwblhau. Roedd canllawiau ar gynnal adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol llywodraeth leol ochr yn ochr ag adolygiadau o ddosbarthiadau pleidleisio seneddol yn cael eu hystyried; byddai cynrychiolydd o'r Senedd Ieuenctid yn cael ei wahodd i gyfarfod mis Ionawr a byddai'r gwaith o gyflwyno cynllun sefydlu a mentora ar gyfer Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol newydd yn cael ei drafod gan GYEC mewn cyfarfodydd yn y dyfodol yn hytrach na gan is-grŵp.

Cam gweithredu: Gwahodd Swyddog o'r Senedd Ieuenctid i gyfarfod mis Ionawr

Cyflwyniad gan Matthew Redmond – Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Rhoddodd MR y wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBC). Roedd LDBC wedi cyhoeddi dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer yn 2016 a oedd yn nodi'r gweithdrefnau a'r fethodoleg ar gyfer adolygiadau etholiadol ac yn esbonio sut y byddai'n ystyried y nifer briodol o aelodau etholedig a nodwyd ar gyfer pob cyngor.

Dechreuodd yr adolygiadau ym mis Ionawr 2017. Mae 16 o adolygiadau wedi dechrau hyd yma ac mae dau wedi'u cwblhau. Byddai angen i  ywodraeth Cymru wneud y Gorchmynion perthnasol er mwyn i newidiadau arfaethedig gael eu rhoi ar waith.

Yn dilyn adolygiad 2018, cynigiodd y Comisiwn Ffiniau Seneddol 29 o etholaethau yng Nghymru. Roedd yn cydnabod nad oedd pob un yn ddelfrydol am mai dim ond 11 o'r etholaethau newydd oedd o fewn un ardal awdurdod lleol yn gyfan gwbl. Petai gorchymyn yn cael ei wneud yn mabwysiadu'r cynigion hyn, byddai'r ffiniau newydd yn gymwys yn etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU.

Byddai'r adolygiad nesaf yn dechrau yn 2021 gan ddefnyddio cofrestrau etholiadol mis Rhagfyr 2020. Byddai hyn ar sail y wardiau cyfredol a'r rheini a oedd wedi gwneud Gorchmynion ar yr adolygiadau ar yr adeg honno. Byddai LDBC yn gofyn am ddata ychwanegol gan awdurdodau lleol ar y sail honno.

Roedd ffiniau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ansicr. Gallai etholiadau fod yn anoddach i'w gweinyddu wrth i ffiniau symud ymhellach oddi wrth ei gilydd. Gallai hyn fod yn ddryslyd i etholwyr.

Roedd Swyddfa'r Cabinet wedi cynnal adolygiad pŵer interim er mwyn gwneud Gorchymyn i gysoni'r ffiniau. Roedd y pŵer hwn wedi cael ei dynnu felly mae ffiniau'r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlog.

Cafwyd cynnig i adolygu pob cyngor cymuned ledled Cymru. Roedd adolygiad blaenorol wedi cymryd 11 mlynedd i'w gwblhau gan fod Gorchmynion yn cael eu gwneud yn ystod y broses ac roedd ffiniau yn symud oddi wrth ei gilydd o hyd.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ddadansoddiad o ehangu'r etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed. Roed hyn yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru ac LDBC, ond nid oedd yn ymddangos y byddai hyn yn cael llawer o effaith ar y ffiniau.

Roedd adolygiadau o etholaethau seneddol yn cyd-fynd â'r Seneddau tymor penodol. Roedd etholiad cyffredinol nas trefnwyd Senedd y DU wedi golygu nad oeddent yn cyd-fynd â'i gilydd. Byddai adolygiadau 2022 yn cael eu cynnal cyn y byddai etholiad. Byddai hyn yn anodd ei egluro i bleidleiswyr.

Trafodaeth am enghreifftiau o fentrau sy'n gwneud gwasanaethau etholiadau mor hygyrch â phosibl

Dywedodd CU fod y Comisiwn wrthi'n ystyried gwella mynediad i etholiadau a rhannu arfer da ar hyn o bryd. Roedd Llywodraeth y DU wedi gofyn am farn pobl ym mis Medi 2017 ac roedd y Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad Etholiadau i Bawb fel rhan o'r alwad hon am dystiolaeth. Roedd nifer o gamau gweithredu wedi cael eu nodi gan gynnwys camau gweithredu ar gyfer Swyddogion Canlyniadau. Roedd y Comisiwn yn ceisio nodi sut y gallai helpu Swyddogion Canlyniadau yn hyn o beth ac roedd yn gobeithio rhannu enghreifftiau o arfer da o hyfforddiant staff gorsafoedd pleidleisio a chyfarpar a ddefnyddir mewn gorsafoedd pleidleisio.

Dywedodd RT y bu hanes da o weithio gyda grwpiau hygyrchedd yng Nghymru. Roedd y Comisiwn wedi llunio nifer o adnoddau gyda phartneriaid ac roedd rhai o'r partneriaid hyn wedi mynychu cyfarfodydd GYEC yn y gorffennol.

Dywedodd RG fod Caerdydd wedi creu fideos byr yn dangos sut i ddefnyddio'r dyfeisiau cyffyrddadwy a ddarperir mewn gorsafoedd pleidleisio a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant staff gorsafoedd pleidleisio.

Cam gweithredu: Cadeiryddion rhanbarthol i goladu enghreifftiau o arfer da o ran hygyrchedd gan Reolwyr Gwa

Y diweddaraf gan AEA

Rhoddodd RG y newyddion diweddaraf o gyfarfod cangen AEA Cymru a gynhaliwyd ym mis Medi. Cafwyd cyflwyniadau gan LDBC a'r Post Brenhinol, ac roedd Laura Lock (Dirprwy Brif Weithredwr AEA) wedi rhoi'r newyddion diweddaraf am waith cenedlaethol AEA.

Codwyd pryderon am y gorgyffwrdd o ran gwaith gyda'r rhaglen diwygio etholiadol, adolygiadau ffiniau a diwygio'r canfas. Byddai ymateb cenedlaethol gan AEA i ymgynghoriad y Comisiwn ar y cynllun arsylwyr etholiadol.

Yng nghyfarfod Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) yr wythnos flaenorol, roedd RB wedi codi'r mater ynghylch myfyrwyr a chofrestru awtomatig. Yn Lloegr mae'r Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil yn gorfodi prifysgolion i ddarparu gwybodaeth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol.

Nid oedd darpariaeth o'r fath yng Nghymru. Soniodd hefyd am bwysigrwydd trafod y bwriad i ehangu'r etholfraint gyda chyflenwyr meddalwedd etholiadol.

Roedd y Post Brenhinol wedi codi'r mater ynghylch cynnyrch Mailmark ac absenoldeb fersiwn ddwyieithog.

Dywedodd RT fod y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg wedi codi'r mater hwn gyda'r Post Brenhinol a Swyddfa'r Cabinet yn flaenorol.

Cam gweithredu: Y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg i ysgrifennu at y Post Brenhinol yn ffurfiol ynglŷn â diffyg cynnyrch Mailmark dwyieithog.

Gofynnodd DB a fyddai'r Comisiwn Etholiadol yn rhan o'r gwaith o gynllunio'r ffurflenni i'w defnyddio wrth ddiwygio'r canfas.

Cadarnhaodd RT fod hyn yn wir. Byddai'r Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg yn edrych ar y ffurflenni ac mae ganddo aelodau sy'n Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol a allai gyfrannu at yr adolygiad hwn.

Ychwanegodd CU y byddai profion grŵp defnyddwyr yn cael eu cynnal ar y ffurflenni.

Y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am gynlluniau ar gyfer diwygio etholiadau llywodraeth leol

Dywedodd ATR y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil ym mis Chwefror a fyddai'n ehangu'r etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a
dinasyddion tramor.

Dywedodd GT ei fod wedi bod yn gweithio ar ddarpariaethau'r Bil a fyddai'n rhoi dewis i awdurdodau lleol o ran pa system bleidleisio a ddefnyddir i ethol aelodau. Gallent barhau i ddefnyddio system y cyntaf i'r felin neu gallent gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer prif etholiadau sirol. Byddai'r manylion yn cael eu cynnwys mewn isddeddfwriaeth yn ddiweddarach.

Ceisiodd GT sicrwydd o ran p'un a ellid cynnwys deddfwriaeth sy'n ymwneud â fformat dogfennau etholiadol yn y rheolau etholiadol yn hytrach na'r Bil ei hun. Cytunodd y grŵp y byddai hyn yn dderbyniol.

Gofynnodd RT am effaith cynlluniau iaith Gymraeg awdurdodau lleol ar gynnal etholiadau petai swyddogaeth y Swyddog Canlyniadau yn dod yn rhan o rôl y Prif Weithredwr.

Cadarnhaodd ATR fod y mater hwn yn cael ei ystyried.

Gofynnodd RG a fyddai'r etholfraint yn cael ei ehangu i ddinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru.

Cadarnhaodd ATR y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol ond nid Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru).

Gofynnodd CU am y broses a'r amserlen ar gyfer nodi beth sydd angen ei gynnwys yn yr is-ddeddfwriaeth.

Dywedodd ATR fod proses ar waith i nodi elfennau i'w cynnwys yn yr isddeddfwriaeth a'u bod yn gweithio gyda chyfreithwyr ar yr amserlen.

Roeddent am roi cymaint o amser â phosibl i bobl gyflawni'r newidiadau.

Unwaith y bydd y Bil wedi'i gyflwyno, byddent yn dechrau gweithio ar yr isddeddfwriaeth.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiwn Etholiadol

Dywedodd CU fod y Comisiwn wedi dewis naw Swyddog Cofrestru Etholiadol i weithio gyda nhw fel rhan o'r gwaith o fonitro safonau perfformiad ar gyfer canfas blynyddol eleni. Cafodd nifer o Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu dewis am eu bod wedi cael eu penodi yn ddiweddar. Roedd CU ac RT wedi cwrdd â phob un o'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac eithrio un (y byddant yn cwrdd ag ef ym mis Tachwedd) i drafod eu cynlluniau ac roeddent wedi cynnal sgyrsiau am gynllunio gyda phob Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol. Roedd yr arolwg o ddata'r canfas wedi cael ei anfon at bob Swyddog Cofrestru Etholiadol a'r dyddiad cau ar gyfer ymateb oedd dydd Gwener 17 Tachwedd.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol adroddiad o'r enw Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr: canfasau blynyddol 2017 a 2018.

Roedd y Comisiwn wrthi'n ymgynghori ynglŷn â'i adolygiad o'r cynllun arsylwyr etholiadol. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 31 Hydref.

Roedd y Comisiwn wedi ymateb i ymgynghoriad polisi Llywodraeth y DU, 'Protecting the Debate', ac roedd yn paratoi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar wahân ar gynigion ar gyfer diwygio'r canfas blynyddol.

Roedd prosiect Moderneiddio Cofrestru Etholiadol yn mynd rhagddo'n dda ac roedd yr astudiaeth ddichonoldeb gyntaf ar sut y gallai Swyddogion Cofrestru Etholiadol wneud gwell defnydd o ffynonellau data (nad ydynt yn lleol) wedi'i chwblhau. Roedd y Comisiwn yn ymhelaethu ar yr astudiaeth hon drwy ystyried meysydd diwygio eraill, gan gynnwys dichonoldeb integreiddio trefniadau cofrestru etholiadol mewn trafodion eraill yn y wasanaethau cyhoeddus a systemau cofrestru etholiadol wedi'u hawtomeiddio fwy neu wedi'u galluogi fwy. Roedd disgwyl i'r astudiaethau dichonoldeb gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn a byddent yn cael eu rhannu.

Roedd gwaith yn parhau ar y prosiect Moderneiddio Canllawiau gyda'r cyfarfod grŵp defnyddwyr nesaf ar 26 Hydref.

Y diweddaraf gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru

Rhoddodd LW y newyddion diweddaraf o gyfarfod BCEC ar 11 Hydref.

Y prif siaradwr yn y cyfarfod oedd y Llywydd Elin Jones AC, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am hynt cyflwyno Bil Senedd ac Etholiadau Cymru (Cymru). Byddai'r Bil yn newid enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru, yn gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 oed, yn diwygio'r gyfraith o ran anghymhwyso unigolion rhag bod yn Aelod Cynulliad ac yn gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad. Y bwriad oedd rhoi'r newidiadau hyn ar waith mewn pryd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2021.

Roedd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad wedi argymell cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad a newid i'r system etholiadol a ddefnyddir i'w hethol. Nid oedd hyn wedi'i gynnwys yn y Bil ar hyn o bryd, ond pe ceid consensws yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, gellid cyflwyno deddfwriaeth er mwyn ei roi ar waith ar gyfer etholiadau 2021 neu 2026.

Cafwyd y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) hefyd. Y gobaith oedd y byddai copi drafft o'r Bil yn cael ei rannu â BCEC yn fuan a byddai hyn yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr. Gallai'r Bil Llywodraeth Leol gynnwys rhai darpariaethau nad oeddent wedi'u cynnwys ym Mil y Cynulliad, megis ehangu'r etholfraint i ddinasyddion tramor sy'n preswylio yng Nghymru a chynnig pleidlais i garcharorion.

Siaradodd GM am y gwaith yr oedd Cyngor Sir Penfro wedi ei ddechrau ar Bleidleisio'n 16 oed. Yn ddiweddar roedd Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro wedi trafod Pleidleisio'n 16 oed ac wedi gwahodd cynrychiolwyr o wahanol adrannau cynghorau a'r Comisiwn Etholiadol i drafod sut i mgysylltu â phobl ifanc o ran gostwng yr oedran pleidleisio. Roedd Cyngor Bro Morgannwg hefyd wedi dechrau gwneud gwaith ar hyn ac roedd BCEC yn annog Swyddogion Canlyniadau i ddechrau meddwl am yr hyn y gallent ei wneud yn eu hardaloedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac ymgysylltu.

Mae BCEC wedi datblygu Adnodd Asesu Gallu ac Adnoddau er mwyn i Swyddogion Canlyniadau asesu p'un a oes ganddynt ddigon o adnoddau i gyflawni gweithgareddau cofrestru ac etholiadol. Roedd y pecyn cymorth yn seiliedig ar gynllun gan Gyngor Sir y Fflint gyda mewnbwn gan AEA
Cymru. Byddai BCEC yn argymell i'r holl Swyddogion Canlyniadau eu bod yn cwblhau'r cynllun hwn a'i adolygu'n rheolaidd.

Rhoddodd Mark James (Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru) y newyddion diweddaraf am gynllun mentora a sefydlu BCEC a lansiwyd yn ddiweddar i gefnogi Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol newydd. Roedd yr holl Swyddogion Canlyniadau newydd wedi cael eu paru â mentor a oedd yn Swyddog Canlyniadau profiadol a all gynnig cyngor a chymorth ymarferol
iddynt. Cawsant ganllaw hefyd sy'n egluro eu rolau a'u cyfrifoldebau. I ategu hyn, roedd y Bwrdd wedi penderfynu trefnu digwyddiad hyfforddi ar gyfer Swyddogion Canlyniadau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Awgrymodd GM, gan fod BCEC yn annog Swyddogion Canlyniadau i benodi dirprwyon, y dylai'r dirprwyon newydd ddod i'r hyfforddiant hefyd.

Gofynnodd MR i Reolwyr Gwasanaethau Etholiadol rannu unrhyw ddata a oedd ganddynt drwy eu gwaith ar Bleidleisio'n 16 oed.

Dywedodd RL fod Bro Morgannwg yn sefydlu rhwydwaith ac yn ystyried y ffyrdd gorau o ddosbarthu gwybodaeth. Byddai'n creu pecyn o opsiynau i ysgolion ddewis ohonynt er ei bod wedi bod yn anodd ymgysylltu â nhw.

Roedd hefyd yn gweithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol a grwpiau ieuenctid.

Ychwanegodd GM fod hyn yn gyfle i ymgysylltu â phobl ifanc, nid yn unig o ran Pleidleisio'n 16 oed ond o ran democratiaeth yn gyffredinol.

Gofynnodd RG a fyddai'r Comisiwn yn llunio adnoddau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Bleidleisio'n 16 oed am fod y rhain yn ddefnyddiol iawn i'w defnyddio'n lleol.

Dywedodd RT y byddai ymgyrchoedd cenedlaethol yn cael eu cynnal gan y Comisiwn a sefydliadau eraill. Roedd yn syniad da sefydlu'r rhwydweithiau hyn nawr a darganfod beth mae pobl ifanc am ei gael a sut i weithio gyda nhw.

Dywedodd RL, er y gallai cofrestru awtomatig sicrhau llawer o bleidleiswyr ifanc, ei fod yn colli'r cyfle i siarad â phobl ifanc a'u haddysgu am ddemocratiaeth a phleidleisio.

Cam gweithredu: Cynnwys Pleidleisio'n 16 oed fel eitem sefydlog ar gyfer etholiadau yn y dyfodol

Y newyddion diweddaraf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru am gynlluniau ar gyfer diwygio etholiadol y Cynulliad

Dywedodd AD fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno i ganiatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) a fyddai'n newid enw'r Cynulliad, yn gostwng yr oedran pleidleisio ac yn gwneud newidiadau i'r cyfreithiau anghymwyso. Roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt o hyd am faint y Cynulliad a'r system bleidleisio.

Ni fyddai'r Bil yn ehangu'r etholfraint i gynnwys carcharorion na gwladolion nad ydynt yn perthyn i'r UE sy'n byw yng Nghymru a oedd yn golygu y gallai fod etholfraint sydd ychydig yn wahanol i etholiadau llywodraeth leol.

Byddai'r Bil yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd mis Ionawr 2019 pan fyddai cyfle i roi tystiolaeth a chyfle i'r pwyllgor graffu arno tan fis Gorffennaf. Rhagwelwyd y byddai'r ddeddfwriaeth yn cael ei phasio erbyn diwedd 2019 felly roedd amserlen dynn i bopeth fod yn ei le ar gyfer canfas 2020.

Roedd Comisiwn y Cynulliad wedi cwrdd â BCEC yr wythnos flaenorol a byddai'n rhannu'r darpariaethau drafft â'r Bwrdd.

Byddai cofrestru awtomatig yn gymwys i etholiadau'r Cynulliad ond byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol. Roedd yn gweithio'n
agos gyda Llywodraeth Cymru a byddai angen ystyried y ddau Fil gyda'i gilydd.

Roedd Comisiwn y Cynulliad yn ystyried sut y gall wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r newidiadau a'r hyn roedd pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad yn ei olygu. Byddai sesiwn yn cael ei chynnal gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn ym mis Ionawr. Byddai Senedd Ieuenctid Cymru yn dechrau cwrdd ar yr un pryd a byddai cysylltiadau da i'w cael ag ysgolion a grwpiau eraill. Roedd addysg ar ddinasyddiaeth yn bwysig ac roedd angen rhoi mwy o bwyslais ar hyn. Gellid ei chynnwys yn y cwricwlwm.

Dywedodd RT fod adnoddau yn broblem. Roedd angen i Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad gydbwyso'r gwaith y disgwylir ei wneud yn lleol â faint y byddai'n costio.

Dywedodd AD fod asesiad o'r costau a ble y byddai'r costau hynny'n gostwng wedi cael ei gynnal. Byddai hyn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil a gellid ei herio bryd hynny. Roeddent yn ymwybodol o'r goblygiadau i awdurdodau lleol a'r Comisiwn Etholiadol.

Gofynnodd MR a ellid ychwanegu adolygiad interim o ffiniau at y ddeddfwriaeth.

Ychwanegodd RG fod ffiniau etholiadol nad ydynt yn cyd-fynd â'i gilydd yn gwneud y gwaith o gynnal etholiadau yn fwy cymhleth ac yn cynyddu'r
risg o wallau.

Unrhyw fater arall

Cyfarfod nesaf i'w drefnu ar gyfer diwedd mis Ionawr neu ddechrau mis Chwefror, gan osgoi Cynhadledd AEA o 3 i 6 Chwefror.

Cam gweithredu: Dosbarthu dyddiadau posibl ar gyfer y cyfarfod nesaf